Wednesday 27 July 2016

Y Sioe Frenhinol, Herald Gymraeg 27 Gorffennaf 2016




Ardent Eisteddfodwyr may disagree, but the Royal Welsh is the nation’s true cauldron’. Geiriau yr awdur a’r seico-ddaearyddwr Mike Parker yn ei lyfr Real Powys (2011). Nid fod hon i fod yn gystadleuaeth (rhwng y ddwy ŵyl) ond mae darllen sylwadau Parker, mewnfudwr sydd bellach yn Gymro, yn ysbrydoli rhywun i edrych ar y Sioe Frenhinol drwy sbectol wahanol.

Amlwg felly i Parker, sydd yn rhydd o’r rhagfarnau ieithyddol mae’r gweddill ohonnom wedi eu hetifeddu, fod maes y Sioe Frenhinol yn un lle, lle mae’r ddwy iaith yn cerdded llaw yn llaw. Dim ond seico-ddaearyddwr ac awdur o dras amgen fel Parker all gyfeirio at ddwy-ieithrwydd fel hyn: “the Welsh and English languages collide and elide, slipping over one another like post-coital lovers’.

Er mor farddol yw geiriau Parker, rwyf wedi colli’r trywydd braidd o ran y rhyw ol-gytgnawdol, ond dyna ddawn yr awdur, plethu geiriau, creu darluniau a thirwedd newydd (ar gyfer Powys) a siawns …… ysbrydoli rhywun i grwydro …….

Defaid yw defaid a gwartheg yw gwartheg, tyfais fyny drws nesa iddynt yn Llanfair Caerenion. Drwy’r drws ffrynt a cherdded y ffordd darmac (ddim cweit yn stryd) i’r pentref, drwy’s drws cefn a dros gamfa i’r caeau (o ddefaid a gwartheg). Ond rhyfeddais yn y Sioe ar y gwahanol liwiau. Doedd dim defaid a gwlan melyn yn Llanfair Caereinion yn y 1970au mae hynny yn sicr.

Gallwn fod wedi treulio gweddill y diwrnod yn trafod y gwahanol fridau o ddefaid, yn hawdd. Pa well ffordd o ddysgu na chael sgwrs hefo’r perchnogion balch, yn enwedig y rhai gyda’r rhosglwm Dosbarth 1af ar eu brest, mor falch a buddugolaethus. Ond nid diwrnod felly oedd hi, roeddwn yno i weithio, ac ar ben hynny roedd y teulu wedi dod hefo fi am dro. (Peth prin yw cael hogiau yn eu harddegau i ddod am dro hefo ‘Dad’ dyddiau yma!).

Am 2-20 y pnawn roedd awyren Spitfire yn hedfan dros y maes, a hynny sawl gwaith. Clywsom rhuthr yr injan rhai munudau cyn i ni gael golwg ar yr awyren ei hyn – a dyma hi yn dod dros y bryniau i’r gogledd yn isel ac yn gyflym cyn troi ar ei hochr ac amlygu’r arwydd targed cylchog RAF o dan ei hadenydd.  Dyma fi yn hogyn 10oed eto. Am gyffrous, ac ar ben hynny roedd y ddau arddegyn wedi eu cyfareddu hefyd – diolch byth am hynny – rhywbeth iddynt fwynhau.

Cafwyd gwledd a dweud y gwir, yn enwedig yn yr ymrysonfa ganolig, gyda Cossacks o’r Iwcrain yn cyflawni campweithiau ar eu ceffylau a thryciau anferth yn gyrru dros rhesi o geir gan eu malu’n rhacs i gyfeiliant cyflwynydd yn herio’r dorf – “Yda chi’n barod am chydig o ddinistr?” Erbyn hyn roedd ‘Dad’ wedi adfer mymryn bach o hygrydedd – “ylwch hogia dydi gwaith ‘Dad’ ddim bob amser yn ddiflas”.

Uchafbwynt arall, y tro yma ychydig fwy llythrennol, oedd cael mynediad i falconi S4C, roeddwn yma i ffilmio hefo Heno/S4C. Roedd yr arddegwyr yn falch o gael eistedd i lawr erbyn hyn a thra roedd ‘Dad yn ffilmio’ fe gafo’ nhw ei sbwilio gan y gyflwynwraig Sian Thomas a oedd yn gwneud yn siwr fod ganddynt gyflenwad barhaol o ddiod a biscedi. Chymerodd yr un o’r ddau unrhyw sylw o’r ffilmio ond cafwyd cyfle i weld ceffylau yn neidio a rasio a hynny o seddi ddigon moethus ar y balconi diolch i S4C. Braf cael rhyw fân fantais weithiau yntydi!.


Er fod gwaith wedi hawlio rhan fwyaf o fy sylw, mwynheais fy ymweliad yn fawr iawn.Os dychwelaf eto dwi am wneud yn siwr fy mod yn cael dysgu mwy am y bridau defaid anhygoel melyn yna!

No comments:

Post a Comment