Wednesday, 17 August 2016

Hel llus, Herald Gymraeg 17 Awst 2016





Does ‘na ddim byd gwell na’r pethau syml mewn bywyd weithiau. A dyna ddigwyddodd y diwrnod o’r blaen, mynd i hel llus hefo fy nhad. A dweud y gwir, does na ddim byd gwell na stiw llus, ychwanegu ychydig o siwgr brown wrth stiwio, a wedyn, ar ôl gorffen stiwio,  cymysgu’r cyfan gyda cwstard melyn.

Y fantais o wneud stiw yw fod modd cadw’r cyfan neu’r gweddill yn y rhewgell dros nos a dyna bwdin fory yn barod. Fe awn mor bell a dweud fod y stiw llus oer yn rhagori ar y stiw llus poeth yn syth o’r stôf, mae’r un peth yn wir gyda mwyar duon. Fe gawn chwistrelliad o egni, ac y teimlad o fwyta’n iach, gyda’r sudd tywyll oer. Gwell na hufen iâ unrhyw bryd !!!
Ond mae’r broses yr un mor bwysig a’r blasu. Yn flynyddol bellach bydd fy nhad a minnau yn dychwelyd at yr un lonydd bach cefn gwlad yn Eifionydd. Rydym yn gwybod lle i chwilio a mae’r ddefod flynyddol yn bwysig. Bu hel mwyar duon yn weithgaredd blynyddol yn ystod ein plentyndod ac yn oes yr archfarchnad ac o siopa ar-lein, dyma un ffordd fach iawn (ond ymarferol) o ymwrthod a chyfalafiaeth (os ond am y pwdin).

Un broblem fach ar hyd y lonydd yw fod cymaint o dorri gwrychoedd ac ochrau ffyrdd y dyddiau yma, felly roedd digon o goed llus o gwmpas ond eu bod wedi tocio i’r bôn ac o ganlyniad, llai o ffrwythau llus. Gan eu bod yn bethau ddigon bach beth bynnag mae’r busnas tocio yma yn golygu llawer mwy o waith er mwyn llewni eich bocs plastig. Mae hel mwyar duon yn haws yn hynny o beth. Yr ateb arall wrthgwrs yw crwydro ochr mynydd i hel llus.

Credaf ei bod yn biti fod cymaint o dorri gwair a gwrychoedd yn mynd ymlaen. Mae lliwiau blodau gwyllt, a’r ffaith fod pethau yn wytllt yn bwysig am bob math o resymau. Yn ystod ein plentyndod roedd lonydd bach cefn gwlad fel jyngl a’r tyfiant yn arllwys dros y tarmac fel tonnau trofannol. Dwi’n cofio swn y sioncod gwair, yr adar bach a’r ffaith fod natur yn wyrdd ac yn fyw. Heddiw rhaid i bopeth gael triniaeth a’i saneteiddio ac i beth? Modurwyr, diogelwch pobl sydd yn gyrru rhy gyflym?

Os yw’r hel yn hwyl, a’r holl ymdrechion i beidio gollwng neu daro’r bocs plastig drosodd, mae cyrraedd adre a dechrau ar y broses o olchi a choginio hefyd yn hwyl. Wrth i bethau ddechrau ffrwtian ar y tân cawn lewnwi’r gegin hefo oglau ffrwythau yn stiwio. Am hyfryd. Mae’r oglau yn creu’r awydd i flasu. Mae’r ffaith mae ni sydd wedi hel y llus neu’r mwyar yn gwneud y blas ddeg gwaith gwell – hyd yn oed os di’r mwyar braidd yn galed.Bydd y garddwr llysiau, neu’r tyfwr yn y tŷ gwydr yn profi’r un wefr, yr un balchder, yr un boddhad. 

Da ni newydd fynd drwy’r broses o ddad-rewi’r oergell gan orfod gwneud sawl cacan hefo mwyar llynedd er mwyn gwneud lle i fwyar duon 2016. Mae rhywbeth therapiwtaidd iawn mewn clirio, taflu, gwenud lle, ail-lenwi, hel llond bocs a’i rewi.


Gyda lle yn yr oergell a digonedd o focsus plastig glan mewn pentwr yn barod i’w defnyddio edrychaf ymlaen dros yr wythnosau nesa at dreulio ambell awran ar ôl gwaith yn cael hel llus a mwyar duon. Bydd yr hel yn gyfle i ymlacio i ffwrdd o sŵn y byd, i gael sugno ddipyn o awyr iach, i fwynhau’r golygfeydd a’r antur ond bydd hefyd yn gyfle i gael pwdin heno yn ogystal o bocs arall i’r oergell.

No comments:

Post a Comment