Wednesday, 31 August 2016

Fflamau Jamaica, Herald Gymraeg 31 Awst 2016








Dwi ’di bod yn trio cofio beth yn union yr oeddwn yn ei wneud yn 2005. A hynny bellach dros ddeng mlynedd yn ôl, nid mor hawdd yw cofio heb fynd i bori drwy hen ddyddiaduron. Y gwir yw, fy mod yng nghanol fy nghyfnod yn rheoli artistiaid a grwpiau pop ac yn cwblhau fy hunangofiant (a oedd yn bennaf yn ymdrin a fy nghyfnod yn y Byd Pop).

Felly dyma chi gwestiwn da, sut yn y byd bu i mi golli cyhoeddi y gyfrol hynod ‘Fflamau Jamaica’ (2005), Gwasg Carreg Gwalch, gan Elwyn Evans o Bwllheli? Dyma lyfr a fyddai wedi bod o ddiddordeb mawr i mi fel Cymro sydd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth ac yn sicr fel Cymro sydd wedi tyfu fyny ar punk a reggae gyda unrhywbeth o’r Slits i Steel Pulse, heb son am ‘Guns of Brixtion’ a ‘Buffalo Soldiers’, wedi bod yn gyfeiliant i fy ieuenctyd (ddim mor) ffôl.

Dyma chi rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i mi, sut mae’r holl beth diwylliannol yma yn gweithio yng Nghymru? Efallai fod y peth mor syml a hyn, rhywsut yn fy mhrysurdeb collais unrhyw sylw y cafodd y gyfrol. Od iawn cofiwch, na fyddai rhywun, un o fy nghyfoedion gyda pen reggae, wedi cyfeirio at y gyfrol? Ond mae’r pethau yma yn digwydd. Mae pethau da yn cael eu cyhoeddi a neb yn cymeryd sylw. A’i felly oedd hi gyda ‘Fflamau Jamaica’?

Beth am roi ‘Fflamau Jamaica’ i mewn i Google a gweld beth ddigwyddith?  Dim syndod gweld fod copiau ar werth ar Amazon. Dyna’r peth cyntaf ymddangosodd ar restr Google. Cawn gyfeiriad arall, ac adolygiad, ar safle gwales.com a chawn wybod mai llyfr gan Elwyn Evans yw’r gyfrol ar Wikipedia. Ond fel arall, prin iwan yw’r wybodaeth am y llyfr.

Yr unig ddarn o ‘newyddion’ y cefais hyd iddo oedd ar safle we Newyddion y BBC yn adrodd fod parti lansio’r gyfrol wedi cael ei gynnal yng ngardd Gwestyu’r Plu yn Llanystumdwy (syniad ardderchog). Y cwestiwn amlwg felly oedd, beth ddigwyddodd i whaoddiad colofnwyr yr Herald Gymraeg? Gyda sicrwydd o adolygiad gor-ganmoliaethus gan Mwyn yn sicr, fe gollwyd cyfle yndo?

Chefais i ddim mwy o wybodaeth ar Google a rho’s y gorau i chwilota ar dudalen 3 achos dim on cyfeiriadau at Jamaica y wlad oedd yn ymddangos wedyn. Yn y gobaith fod y Cyfryngau Cymraeg wedi ymateb i’r gyfrol ar y pryd, efallai na phostiwyd llawer ar y we, rhaid cofio fod hyn cyn dyfodiad trydar (lansiwyd 2006) a phoblogrwydd go iawn Facebook (lansiwyd 2004).

Ond, os na chafwyd sylw i’r gyfrol ar y pryd, ydi hyn yn awgrym o gyfyngu ar ffiniau ‘diwylliant’ yn y Gymru Gymraeg boed hynny yn fwriadol, yn anfwriadol neu drwy rhyw ddiymadferthrwydd diwylliannol? Dim ein pethau (Pethe) ni yw hyn. Hynny yw, rhywsut, fod hwn yn rhywbeth anghyfarwydd, ddim yr arferol, ddim yn rhan o’r lleisiau arferol, a felly wedi syrthio rhwng craciau yn y llawr i rhyw selar dywyll lle doedd neb yn cadw gwin a felly byth yn ei thywyllu?




Fel arfer, wrth son am ein dylanwadau diwylliannol, mae disgwyl i ni enwi T.H, Kate, Saunders, Waldo, Jarman a Dave Datblygu hyd yn oed (yn sicr gan y trydarati), ac yn aml mae hynny yn digwydd. Ond, mae rhyw ffwdanu diwylliannol yn gysylltiedig a’r Gymru Cymraeg yn fy marn i. Mae hi ’di cymeryd dros 30 mlynedd i David R Edwards a Pat Datblygu cael rhyw fath o ‘barch haeddiannol’ gan fwy na hoelion wyth amlwg y lleiafrif tanddaearol.

Yr hyn sydd yn poeni rhywun yw fod y naratif Cymraeg rhy gyfyng. Wrthgwrs, mae pethau wedi newid ac yn parhau i newid er gwell ond i ddyfynu geiriau Dave Datblygu, “Mae byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu”. Oes ganddo bwynt, hyd yn oed heddiw? Hyd yn oed 30 mlynedd yn ddiweddarach? Ara deg mae dal iâr, medda nhw, ond efallai fod ara deg rhy ara deg, mae angen brasgamu o ran y naratif.

Dwni’m os byddai cerddoriaeth Cymraeg erioed wedi cydio yn Mr Mwyn yn ei arddegau onibai am ganeuon reggae fel ‘Rocers’ ac ‘SOS yn Galw Gari Tryfan’. Roedd y wefr o chwarae LP feinyl ‘Gwesty Cymru’ ochr yn ochr a rhywbeth fel ‘White Man in Hammersmith Palais’ yn ddigon i gadarnhau i mi fod gobaith. Gobaith fod stwff Cymraeg nid yn unig yn ‘cŵl’ ond yn sefyll ochr yn ochr hyd yn oed a recordiau Strummer a’r Clash.

Dyna ddigon o ddamcaniaethu. Hoffwn glywed os bu unrhyw gyhoeddusrwydd i’r llyfr yn 2005? Hoffwn wybod na anwybyddwyd y peth yn llwyr. Gobeithiaf mae y fi oedd yn rhy brysur a mae arnaf i oedd y bai am fod a fy llygaid wedi cau. Mae angen llyfrau fel hyn yn y Gymraeg achos beth mae Elwyn wedi ei gyflanwi yw trawsblannu profiadau rhywun o Ben Llŷn i stryddoedd hynod beryglus Kingston a mae hynny yn gwneud darlen hanfodol.

Llwyddodd Elwyn i ddod ar holl brofiad o ymweld a Jamaica yn fyw. Wrth ddarllen mae rhywun yn clywed y synnau, yn arogli’r aroglau ac yn rhan o’r cyffro a’r wefr. Cawn lyfr o amryliw a haenau fel y paentiad gorau gan J.M.W. Turner. Cawn ein trawsblannu gyda Elwyn i’r siopau recordiau a’r stiwdios recordio a’r nosweithiau Sound System a bron fod rhywun yn ‘clwyed’ y trac sain.


Gan fod copiau ar werth ar y we, ewch amdani archebwch eich copi a mwynhewch y darllen, neu hyd yn oed gofynnwch yn eich siop lyfrau lleol iddynt chwilota yn yr hen focsus yna o 2005!



Dyma gyfweliad gyda Elwyn gan Tudur Huws Jones ar ran yr Herald Gymraeg 0 2005:
Cariad yn drech nag ofn ar strydoedd gwaedlyd Kingston
Mae’n un o ddinasoedd perycla’r byd, ond bu Tudur Huws Jones yn sgwrsio â Chymro sy’n cael croeso mawr yno bob tro

‘ROEDD Mam wastad yn dweud bo fi ddim yn gall,” meddai. “Ond gwirion faswn i’n ddweud ydw i.”
Gwirion fasa’r rhan fwyaf ohonom yn galw dyn gwyn sy’n fodlon mentro ar ei ben ei hun i ganol un o ddinasoedd perycla’r byd – Kingston,  Jamaica .
Mae’r newyddion teledu a’r papurau newydd yn llawn adroddiadau am bobl yn cael eu saethu, eu trywanu neu’i curo i farwolaeth – a hynny’n ddyddiol.
Mae  Jamaica  yn ail yn y byd yn nhermau nifer o lofruddiaethau. Colombia sydd â’r fraint amheus o fod ar y brig.
Y llynedd llofruddiwyd 1,327 o ddinasyddion  Jamaica  – 0.5% o’r boblogaeth, ac yn Kingston y digwyddodd 80% o’r rheiny. Tasa cyfradd llofruddiaeth gwledydd Prydain yr un fath â  Jamaica , byddai 34,500 o drigolion yn cael eu mwrdro bob blwyddyn. Fel mae hi, tua 1,000 o lofruddiaethau sy’n cael eu cofnodi yma’n flynyddol.
Beth sy’n gyrru dyn o Bentre Poeth, Pwllheli i’r fath uffern o le?
Cariad. Be arall.
Cariad at gerddoriaeth a diwylliant  Jamaica , sy’n berwi yng ngwaed Elwyn Efans ers pan oedd o’n llefnyn yn ei arddegau.
Mae cariad yn cuddio pob pechod, meddan nhw, ac mae Elwyn yn gwrthod rhedeg ar y ddinas a’i phobl.
“Tasa chitha mor dlawd a difreintiedig â’r rhan fwyaf o bobl  Jamaica , fe wnaech chi unrhywbeth bron i wella eich bywyd. Dyna ydi gwraidd y rhan fwyaf o’r problemau,” meddai.
Ac yn groes i gyngor pawb bron, mentrodd i dân poeth Kingston i ddiwallu ei chwant am recordiau a chael cyfle i flasu diwylliant unigryw’r ynys.
Ers yr ymweliad cyntaf hwnnw yn 2000, mae o wedi dychwelyd yno bedair gwaith gan aros am dair wythnos ar y tro. A bellach mae o wedi defnyddio’r ymweliadau a’r obsesiwn efo cerddoriaeth reggae, a’i ffurf ddiweddaraf – dancehall – yn sail i lyfr am ei brofiadau.
“Roeddwn i wedi bod isio mynd i  Jamaica , a Kingston yn enwedig ers blynyddoedd,” meddai Elwyn.
“Pan o’n i tua 11 neu 12 oed roedd gen i obsesiwn efo’r Mods – eu dillad a’u miwsig, ac mae’r holl beth wedi dechrau yn fan’no,” meddai.
Bum mlynedd yn ôl oedd hi, ac Elwyn yn methu maddau mwyach i’r ysfa i fynd draw yno.
Roedd o newydd dderbyn tâl diswyddiad gwirfoddol gan gwmni Manweb, felly roedd ganddo “lwmp swm” i wireddu ei freuddwyd.
Am yr wythnos gyntaf bu ef a’i wraig Ann yn aros mewn pentref gyda’r enw hudolus Treasure Beach, ymhell o sn a thrais y ddinas ddrwg.
Wedi hynny roedd Ann yn dychwelyd i Gymru, ac Elwyn yn treulio’r pythefnos nesaf yn Kingston.
Roedd y trefniadau wedi ei gwneud cyn gadael Cymru.
Ers blynyddoedd mae Elwyn wedi dod yn ffrindiau efo criw siop recordiau Dub Vendor, yn Llundain, ac roeddan nhw wedi trefnu i rhywun ei gyfarfod yn Kingston.
“Bob tro oeddwn i’n dweud beth oedd fy mwriad, ro’n i’n cael fy rhybuddio i beidio mynd yn agos i’r lle.
“Roedd ’na un neu ddau o fois o Kingston yn cadw’u pennau’n isel yn Treasure Beach, wedi gwneud gelynion yn y ddinas, ac roeddan nhw’n dweud wrtha’i na faswn i’n para diwrnod yno.
“Roeddwn i’n gweld y newyddion a darllen y papurau am y pethau oedd yn mynd ymlaen yno, ond ro’n i’n dal yn benderfynol o fynd.”
Wedi ffarwelio â’i wraig ddagreuol, roedd y dydd wedi dod.
Dyn tacsi yr oedd wedi dod i’w adnabod aeth a fo i Kingston, ac roedd hwnnw ofn am ei fywyd.
“Roedd o bron a marw o ofn yno. Roeddwn innau’n teimlo’n ddigon pryderus. Ro’n i’n teimlo reit anghyfforddus ar brydiau, yn meddwl be os fasa’r boi ddim yn cysylltu efo fi, be dwi’n mynd i wneud wedyn?”
Roedd rhaid iddo oroesi noson yn y ddinas cyn hynny.
Y bore wedyn, ac yntau heb glywed gan Zack, y dyn oedd i fod i’w gyfarfod, cafodd alwad ffôn gan ei gyfaill o’r siop recordiau. Rhoddodd hwnnw rif ffôn iddo ac o’r diwedd roedd pethau’n edrych yn well.
Does dim angen dweud wrth Gymro am bwysigrwydd parchu diwylliant pobl eraill, ac nid yn unig y mae Elwyn yn caru cerddoriaeth  Jamaica , mae o hefyd wedi meistroli’r iaith.
Daeth hynny’n handi ar sawl achlysur.
“Dw i’m yn lecio’i galw hi’n patois – dw i’n gweld hwnnw’n air amharchus. Mae’r iaith Jamaicaidd yn gymysgedd cymhleth a diddorol o Arawac – iaith y trigolion brodorol cyntaf – Sbaeneg, Saesneg, Portiwgaeg, geiriau Affricanaidd a geiriau wedi’i gwneud i fyny eu hunain.”
Mae’r darn canlynol o’i lyfr – “Fflamau Jamaica” – yn egluro ychydig ar feddylfryd Elwyn, a’i gariad tuag at ddiwylliant yr ynys:
“Dieithryn ar ei ymweliad cyntaf â dinas estron hanner ffordd ar draws y byd. Ond doeddwn i ddim yn teimlo fel ymwelydd o gwbwl. Roeddwn yn teimlo’n berffaith gartrefol. Plantation Heights, Tower Hill, red Gal Ring, Cassava Piece, Barbican, Liguanea, Meadowland, Pembroke Hall a Patrick City... roedd yr enwau ar yr arwyddion ffyrdd i gyd yn hysbys imi. Ward Theatre, Devon House, Up Park Camp, y Gun Court, Parade, y National Arena ... ac arwyddnodau’r dref i gyd yn gwbwl adnabyddus.
“Roedd y mwyafrif helaeth o’r wynebau a welwn ar y teledu – yn wleidyddion, actorion, beirdd, awduron, digrifwyr, pêl-droedwyr, ac ati – yn gyfarwydd imi hefyd. A bwydydd, diwylliant, hanes, llên gwerin, moesau a defodau’r wlad. Ffasiynau’i thrigolion, eu hiaith a’u diarhebion, a’u myrdd o grefyddau gwahanol.”
Does bosib na theimlodd fymryn lleiaf o ysgytwad diwylliannol, holodd un o’i gyfeillion ar ôl iddo ddod adref?
“Naddo. Dim owns. Theimlais i’r un iod ohono trwy gydol fy arhosiad.”
Yn ystod ei ymweliadau mae Elwyn wedi cael cyfle i ymweld â stiwdios recordio enwoca’r ddinas, cwrdd â nifer o sêr presennol a gorffennol cerddoriaeth ska, , rocksteady, reggae a dancehall, a chyfle i ychwanegu at ei gasgliad anhygoel o recordiau, ond bu hefyd yn ddigon mentrus i fynd i ddawnsfeydd a chyngherddau, a gwyliau miwsig enfawr.
Ac wrth gwrs, yn anorfod mewn dinas mor dreisgar, daeth sawl eiliad anghyfforddus iawn i’w ran – nid efo’r brodorion duon bob tro chwaith.
Mewn gwyl ddiwylliannol Rastaffaraidd – y Rebel Salute – anwybyddodd Elwyn gyngor Zack i aros yn y car, a chafodd ei amgylchynu gan griw o lafnau, a ddygodd bopeth oedd ganddo o’i bocedi. Llwyddodd Elwyn i ddal un ohonynt, a pherswadiodd Zack y llanc i roi popeth yn ôl i’w gwr o Bwllheli. Ond sylweddolodd yn ddiweddarach ei fod wedi colli ei gamera drud.
Dro arall daliodd dihiryn gyllell i’w asennau, ond wnaeth y digwyddiadau hynny bylu dim ar ei chwilfrydedd i brofi pob math o brofiadau. Bu’n gwylio gêm bêl droed ar ei ben ei hun bach, yn un o ardaloedd perycla’r ddinas, ac am sbel ar ôl y gêm, roedd o mewn cryn bicil am ei fod wedi anghofio trefnu i’r tacsi a’i danfonodd yno, i ddod i’w nôl wedyn.
Mae profiadau o’r fath yn britho’r gyfrol, ac yn ogystal ag Elwyn ei hun – sy’n gymeriad a hanner – cawn gyfarfod â phob math o adar brith – rhai pur amheus, ond y mwyafrif yn bobl clên, a chymwynasgar. Ond hyd yn oed wedyn, o ddarllen ei hanesion a’i anturiaethau, fedr rhywun ddim peidio a meddwl bod ei fam yn eitha agos i’w lle.


Fflamau  Jamaica; Elwyn Efans; Gwasg Carreg Gwalch; £7.50




No comments:

Post a Comment