Sunday 26 February 2017

Archaeoleg Dyffryn Banw, Y Casglwr Rhif 115




Fy mwriad wrth gyflwyno  ‘Darlith Cymdeithas Bob Owen Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015’ oedd cael golwg ar sut gall hen lyfrau gynnig tystiolaeth gwerthfawr wrth i ni astudio’r dirwedd archaeolegol heddiw. Naturiol felly, gan fod yr Eisteddfod ym Maldwyn, i mi ddewis llyfr oedd yn edrych ar hanes Ddyffryn Banw a phlwyfi Llanerfyl, Llangadfan a Garthbeibio yn bebodol.

Y llyfr dan sylw oedd llyfr Gutyn Padarn:  Owen, The Rev. E., 1895, The Works of the Rev. Griffith Edwards (Gutyn Padarn) Late Vicar of Llangadfan Montgomeryshire. Parochial Histories of Llangadfan, Garthbeibio and Llanerfyl, Montgomeryshire.

Cyhoeddwyd y llyfr ym 1895, ac un agwedd o ddiddordeb i mi oedd pa safleoedd hanesyddol neu archaeolegol fyddai’n hawlio sylw Gutyn Padarn a pha safleoedd sydd wedi eu chwalu neu eu colli ers ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Un safle diddorol iawn a ganiataodd i mi wneud dipyn o waith ymchwil pellach oedd yr hyn a gyfeiriodd Gutyn Padarn ato fel carnedd gladdu Nant Bran. Mae cistiau-claddu o’r fath yn dyddio fel arfer o’r Oes Efydd (2000-700 cyn Crist).

Fe welir o ysgrifau Gutyn fod y garnedd neu’r gist gladdu wedi ei chwalu oddeutu 30 - 40 mlynedd cyn iddo sgwennu ei lyfr, felly byddai hyn yn awgrymu rhywbryd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cwestiwn amlwg felly yw, o ble cafodd Gutyn y wybodaeth yma? Pam mor gywir neu ddibyniadwy yw’r wybodaeth?

Yn ol y ‘stori’ fe ddefnyddiwyd rhai o gerrig y gist-gladdu ar gyfer porth yr hen swyddfa bost yn Llangadfan ac wrth ddechrau holi hwn a llall yn lleol dyma ddod ar draws llun o’r hen swyddfa bost rhywbryd yn y 1940au. Eleri Mills (yr arlunydd) ddaeth ar llun i’m sylw ac wrth edrych ar y llun yn ofalus does dim byd amlwg ynddo yn awgrymu y math o gerrig amrwd geir mewn cistiau-claddu o’r Oes Efydd.



Gwelir yn y llun o’r 1940au y pyst giatiau a’r  postyn ‘ffens’ ond mae rhain yn gerrig wedi eu creu i bwrpas ac yn rhy gyson eu gwneuthuriad i fod yn gerrig o gist-gladdu yn fy marn i. Yr unig garreg debygol sydd yno heddiw yw’r un ger y drws i Ty Coch, mae hon oleiaf yn debycach i garreg (naturiol) gymharol llyfn a syth o’r mynydd fyddai wedi ei defnyddio yn yr Oes Efydd.

Gwerth y llun a gafwyd gan Eleri Mills yw fod yma dystiolaeth o sut roedd y Swyddfa Bost yn edrych yn ystod y 1940au. Mae gwell siawns fod cerrig Nant Bran yn dal yno ym 1940 na sydd erbyn heddiw yn amlwg. Ar hyn o bryd mae’r gwaith ymchwil i beth ddigwyddodd i gerrig cist Nant Bran yn parhau.

Rhan o'r gist Nant Bran?

Nodwedd hynafol arall hynod ddiddorol sydd yn cael sylw gan Gutyn Padarn yw carreg fedd Rosteece yn eglwys Llanerfyl. Ail-adeiladwyd eglwys Llanerfyl yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chawn lun inc o’r hen eglwys yng nghyfrol Gutyn. Eto dyma lun sydd werth ei gael os am wybod sut eglwys oedd yma cyn y gwaith ail-godi.

Cawn hyd i garreg Rosteece yng nghefn yr Eglwys yn Llanerfyl yn erbyn y wal orllewinol. Carreg fedd o’r 5-6ed ganrif yw hon gyda ysgrif ‘Yma yn y bedd gorweddai Rosteece, ferch Paterninus (oed) 13. Mewn Hedd’. Dylanwad Rhufeinig sydd i’r garreg er fod cofnodi oed yn beth anarferol. Gwelwn y geiriau HIC IACIT, sef ‘Yma gorweddai’, ar y cerrig Cristnogol cynnar yma a dyna wrth reswm sydd yn eu dynodi fel cerrig bedd.

Nash-Williams yn ei campwaith The Early Christian Monuments of Wales sydd yn bennaf gyfrifol am ddod a’r meini yma i sylw’r Genedl ym 1950 a chawn ddisgrifiad manwl ganddo o garreg Rosteece. Yn yr arddull Rhufeinig mae’r ysgrif ond awgrymai Nash-Williams fod yr ‘E’ ar y pedwerydd llinell efallai yn ysgafnach na gweddill enw Rosteece ac efallai felly wedi ei gerfio gan law rhywun arall, efallai yn ddiweddarach? Awgrymai hefyd fod y ‘Hic in tummulo iacit’ yn ffurf estynedig o’r arferol ‘Hic iacit’,  sef ‘yma yn y bedd gorweddai’ ond fod y ddau yn perthyn i’r traddodiad Cristnogol-Rufeinig.

Ceir ysgrifau tebyg gyda’r ffurf estynedig yn yr Eidal yn ystod y 4edd ganrif a fe fabwysiadir yr arddull yma wedyn yn Gâl, Gogledd yr Affrig ac yn fwy prin yn Sbaen yn ystod y 5ed a’r 6ed ganrif.
Yma yng Nghymru cawn ambell engraifft arall o’r Hic iacit  estynedig, er engraifft ar Garreg  Anniccius yn Abercar rhwng Merthyr ac Aberhonddu a hefyd ar Fedd Porius ger Rhiw Goch,Trawsfynydd. Anarferol iawn yng Nghymru yw cofnodi oedran yr unigolyn a dyma un rheswm pam fod Carreg Rosteece yn un mor arbennig.



Efallai fod dwyn sylw i dalentau cerddorol a chreadigol Dyffryn Banw yn ddi-angen, gan fod enwau Linda Plethyn a Sian James mor gyfarwydd a felly hefyd gyda’r cyfnitherod Christine ac Eleri Mills ond teimlaf yn gryf nad oes modd gwerthfawrogi’r dirwedd hanesyddol / archaeolegol heb hefyd werthfawrogi’r dirwedd ddiwylliannol a’r un sydd yn ymwenud a’r Iaith Gymraeg.

Dyma’r rheswm dros fynd am dro yn ddiweddar gyda Sian James ac Eleri Mills i fryngaer y Gardden – safle arall sydd yn cael sylw haeddianol yng nghyfrol Gutyn Padarn. Perthyn i Oes yr Haearn mae’r bryngaerau, sef y canrifoedd cyn Crist (700 cyn Crist – 100 oed Crist) er fod rhai yn parhau mewn defnydd yn ystod y cyfnod Rhufeinig ac eraill yn gweld ail-ddefnydd yn y cyfnod Rhufeinig (fel yn achos Tre’r Ceiri).

Un o’r anhawsterau mawr yw dyddio’r bryngaerau heb dystiolaeth neu gloddio archaeolegol. Mae rhai o’r bryngaerau amlwg fel y Breidden ger Y Trallwng, yn cael eu sefydlu yn yr Oes Efydd Hwyr ac mewn defnydd dros gyfnod hir o amser ond does dim gwybodaeth pellach am fryngaer y Gardden. Y tebygrwydd yw fod hon yn fryngaer o’r Oes Haearn Hwyr ac ei bod yn gwasanaethu Dyffryn Banw mewn rhyw ffordd – sgwn’i os oedd pen-llwyth amlwg wedi gwneud ei gartref yma?

Rwyf angen dychwelyd am dro i’r gaer gyda Sian. Rwyf yn awyddus i gofnodi pa storiau roedd plant Llanerfyl yn eu hadrodd am Gardden a bydd rhai o’r storiau mwyaf diddorol yn ymddangos wedyn yn fy ail gyfrol ar Archaeoleg ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch i’w gyhoeddi yn 2016.



Yr hyn sydd yn sicr am fryngaer y Gardden yw fod hon yn safle frodorol yn hytrach nag un Rufeinig, doedd y Rhufeiniaid ddim yn adeiladu pethau crwn. Eto diolchwn i Gutyn Padarn am gyhoeddi cynllun bras o’r fryngaer hon sydd yn nodi fod rhyw fath o loc ychwanegol ar ochr ddwyreiniol y gaer. Gall yr estyniad yma, neu’r ail glawdd / ail fur, fod yn rhywle i gadw anifeiliaid neu yn amddiffynfa ychwanegol ar yr ochr llai serth yma i’r dwyrain o’r gaer. Rheswm arall dros godi ail glawdd ar yr ochr yma yw fod y fynedfa i’r gaer ar yr ochr ddwyreiniol ac efallai fod angen amddiffynfa ychwanegol er mwyn rhywstro unrhyw ymosodiad i gyfeiriad y fynedfa?

Rwyf wedi trafod tri safle o dri cyfnod hollol wahanol oedd wedi hawlio sylw Gutyn Padarn ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pwy a wyr faint o sail sydd i’r stori am gist-gladdu Nant Bran yn cael ei ail ddefnyddio fel porth i’r swyddfa bost yn Llanerfyl. Fel awgrymais, mae’r gwaith ymchwil yma yn parhau. Ond yn sicr mae ysgrifau Gutyn yn rhoi ambell ben-llinyn i ni eu dilyn heddiw.

Does fawr o wybodaeth o’r newydd i’w gael o astudio ei lyfr os am drafod Carreg Rosteece neu fryngaer y Gardden ond mae ei luniau yn rhai diddorol a defnyddiol. Oleiaf gallwn ddadlau fod yr henebion yma ddigon diddorol neu phwysig i hawlio ei sylw ar y pryd. Gallaf restru ddigonedd o safleoedd eraill diddorol a phwysig archaeolegol na chafodd eu crybwyll gan Gutyn, efallai nad oedd yr henebion yma mor amlwg neu o ddiddordeb ar y pryd?

Fel ‘arbrawf’ rwyf yn hyderus fod darllen gwaith Gutyn  Padarn wedi bod yn hynod fuddiol. Fel cofnod mae ei ysgrifau yn cynnig cipolwg ar gyflwr a phwysigrwydd henebion Dyffryn Banw dros ganrif yn ol. Beth bynnag yw gwerth arianol y llyfr ar y farchnad gasglu, awgrymaf fod gwerth llawer mwy i’r gyfrol fel cofnod o gyfnod yn y rhan yma o’r byd – Dyffryn Banwy, lle mae Mwynder Maldwyn ar ei fwyaf mwyn.



No comments:

Post a Comment