Wednesday 3 August 2016

134dd Arddangosfa Haf Flynyddol yr Academi Frenhinol Cambriaidd, Herald Gymraeg 3 Awst 2016





Sefydlwyd yr Academi Frenhinol Cambriaidd ym 1881, gyda sêl bendith Fictoria, fel canolbwynt ar gyfer rhagoriaeth mewn celf weledol Gymreig. Dau o fy arwyr mawr oedd ymhlith y sylfaenwyr, yr arlunwyr David Cox a Clarence Whaite – dau oedd wedi sefydlu’r wladfa arlunwyr ym Metws y Coed.

Yn wir y ‘wladfa’ ym Metws y Coed oedd y cyntaf o’i fath ar Ynysoedd Prydain gyda arlunwyr yn cael eu denu at dirwedd wyllt, fynyddig a chymharol ddi-arffordd Betws y Coed pryd hynny. Newidiodd pethau wedyn gyda dyfodiad y rheilffordd i ogledd Cymru a dyna ddiwedd ar lonyddwch y pentref hynod hwnnw.

Ewch i’r bar yn y Royal Oak a mae un o baentiadau Cox yn dal yno uwch y lle tan. O ran y wladfa arlunwyr, dyma ddarn bach o hanes holl bwysig o ran hanes celf yng Nghymru. Yr holl dirlunwyr yn ymgynull yn y Royal Oak, yn crwydro ac yn peintio a Cox a Whaite yn cynnal y drafodaeth a’r momentwm. Dau Sais.

A dyma rhywsut amlygu rhai o’r rhwystredigaethau sydd yna ynglyn ac ynghlwm a sefydliadau fel hyn. Y gair ‘Brenhinol’ yn achosi pryder i rai. Y ffaith mae nhw a nid ni gafodd y syniad – ond yr ateb syml, neu y cwestiwm syml, sydd rhaid ei fynegi – lle roedd y Cymry Cymraeg talentog artistig? Rhy brysur yn ffermio i beintio? O bosib.

Er mor ddiddorol y drafodaeth bosib, does fawr o fynedd gennyf ymhelaethu ar hyn go iawn. Beth am edrych ar y ffeithiau. Mae oriel hyfryd yng Nghonwy gyda mynediad am ddim lle gallwn fwynhau celf Gymreig. Mae hyn yn ddigon i mi. Yn ail, fe ysgogodd sefydlu’r Academi Cambriaidd (dynion yn unig ar y dechrau)  i Augusta Mostyn sefydlu rhywbeth cyfatebol ar gyfer y merched.

O ganlyniad mae gennym Mostyn (Oriel Mostyn gynt) yn Llandudno. Oriel arall hyfryd, caffi da a chelf heriol a modern os nad ôl-fodern, os nad ôl-ôl-fodern. Felly dwy oriel o fewn tafliad carreg. Dwy oriel o safon rhyngwaldol. Dwy oriel hollol wahanol. Yma yng ngogledd Cymru. Ymfalchiwn.

Cyn gorffen a Whaite, mae penddelw ohonno ger y grisiau am yr oriel llawr cyntaf yn yr Academi Cambriaidd. Mis Gorffennaf yma cefais wahoddiad i agor y 134dd Arddangosfa Haf Flynyddol y Cambriad. Fel arfer os daw gwahoddiad o’r fath byddaf yn meddwl yn ofalus o flaen llaw am drywydd fy ‘araith’. Efallai na fyddaf yn dewis yr union eiriau, ond byddaf yn ystyried yn ofalus iawn iawn pa drywydd i’w ddilyn.

Credaf fod angen i’r celfyddydau a diwylliant Cymraeg a Chymreig bob amser fynegi barn. Mae cyfrifoldeb arnom i wella pethau ac yn sgil canlyniad y bleidlais dros Brexit, roedd rhaid oleiaf awgrymu fod y Byd Celf Cymreig yn un oedd yn groesawgar, yn un sydd yn edrych am allan, yn un sydd yn rhan o’r Byd (gan gynnwys Ewrop). Nath neb wrthwynebu.

Cyflwynais fy mhwt o araith yn ddwy-ieithog a gwneud hynny mewn ffordd naturiol a di-ffwdan. Diolchwyd i mi wedyn gan sawl un o’r gynulleidfa artistig  am gynnwys y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn cael ei cholli weithiau, nid oherwydd unrhyw wrthwynebiad na hyd yn oed difaterwch ond am y rheswm syml – da ni ddim yna. Rhaid bod yno. Syml.



Newyddion da i’r Cambriad (ac i ni ddilynwyr y Byd Celf Cymreig) yw dyfodiad Elfyn Lewis a Iwan Bala at eu rhengoedd. Elfyn oedd yn gyfrifol am ddelweddau cloriau recordiau cyntaf y grwp Catatonia. Defnyddiais hyn fel fy llinell agoriadol er mwyn pontio rhwng y pop a’r celf.

Cyfeirwyd ataf fel ‘punk’ wrth fy nghroesau i’r podiwm. Chwerthais yn gwrtais fel arfer – ond does dim o’i le a chwistrellu ychydig o punk i sefyllfeydd a sefydliadau o’r fath.

No comments:

Post a Comment