Thursday 3 November 2016

Lefel A Archaeoleg a Chloddio yng Nghwn Orthin, Herald Gymraeg 2 Tachwedd 2016



Y dyddiau gorau yw’r rhai allan yn yr awyr iach yn gwneud gwaith cloddio archaeolegol hefo ffrindiau. Dwi’n defnyddio’r gair ‘ffrindiau’ yn fwriadol yma, achos dros y blynyddoedd, a hynny yn cloddio ym mhob tywydd, mae rhywun yn dod yn ffrindiau da iawn hefo ei gyd-gloddwyr.

Ymhlith y criw mwyaf hwyliog, ac yn sicr y criw archaeolegol mwyaf Cymraeg eu hiaith, mae’r criw sydd wedi bod wrthi yn ddygn a selog yng Nghwm Orthin yn gweithio ar olion tai Chwarel Cwm Orthin. Byddaf yn trydar weithiau gan ddefnyddio llun o Gwm Orthin (gan edrych dros y llyn) ac yn datgan ‘golygfa o’r swyddfa heddiw’. Rhyw joc fach ymhlith y rhai sydd yn trydar yw’r ‘golygfa o’r swyddfa’ ond mae’n gweithio, mae’n rhoi gwen ar wynebau a mae’n dod a sylw at y lle neu’r prosiect.

Dros yr wythnosau dwetha mae’r criw wedi bod yn cloddio o amgylch y barics yng Nghwm Orthin a chwestiwn amlwg oedd yn codi oedd, beth ddigwyddodd i’r hen lwybr tuag at Gapel Tiberias. Yr ateb syml wrthgwrs yw fod yr holl beth bellach o dan y mawn ond joban pum munud oedd hi i Bill Jones a’i wialen brocio gael hyd i’r darnau caled o’r llwybr rhyw fedr o dan y mawn.

Wrth i mi gyrraedd fy ngwaith, y joban nesa oedd defnyddio offeryn o’r enw ‘rutter’, sef rhyw fath o raw anferth gyda phen hanner cylch miniog er mwyn torri drwy’r mawn. Deallais gan Bill mai dyma ddefnyddir gan goedwigwyr i dorri ffosydd. A dyna chi beth yw rhaw (neu rutter) go iawn, bron cymaint a maint dyn ond son am effeithiol.

O’r eiliad roedd rhywun yn rhoi ei bwysau ar droed y ‘rutter’ a llwyddo i dorri i mewn i’r mawn roedd gweddill y gwaith yn hawdd gyda thalpiau o fawn yn codi wedyn yn gymharol hawdd. Er mwyn symud y talpiau mawn roedd rhaid defnyddio offeryn arall wedyn a oedd yn ymdebygu i rhyw fath o gribyn miniog er mwyn halio’r mawn o’r ffordd.




Buan iawn y llwyddom i gyrraedd wyneb y llwybr, ond ein tasg go iawn oedd cael hyd i’r bont droed fyddai wedi croesi’r ffrwd sydd yn rhedeg am Lyn Orthin rhwng y barics a’r capel. Yn sicr roedd na duchan a chwysu. Roedd na gryn dipyn o chwerthin a baglu hefyd ond awr neu ddwy yn ddiweddarach roedd y bont droed wedi dod i’r golwg.

Efallai fod y bont droed fechan amrwd yma o grawiau ’Stiniog ddim cweit mor drawiadol a’r ‘wonderful things’ roedd Carter yn ei ddisgrifio i Carnarvon ond cyn belled a dwi yn y cwestiwn mae darganfod pont droed yng Nghwm Orthin yn llawer mwy perthnasol ac yn rhoi cymaint o wefr ac unrhyw aur, i mi.

Glanhawyd y bont droed a bu Bill yn brysur wedyn yn cofnodi a thynnu lluniau a’r bwriad yw ei gadael nawr fel ac y mae hi. Os bydd unrhywun yn mentro dros y tir gwlyb rhwng y barics a Chapel Tiberias bydd modd iddynt groesi (a gwerthfawrogi) y bont droed hynafol a hynod hon. Does dim byd ‘ffansi’ am y bont, crawiau yn unig sydd yma, ond dyna sydd yn ei gwneud mor hynod. Syml ac i bwrpas. Sawl un groesodd y bont fechan yma ar y Sul? 

Fedra’ni ond dychmygu y bywyd caled, ac ar adegau garw o ran tywydd, oedd gan drigolion chwarelyddol Cwm Orthin. Ond drwy glirio’r bont rydym nawr yn gallu troedio’r un llwybr. Rydym yn sefyll yn yr un lle. Mae modd I ni ddychmygu oleiaf.

Yn gwisgo het arall, fel un o ymddiriedolwyr Cyngor Archaeoleg Prydain (Cymru), dyma’n union sydd ei angen. Gwaith cloddio cymunedol fydda ddim yn digwydd fel arall. Dyma sydd yn wych a phwysig am griw Cwm Orthin – mae hyn o’r gymuned leol, gan y gymuned leol ac ar gyfer y gymuned leol ac yn wir – gweddill y Byd. Fe gaiff pawb fwynhau ffrwyth y gwaith cloddio. Cofiwch y wybodaeth yw’r gwir drysor.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar na fydd modd astudio lefel A Archaeoleg bellach yng ngwledydd Prydain. Deallaf fod yr un peth yn wir am Hanes Celf. Ymddengys fod y philistiaid nawr yn gyfrifol am addysg. Anhygoel. Anghredadwy. Trist. Rydym yn gwybod fod y celfyddydau yn eu holl amrywiaeth yn cyfoethogi bywydau pobl – mae archaeoleg a hanes yn cael ei gynnwys yma gennyf. Rydym hefyd yn gwybod fod gwerth economaidd i’r celfyddydau.

Dyna pam dybiwn i fod Sadiq Khan, Maer Llundain wedi dechrau poeni fod cymaint o glybiau nos y brifddinas (hy D.U) yn cau neu dan fygythiad gan ddatblygwyr – gan fygwth economi nos Llundain. Yn y byd ôl-Brexit mae angen i ni ddechrau poeni, achos does gan y Toriaid/UKIP ddim syniad o gwbl am werth diwylliant. Te parti hefo Jac yr Undeb a gwisg ffansi o’r 1950 yw eu diwylliant nhw.

Dydi cerddoriaeth reggae neu unrhywbeth Celtaidd neu hyd yn oed Noson Agoriadol Olympaidd Danny Boyle ddim yn rhan o’u byd bach nhw. Mae’n amhosib troi y cloc yn ôl ac eto, dyna nod Brexit, rhyw Loegr ddychmygol o’r 1950au – a’n helpo ni Geltiaid!
Hyd yn oed o fewn sefydliad fel Cyngor Archaeoleg Prydain (Cymru) mae angen dechrau codi llais – os fydd pobl ifanc ddim yn cael astudio archaeoleg cyn y Brifysgol does ond modd disgrifio hyn fel ‘cam yn ôl’.

 Rwyf yn sgwennu hyn ar ddiwedd 2016 yn methu coelio fod hyn yn digwydd mewn gwlad oedd i fod yn un oleuedig.


No comments:

Post a Comment