Sunday 12 June 2016

Llafar Gwlad 132



Carreg Moel y Tryfel


Llafar Gwlad 132
Rwyf yng nghanol ysgrifennu fy nghyfrol nesa ar archaeoleg ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch a byddaf yn canolbwyntio ar safleoedd yn nwyrain a chanolbarth Cymru yn y gyfrol honno. Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn teithio yn ôl ac ymlaen i wahanol safleoedd er mwyn dod i adnabod y safleoedd hynny yn well, a rhan o’r broses wedyn yw dod o hyd i gwestiynau sydd angen eu gofyn am y safleoedd hynny. Fel arfer gyda archaeoleg mae mwy o gwestiynau nac o atebion.
Felly mae elfen o apel yn fy ngholofn y tro hwn, apel am unrhyw wybodaeth pellach yn sicr, ond rwyf angen gofyn cwestiwn ynglyn a dau safle penodol gyda’r bwriad o weld os yw’r safleoedd yma yn unigryw neu os oes engreifftiau eraill tebyg yn rhywle arall yng Nghymru?

Carreg Moel y Tryfel, Llangadfan  (SH 979151)
Yn ystod fy ymweliadau a rhes gerrig Oes Efydd, ‘Cerrig yr Helfa’ ar Fynydd Dyfnant ger Llangadfan, (SH 985157) cyfeiriodd Annie Ellis, o ffermdy  cyfagos Pen y Coed, at y ‘maen bedydd’ (Carreg Moel y Tryfel), oedd ger y llwybr o’r ffermdy tuag at y mynydd. Roedd y garreg yma yn ddiethr i mi ond dyma wneud yn siwr fy mod yn cael golwg ar y garreg wrth gerdded am y mynydd.Mae’n debyg fod defnydd o’r enw maen bedydd ar lafar gan bobl leol wrth gyfeirio at Garreg Moel y Tryfel. 
Rwyf angen pwysleisio yma nad oes cysylltiad amlwg rhwng y faen bedydd a’r rhes gerrig Oes Efydd yn uwch ar y mynydd, rydym yn son am ddau safle gwahanol, tua hanner milltir oddiwrth eu gilydd. Rydym hefyd yn son am ddau safle o gyfnodau hollol wahanol o bosib – felly wrth ddechrau gofyn cwestiynau rhaid bod yn ofnadwy o ofalus a mor wrthrychol a phosib.

Mae Carreg Moel y Tryfel i’w gweld rhyw 10 medr i’r de-orllewin o’r giat i’r goedwig (Coedwig Dyfnant), ac ar y chwith i’r llwybr troed sydd yn arwain o fferm Pen y Coed ac o amgylch Bryn Perfedd tuag at y goedwig. Mesurai’r garreg oddeutu 150cm x 125cm gyda twll crwn canolig yn mesur 18x13cm ac o ddyfnder oddeutu 10cm. Bydd rhywun yn cerdded heibio Carreg Moel y Tryfel wrth gerdded am rhes gerrig Cerrig yr Helfa.
Yr hyn sydd yn weddol amlwg ar y ddaear yw fod y garreg gyda’r twll canolig yn gorwedd ar ben cerrig sylfaen, felly yr awgrym yw, fod rhywun wedi gosod y cerrig sylfaen yma er mwyn cael y garreg ‘maen bedydd’ yn wastad. Does dim posib fod ogwydd y garreg a’r twll yn y canol yn gyd-ddigwyddiad naturiol felly? Anodd bod yn 100% sicr ond mae popeth yn awgrymu fod dyn wedi bod yn rhannol gyfrifol yma – ond i ba bwrpas?
Hon yw’r garreg a elwir yn Moel y Tryfel Stone gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys (CPAT) ar gofrestr henebion Archwilio. Er fod awgrym fod cerfiad cafn nodyn (cupmark) ar y garreg awgrymir hefyd mai nodwedd naturiol yw hon mewn gwirionedd gan CPAT yn1988.
Cafn-nodau yw’r nodweddion bach crwn wedi eu naddu drwy gnocio hefo cerrig ar feinihirion Oes Efydd, beddrodau Neolithig neu greigiau naturiol. Y term Saesneg am naddu o’r fath yw ‘pecking’ sef y broses o ddefnyddio cerrig i gnocio twll bach crwn ar feini neu graig. Ceir cafn-nodau er engraifft ar nifer o greigiau naturiol o amgylch siambr gladdu Bryn Celli Ddu, ceir 110 ohonnynt ar gapfaen siambr gladdu Bachwen ger Clynnog Fawr a cheir hyd i rai ar un o feinihirion Trelech yn Sir Fynwy.
Does dim esboniad pendant am bwrpas y cafn-nodau yma ac i wneud pethau yn fwy cymhleth ceir hyd iddynt ar henebion Neolithig ac o’r Oes Efydd. Fe all hyn awgrymu fod yr arferiad o greu cafn-nodau yn pontio’r ddau gyfnod, ond gan eu bod yn ymddangos ar feinihirion, siambrau gladdu a chreigiau naturiol, anodd iawn yw ffurfio unrhyw ddamcanaieth gyson o ran beth oedd pwrpas neu arwyddocad yr arferiad penodol yma.

Rwyf wedi dangos lluniau i Dave Chapman (Ancient Arts) a’r archaeolegydd Frances Lynch ond yn amlwg heb weld y garreg go iawn, anodd oedd iddynt ffurfio barn. Er fod cafn-nodyn yn un posibiliad, mae ymyl y twll braidd yn fras ac yn arw i’w gyffwrdd a dydi’r cafn nodyn neu’r ‘fowlen’ ddim yn llyfn iawn chwaith.  Fel arfer mae cafn-nodau yn weddol llyfn gan eu bod wedi cael eu cnocio gan gerrig i greu y siap crwn a tydi’r twll yma ddim yn teimlo na edrych fel cafn-nodyn arferol i mi.
Mae’r twll, fel awgrymodd Frances, yn anarferol o fawr os yw’n gafn-nodyn cyn-hanesyddol a rhaid cytuno a hyn – fel arfer rhyw 4-5 cm ar draws yw’r cafn-nodau cyn-hanesyddol,

Yr hyn sydd yn od yw fod y twll yma yng nghanol y faen – dyma sydd yn gwneud i rhywun amau fod oel dyn yma yn hytrach na nodwedd naturiol? Cynnig arall gan Frances oedd fod y twll yn rhywbeth mwy diweddar gan ei fod mor amrwd a dyma lle mae rhywun yn gofyn cwestiwn arall. Os yw hwn yn faen bedydd fel mae’r traddodiad lleol yn awgrymu sgwn’i os mai twll amrwd iawn yw hwn yn perthyn i’r anghydffurfwyr cynnar?
Yn anffodus does gennym ddim tystiolaeth hanesyddol i gadarnhau hyn ac heblaw am y traddodiad llafar,  fawr ddim i gynnig esboniad pellach am y twll yng nghyd destyn unrhyw arferion bedyddio.

Ond, os yw’r twll yn nodwedd naturiol, rhaid cael barn daearegydd felly dyma gysylltu a Dyfed Elis-Gruffydd i holi am gyngor pellach. Fel Chapman a Lynch dydi Dyfed  heb weld y garreg ond mewn lluniau a mae gwir angen ymweld a’r garreg yng nghwmni daearegydd. Dydi’r archaeolegydd ddim o reidrwydd yn arbenigwr ar ddaeareg!
Ymhlith y posibiliadau mae pant hydoddiant neu blicnod rhewlifol, fe all hyn gynnig esboniad naturiol am y twll ond mae angen cael daearegydd hefo mi y tro nesa rwyf yn mynd yno!

Felly dyma’r cwestiwn, oes unrhywun arall wedi clywed am gerrig tebyg neu unrhyw draddodiad o feini bedydd yma yng Nghymru?



Carreg Moel y Tryfel


Carreg Llanfaglan (ar dir preifat)


Carreg Llanfaglan


Yn ddiweddar daeth carreg arall i’m sylw drwy garedigrwydd Ifor Williams, Llanfaglan. Eto, carreg a thwll crwn yn ei chanol ac eto gyda’r  ‘traddodiad’ yma o faen-bedydd ym gysylltiedig. Ceir hyd i’r garreg hon yn agos i hen safle Ffynnon Baglan (SH 460 608)  sydd bellach wedi ei glirio yn llwyr.
Yn sicr mae carreg Llanfaglan yn wahanol iawn i Garreg Moel y Tryfel; yma cawn fowlder naturiol yn mesur oddeutu 120 x 150cm yn gorwedd ar ben craig naturiol gyda twll neu folwen gron - gyda’r awgrym lleiaf o fod yn hirgron. Mesurai’r folwlen oddeutu 30cm ar ei thraws a rhyw 3-4cm o ddyfnedr. Mae’r fowlen yn llyfn iawn sydd yn awgrymu ei bod wedi cael ei gwisgo.
Dydi carreg Llanfaglan ddim yn edrych fel cafn-nodyn, yn wir mae’n debycach i fowlen mortar sydd yn rhywbeth gymharol gyffredin yn Oes yr Haearn ar gyfer paratoi bwydydd. Ond does dim aneddiad amlwg Oes yr Haearn yma sydd yn peri rhywun i chwilio am gysylltiad ac esboniad arall?
Ceir cerrig tebyg yn yr Iwerddon o’r enw ‘bullauns’, o’r Wyddeleg bullán am fowlen, sydd yn dyddio o’r canoloesoedd ac yn gysylltiedig a safleoedd crefyddol fel eglwysi, mynachdai, ffynhonnau a llwybrau pererinion. Ymhlith y dehongliadau mae awgrymiadau fod powleni o’r fath wedi cael eu defnyddio i falu mwyn haearn neu ar gyfer defnydd amaethyddol ayyb.
Cawn 44 garreg bullaun yng Nglendalough yn yr Iwerddon a’r awgrym yma yw fod y cerrig  yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd a phererindod yn gysylltiedig a Sant Kevin.
Roedd bowleni o’r fath  yn amlwg yn gallu casglu dŵr glaw, mae hyn i’w weld heddiw yn Llanfaglan, felly awgrym arall yw fod defnydd ymolchiad crefyddol neu buredigaeth  i’r dwr o’r fowlen?
Yng nghyd destyn carreg Llanfaglan rydym yn gwybod fod Ffynnon Baglan a hen eglwys Llanfaglan yn agos. Felly cwestiwn sydd rhaid ei ofyn yw a’i rhyw fath o fedyddfaen neu bowlen buredigaeth yw hon yn gysylltiedig a Sant Baglan a rhaid cofio hefyd fod y safle yma ar lwybr y pererinion am Enlli?
Oddi fewn i eglwys Llanfaglan mae carreg fedd o’r 5/6ed ganrif yn perthyn i Anatemorus mab Lovernius sydd yn cadarnhau fod Eglwys Sant Baglan yn un a hanes yn mynd yn ol i Oes y Seintiau.
Byddai awgrymu fod carreg Llanfaglan yn engraifft Gymreig o bullaun yn awgrymu cysylltiad crefyddol a diwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon yn y canoloesodd cynnar – rhywbeth na fedrwn ei brofi. Beth petae Gwyddel wedi bod yma yn Llanfaglan a wedi cyflwyno yr arfer o ddefnyddio bullaun i’r ardal?
Felly’r ail gwestiwn yw os oes unrhyw engreifftiau eraill o gerrig bullaun yma yng Nghymru?





No comments:

Post a Comment