Friday 30 September 2016

Sylwadau ar y Good Life Experience, Herald Gymraeg 28 Medi 2016





Petawn yn gorfod enwi fy hoff raglenni radio ar hyn o bryd, mae’n debyg mae Rhaglen Cerys ar fore Sul ar BBC 6Music a Rhaglen Hwyrnos Georgia Ruth ar Nos Fawrth ar BBC Radio Cymru fyddai’r ddwy raglen y byddwn yn eu disgrifio fel ‘gwrando hanfodol’. Y rheswm syml am hyn yw fod rhywun yn sicr o glywed rhywbeth newydd ar y sioeau yma yn ogystal a chael ei ddiddanu gan frwdfrydedd y cyflwynwyr am y gerddoriaeth.

Felly, mewn rhyw gyd-ddigwyddiad rhyfedd, dyma gael fy hyn bythefnos yn ôl yn cymeryd rhan yng ngŵyl Good Life Experience ar banel hefo Georgia Ruth. Cerys, ochr yn ochr a Charlie a Caroline Gladstone a Steve ‘Abbo’ Abbott sydd yn gyfrifol am sefydlu a churadu y Good Life Experience, sydd yn cymeryd lle ar dir Siop Fferm Penarlag bob mis Medi. Dyma Mr Mwyn felly, mewn ‘sandwich-ddiwylliannol’ rhwng fy hoff gyflwynwyr, er ddim yn llythrennol (yn amlwg!).

Roeddwn i, Georgia, y cynhyrchydd David Wrench a cwpl o aelodau o Gor y Fflint wedi derbyn gwahoddiad i drafod dylanwad y dirwedd Gymreig ar gerddoriaeth Cymraeg / Cymreig ym mhabell ‘Caught by the River’ ar y prynhawn Sadwrn. Dyna chi y math o ŵyl yw Good Life Experience. Fe chwaraeom ganeuon gan Plethyn a Llygod Ffyrnig fel engreifftiau o sut gallwn ddangos dylanwad pendant y lle ar yr artist neu’r gerddoriaeth.




Ond yr hyn sydd wedi plesio rhywun go iawn yw’r ganmoliaeth gan bobl ar y cyfryngau cymdeithasol i’r drafodaeth. Nifer o rhain o du allan i Gymru, y rhan fwyaf o rhain yn ddiethr i’r traddodiad Plygain – ac unwaith eto dyma chi Good Life Experience ar ei ora – pobl yn gwrando / dysgu / gwerthfawrogi – ac yn fodlon diolch i ni wedyn am ein 'geiriau doeth'.




Yn gynharach yr un prynhawn bu’m yn gwrando ar yr awdur John Higgs yn rhoi sgwrs, fo sgwennodd y llyfr The KLF: Chaos, Magic and the Band Who Burned A Million Pounds. Eto, dyna chi Good Life Experience, a mae gwrando am 40 munud ar rhywun yn damcaniaethu ar pam bu i’r KLF losgi milwin o bunnoedd ar Ynys Jura yn union y math o beth yr wyf wrth fy modd yn ei wneud.

Er fod Higgs wedi gwneud ei waith ymchwil i’r Illuminati a’r Justified Ancients of Mu Mu, sef y dylanwadau amlwg ar y KLF, teimlais nad oedd unrhyw feirnaidaeth o gwbl ganddo ar anturiaethu Cauty a Drummond. Yr ôll a wnaeth Higgs mewn gwirionedd oedd parhau ac ychwanegu at y mytholeg. Diddorol a doniol - ond gobeithias am drafodaeth ychydig mwy heriol ganddo.

O ran artistiad, yr artist nath yr argraff fwyaf arnaf oedd Aldous Harding, canwr-gyfansoddwr o Seland Newydd. Dwi ddim yn credu i mi erioed weld rhywun fel hyn o’r blaen. Gyda arddwysedd Bowie, Lydon, Kate Bush a Dave Datblygu wedi ei rowlio mewn i un roedd y mwyafrif ohonnom yn y gynulleidfa wedi ein synnu a’n heffeithio gan berfformiad Harding.  Dydi ‘anhygoel’ ddim yn gwneud cyfiawnder a hi a dwi’n methu cael hyd i eiriau addas.

Yn cyfeilio iddi ar y noson, a hynny ond gyda pnawn o rybydd ac un ymarfer, oedd H Hawkline - sef y cerddor Huw Evans. Ryfeddais fod Huw wedi mentro gwennu ar Aldous yn ystod y perfformiad. Roedd y rhan fwyaf ohonnom ofn dal ei llygaid.  Rhyfeddais hefyd ar ddawn cerddorol Huw ar y piano. Un gair – parch.




Ac wrth aros gyda Huw / H Hawkline, mae lle i ddadlau fod yr hanner awr o ‘seibiant’ gefais yn eistedd yn gwrando arno yn chwarae recordiau (DJio) yn un o fy uchafbwyntiau yn ystod gŵyl Good Life Experience. Pleser a dysgu. Cyfuniad perffaith.

No comments:

Post a Comment