Monday 18 July 2016

Gareth Bale yn Nant Gwrtheyrn, Herald Gymraeg 13 Gorffennaf 2016




Rwyf yn edrych ymlaen rhywsut at gael dychwelyd at fywyd ‘arferol’ yn trafod a sgwennu am archaeoleg a diwylliant (amgen) Cymraeg ond rhaid yndoes grybwyll beth ddigwyddodd gyda tim peldroed Cymru yng nghystadleuaeth Ewros 2106. Fel rwyf wedi son yn fy ngholofn dros y bythefnos ddwetha, prin iawn yw fy nghymwysterau fel sylwebydd gwleidyddol ond ‘ddim yn bodoli o gwbl’ mae fy arbenigedd ar beldroed.

A bod yn hollol onest, y tro dwetha i mi gymeryd diddordeb go iawn mewn peldroed oedd cyfnod George Best, Bobby Charlton a Denis Law, sydd yn rhoi syniad eitha da i chi o lle dwi arni. Ond dyma dro ar fyd, dyma ddechrau sylweddoli fod rhywbeth yn digwydd, ac o gymeryd ‘diddordeb’ yn y canlyniadau, dyma ddechrau gwylio’r gemau ar y teledu. O fewn dim roeddwn wedi cael troedigaeth.

Ychydig iawn o fy nghyd-weithwyr yn y byd archaeoleg oedd yn cymeryd unrhyw sylw o’r Gystadleuaeth a dyma ddechrau glywed fy llais dros amser panad yn mynegi fy ngobeithion a fy ngofidion am y gêm nesa fel petawn wedi dilyn y peth erioed. Ymateb fy nghydweithwyr ar y cyfan oedd edrych yn syn arnaf.

Erbyn y gêm yn erbyn Gwlad Belg methais ac eistedd yn llonydd ar y soffa i wylio’r gêm. Codais gyda ochneidiau aflafar bob tro roedd Bale yn agosau at y gôl - roeddwn wedi troi mewn i ddilynwr brwd (‘ffan’) dros dro yn sicr. Erbyn y gêm yn erbyn Portiwgal roeddwn yn deall pam fod sylwebyddion yn cyfeirio at ‘artaith’ ac erbyn 5 o’r gloch y prynhawn tyngedfennol yna roeddwn ar bigau’r drain
.
Cyfeirwyd at y ‘daith anhygoel’ y bu’r peldroedwyr a’r dilynwyr arni dros yr wythnosau dwetha ac heb os fe welwyd brwdfrydedd anhygoel led led Cymru ac erbyn y diwedd dros Brydain gyfan wrth i Loegr fethu mor drawiadol a Gogledd Iwerddon golli i Gymru. Roedd pawn isho bod yn Gymro, hyd yn oed Cameron.

Heb os, fe gafodd yr Iaith Gymraeg hwb amhrisiadwy o ran PR, a fe fu hyd yn oed y cwmniau masnachol mawr yn cydnabod gwerth defnyddio’r Gymraeg er mwyn gwerthu pethau i ni da ni ddim wirioneddol eu hangen. Os am gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae’n weddol amlwg fod y tim peldroed yn gorfod chwarae rhan allweddol yn y frwydr yna. Bale yn Nant Gwrtheyrn ar S4C!

Byddai cyrraedd y gêm derfynol wedi bod yn beth anhygoel, ac wrth reswm mae’n siom enfawr colli mor agos i’r lan, ac eto, mae pawb di dallt hi – roedd cyrraedd mor bell ac y gwanaethom yn beth anhygoel hefyd – yn debygol o ysbrydoli cenhedlaeth newydd ifanc o beldroedwyr am flynyddoedd i ddod.

Rhoddwyd hwb i’n ‘hyder Cenedlaethol’ heb os, ond wrth sobri y bore wedyn ar ôl gêm Portiwgal, roedd yr hen gwmwl du yn ail ymddangos. Rydym yn parhau i wynebu’r her wleidyddol fwyaf a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd. Awgrymwyd gan rai sylwebyddion gwleidyddol y bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael hyd i ffordd o barhau yn yr Undeb Ewropeaidd tra bydd Cymru yn cael ei gadael ar ôl fel rhyw atodiad dibwys i Loegr. A tydi Lloegr ddim hyd yn oed yn gallu chwarae peldroed yn iawn!


Doedd fawr o neb am wynebu hyn nos Fercher dwetha ond sylwais fod y colofnydd Iestyn George (gynt o’r NME) wedi trydar ei fod yn falch o fod yn Gymro heblaw pan rydym yn pleidleisio i adael yr UE. Dwi dal yn ei chael hi’n anodd deall beth oedd hanner dilynwyr peldroed Cymru yn ei feddwl. Rhywsut rhaid uno pawb ar y terasau heb son am ein cymunedau. Rwan mae’r gwaith caled yn dechrau, a mae meddwl am fod yn rhan ddibwys o Loegr yn wirioneddol frawychus!

1 comment:

  1. Mae'n dangos fod gennon ni nerth pan da ni yn ceisio, gwych dros ben oedd tim pel-droed Cymru

    ReplyDelete