Wednesday 15 February 2017

Andrew Logan v Castell Dolforwyn, Herald Gymraeg 15 Chwefror 2017




Rwyf newydd lansio fy nghyfrol ddiweddaraf ar archaeoleg yn Amgueddla Andrew Logan yn Aberriw, Maldwyn,  a’r wythnos hon rwyf am drio edrych ar sut mae’r lle,y bobl a’r ‘ethos’ yn cael effaith ar y ‘digwyddiad’. Os nad yw’r darllenwyr yn gyfarwydd a gwaith Andrew Logan, mae’n debyg mae cerfluniau lliwgar fydda’r disgrifiad gorau – hynod liwgar.

I unrhywun sydd yn dilyn hanes diwylliant poblogaidd, mae Logan hefyd yn gyfarwydd i ni fel trefnydd y pasiant Miss World Amgen sydd yn cael ei drefnu ganddo yn achlysurol (yn ôl y son wedi ei seilio ar Sioe Gŵn Crufts). Byddai Logan yn gyfarwydd i eraill fel un o’r bobl roddodd lwyfan i’r egin Sex Pistols (eu degfed gig a hynny yn stiwdio Andrew yn Butler’s Wharf, Llundain).

Fel un sydd yn credu’n gryf mewn chwalu ac amharchu ffiniau, penderfynais gyfweld a Logan ar gyfer y gyfrol ddiweddaraf a gwasgu hynny i mewn i’r ‘llyfr archaeoleg’ fel Atodiad Amgueddfeydd ar y ddiwedd. Bu trafodaeth am hyn gyda’r cyhoeddwyr ond pwysleisiais fod popeth rwyf yn ei wneud gyda archaeoleg a/neu diwylliant Cymraeg yn ymwneud a gwerthfawrogi’r dirwedd hanesyddol a diwylliannol yma yng Nghymru. Rhaid felly ‘ymestyn’ y ffiniau.

Y pwynt rwyf am ei wneud yw fod gwerthfawrogi’r gwahanol elfenau celfyddydol, hanesyddol a diwylliannol yn dod yn weddol hawdd ac yn ddigon naturiol  i’r rhan fwyaf ohonnom. Felly roedd cael Sian James (o Faldwyn) i ganu yn y lansiad yn Amgueddfa Logan yn gwneud synnwyr perffaith.

Hen gwrt sboncen Aberriw yw adeilad Amgueddfa Andrew Logan, ond heblaw fod rhwyun yn sylwi ar y pensaerniaeth allanol fydda neb yn cael ei atgoffa o chwaraewyr sboncen chwyslud wrth gamu i mewn i’r amgueddfa. Mae hi fwy fel ogof yn disgleirio a pherlau a cherfiadau hynod o gymeriadau lliwgar fel Zandra Rhodes a Divine.

Roedd lansio’r llyfr yn Amgueddfa Andrew felly yn gwneud synnwyr perffaith. Yn gyntaf mae Andrew yn y llyfr. Yn ail rwyf yn hoff ohonno. Yn drydedd mae’r cysylltiad (bach iawn) a’r Sex Pistols ac yn bedwerydd – rhaid chwerthin am y Pasiant Miss World Amgen. Felly pam ddim?

O ddifri – mae cysylltu yr Amgueddfa sydd yng Nghymru, ym Maldwyn, a diwylliant Cymraeg yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i mi. Dyma groesi ffiniau yn syth. Dwi’n gyfforddus iawn hefo dynion hoyw –  a da ni yn gallu chwerthin wrth ‘drafod’ busnes. Ond wedyn mae’r ffaith fod yr amgueddfa mor lliwgar, mor arbenig, mor hudolus yn cael effaith positif ar bawb sydd yn mynychu.

Nid ystafelloedd llwyd a di-fywyd sydd eu hangen ar gyfer digwyddiadau fel hyn. Mae angen creu cyffro a bwrlwm. Ond yn sicr mae’r ‘ethos’ a’r bobl gysylltiedig yn cyfrannu at yr holl beth – at yr awyrgylch a hefyd yn y pen draw – y llwyddiant.

Eto criw di-Gymraeg sydd yn gysylltiedig a’r Amgueddfa, felly dyma estyn croeso iddynt i fyd Cymraeg na fydd yn gyfarwydd iddynt efallai. Ond gyda pobl greadigol mae yna well sylfaen wrth fynd ati i guradu digwyddiad diwylliannol.

Soniaf weithiau am ‘bobl dda yn gwneud pethau da’. Mae hynny ddigon da i mi. Mae nhw’n ymdrechu i wneud rhywbeth da yn Aberriw a felly rwyf yn hapus i gefnogi ac os medraf rhywsut neu’i gilydd helpu ychydig i hyrwyddo hynny yn y Byd Cymraeg byddaf yn falch. Dyma’r union feddylfryd oedd ynghlwm a lansio’r gyfrol yn y gogledd yn Y Festri, Llanberis. Cyfle i mi roi cefnogaeth i fenter greadigol leol.

Credaf yn ddiffuant fod y profiadau yma yn Llanberis ac Aberriw wedi dangos fod lleoliad, adeilad, ethos a phobl yn gwneud cyfraniad i ddigwyddiad. Nid y llyfr na’r trefnu neu beth bynnag ar ben ei hyn. Felly dyma awgrymu fod pensaerniaeth ac ethos a rhan allweddol a chyfraniad pwysig mewn digwyddiad. Sut gall yr adeilad a’r pensaerniaeth ysbrydoli a chael defnydd.

Yn ystod y prynhawn (cyn y lansiad swyddogol yn Amgueddfa Andrew Logan) bu tua 30 o bobl ar daith gerdded hefo mi o amgylch Castell Dolforwyn,ger Abermiwl, castell a adeiladwyd ym 1273 gan Llywelyn ap Gruffudd. Un o gestyll tywysogion Gwynedd, un o’r Cestyll Cymreig. Fel y disgwyl – dyma’r ymweliad cyntaf i nifer sylweddol o’r 30.

Chafodd neb eu siomi, yn wir ar ôl awr a hanner yn y castell roedd yn rhaid mi eu ‘llusgo’ yn nol am yr amgueddfa. Roedd pawb wedi mwynhau’r ‘hanes’ ond roedd pawb hefyd i weld yn hapus iawn yn sgwrsio ar brynhawn braf a heulog o Chwefror. A dweud y gwir mae Castell Dolforwyn yn cymharu’n ffarfriol a Chastell y Bere – mae digon yno i’w weld.

Efallai mai’r hyn sydd ar goll yn y Gymraeg yw sylw teilwng i Hanes Cymru ar S4C – ar y cyfryngau torfol. Os llwyddais i ddenu 30 drwy Trydar a Facebook, dychmygwch faint mwy o ddiddordeb fydda yna petae mwy o Hanes Cymru ar y teledu? Rwyf wedi cyfeirio at hyn yn Rhagair y llyfr, fod yn biti mawr fod S4C wedi methu dros y blynyddoedd a chael gweledigaeth foddhaol ar gyfer Hanes Cymru. Nid fod fawr o neb yn cwyno am y teledu, mae pawb rhy brysur yn cwyno am Gestyll Edward I – oleiaf dyna’r jôc rwyf yn ddefnyddio wrth ddarlitho gyda’r nos.

Mae yna ddiddordeb mewn Hanes Cymru, heb os, ond mae gwaith aruthrol angen ei wneud o ran cenhadu hynny. O ran archaeoleg Cymreig, mae mwy byth o waith angen ei wneud. Eto awgrymais yn garedig yn y llyfr fod y byd archaeolegol yng Nghymru yn orlawn o bobl di-Gymraeg a heb yr iaith eu bod yn gwylio teledu du a gwyn.


No comments:

Post a Comment