Thursday 7 July 2016

'Rock Against Racism', Herald Gymraeg 6 Gorffennaf 2106




Byddaf yn disgrifio fy hyn yn aml fel ‘anarchydd gwael’, oherwydd y ffaith fy mod yn pleidleisio yn hytrach nac yn ymwrthod yn llwyr a’r drefn wleidyddol sydd ohonni. Ystyr anarchiaeth yn ei ffurf mwyaf positif yw ffordd neu model arall o sut y gallwn drefnu cymdeithas heb heirarchaeth, heb wladwriaeth, heb lywodraeth. Damcanaieth wleidyddol amgen efallai, ond dim mor afresymol a hynny o ran yr egwyddorion sylfaenol o gydraddoldeb a thegwch tuag at ein cyd-ddyn.

Fe all rhywun ddadlau fod Comiwnyddiaeth yr un mor anghyrraeddadwy yn yr oes sydd ohonni, ac eto dim ond ffwl fyddai yn gofyn pam fod eira yn wyn ac yn fodlon di-ystyrru yr ochr orau o’r damcaniaeth/syniadau yma.Felly hefyd gyda egwyddorion y Blaid Werdd, anodd anghytuno 9 gwaith allan o 10.

Ond gan ein bod yn byw yn y byd go iawn, dyma’r ‘anarchydd gwael’, sydd yn byw yng Ngwynedd, yn peidleisio dros Plaid Cymru bob tro. Pleidlais wag fyddai’r un i’r Blaid Werdd a Duw a’n helpo petae y Toriaid yn fuddugolaethus, (mwy o beryg ar Ynys Mon er engraifft) felly pleidleisio amdani.

Mae canlyniad y Refferendwm (ffôl a di-angen) ar y UE yn brathu rhywun ar ei ben ôl – dyma syd yn digwydd pan mae’r werin yn cael eu hudo gan yr asgell dde a wedyn yn rhoi croes ar bapur. Heb os, heb os, bydda’r union bobl yma (yr anllythenog wleidyddol fel y galwais nhw yr wythnos dwetha) yn pleidleisio dros atgyfodi crogi a dienyddio fel y gosb eithaf. Anodd bod yn hollol siwr na fyddai gwrachod yn cael eu boddi hefyd o ystyried yr ofnau sydd wedi eu chwipio i’r amlwg gan y Dde (eithafol).

Teimlais yn euog (braidd) wrth sgwennu wythnos yn ol yn yr Herald a chyfeirio at punk fel dylanwad gwleidyddol positif ond dyma ni, heddiw, 2016, diolch i Dave, George, Michael, Boris, Nigel, mae hiliaeth yn fyw ac yn iach ar strydoedd y Deyrnas Doredig. Does ond rhaid dilyn y cyfryngau cymdeithasol a gweld faint o ddoctoriaid, siopwyr, myfyrwyr sydd wedi deffro y bore canlynol a’r anllythrenog wleidyddol yn gofyn iddynt ‘pam eu bod dal yma? – rydym wedi pleidleisio i’ch gyrru adre’.

Cewch ddrwgdybio/chwerthin am punk ac anarchiaeth os mynnwch ond oleiaf roedd grwpiau fel The Clash, Aswad, Misty in Roots, Sham 69 yn rhannu llwyfan ‘Rock Against Racism ym1979 ac yn cyrraedd yr anllythrenog wleidyddol, y di-freintiedig, y tlawd, y di-waith. Roedd Strummer yn gallu cyfathrebu. Methodd y National Front wneud cynnydd.
Os dysgodd punk unrhywbeth i ni, peidiwch ac ymddiried mewn dyn hefo barf a sandalau (onibai am Che a Christ efallai), does dim dwy waith fod rhaid i Corbyn fynd am y rheswm syml, ar yr awr dyngedfennol yma does dim gwrthblaid cenedlaethol Brydeinig. Mae Sturgeon a’r SNP yn agosach na’r Blaid Lafur. Efallai fod angen i’r SNP gymeryd y seddau yna drosodd unwaith eto!

A beth am Gymru? Y diweddara yw fod Plaid Cymru am awgrymu rhyw ffurff o Annibyniaeth drwy uno’r gwladwriaethau unigol ym Mhrydain oddi fewn i Erwop. Eto, anodd anghytuno a’r sentiment. Ond, wrth dagu dros fy mhaned, mae yna waith i’w wneud bois bach. Heblaw am Wynedd, Ceredigion, Caerdydd, Bro Morgannwg a’r sir lleiaf ‘Cymreig’, Mynwy, mae’r gweddil wedi ochri hefo Lloegr/Boris/UKIP a chymaint wedi mynd yn groes i’w haelodau Seneddol a Chynulliad. Pob lwc.


Os medraf helpu, neu awgrymu fod angen i’r Byd Pop Cymraeg ymateb rhywsut, byddai dechrau cyfres o gigs Rock Against Racism yn un cam fach ymlaen. Beth bynnag arall gallwn ei gyflawni yn y tymor byr – mae’n hollol bosib dechrau herio hiliaeth. Fel arall does fawr o arweiniad gwleidyddol sydd yn fy argyhoeddi i roi’r gorau i fod yn anarchydd gwael.

No comments:

Post a Comment