Wednesday 8 February 2017

Florence Nightingale a Chymru, Herald Gymraeg 8 Chwefror 2017




Go brin mae fi yw’r unig un ar wyneb y ddaear yma sydd hefo llyfrau ar eu hanner. Y broblem mae’n debyg yw fod cymaint o bethau yn dod ar draws eu gilydd sydd yn hawlio ein sylw. Ta waeth, ar ei hanner, a hynny ers dros flwyddyn bellach, mae’r llyfr ‘Betsy Cadwaladyr: A Balaclava Nurse’.

Byddaf yn cyfeirio yn aml yn y golofn hon am ‘seicoddaearyddiaeth’, sef y ddamcaniaeth ddinesig honno o grwydro a darganfod ond wrth reswm rwyf wedi herwgipio’r ddamcaniaeth ar gyfer y Gymru wledig – hynny yw, os yw’r fath beth yn bosib. Credaf ei fod.

Felly rhyw gyd-ddigwyddiad amserol iawn oedd cael sgwrs hefo fy nosbarth archaeoleg (Cymraeg i Oedolion) yn y Bala wythnos yn ôl a rhywun yn gofyn os oeddwn rioed di bod i weld hen gartref Betsi Cadwaladr, sef Penrhiw? Yr ateb oedd, a chywilydd gennyf gydnabod, nad oeddwn rioed wedi ymweld a Phenrhiw. Yn amlwg mae’n amhosib cyrraedd pob man ond roedd hynny yn ddigon o esgus i gael cinio sydun yn Caffi’r Cyfnod a wedyn gwneud y bererindod fyny Stryd y Castell am Benrhiw.





Gwelais fod cofeb lechan ar ochr wal y ty, felly roedd yn amlwg fy mod yn y lle cywir. Yma bu Betsi yn byw gyda’i pymtheg brawd a chwaer. Roedd ei thad, Dafydd yn bregethwr Methodistaidd ac yn ôl y son bu i Betsi dderbyn copi o’r Beibl gan Thomas Charles – a hynny heb orfod cerdded yn bell ac yn droednoeth!

Ond fel nyrs yn y Balaclafa rydym yn gwybod am, neu yn cofio, Betsi Cadwaladr. Erbyn heddiw mae ei henw wedi ei anfarwoli (a’i bardduo gan rai ar adegau eraill) gyda’r Bwrdd Iechyd o’r un enw. Cydweithio a’r enwog Florence Nightingale oedd Betsi yn Rhyfel y Crimea ond awgrymir fod cefndir y ddwy mor wahanol fod cryn dipyn o anghydweld rhyngddynt.

A dyma lle rwyf yn dilyn tro arall ar lwybr Florence Nightingale a’r cysylltiad Cymreig. Yn ddiweddar iawn darganfuwyd carreg freuan, sef carreg falu ar gyfer gwneud blawd ger Bryngwran, Ynys Môn ac fe all y garreg hon ddyddio yn ôl i’r cyfnod Rhufeinig. Felly ar ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd dyma drefnu fod y garreg yn cael ei chofnodi yn swyddogol a thra ar ymweliad a fy nghyfaill Vaughan Evans (a gafodd hyd i’r garreg freuan) dyma fynd am dro o amgylch lonydd bach y wlad y darn yma o Fôn.

Wrth i ni yrru heibio bwthyn Ty Franan dyma Vaughan yn esbonio mai yma roedd Nelly (Ellen)  Owen (1868-1950) yn byw a fod Nelly wedi treulio pedair mlynedd fel morwyn i Florence Nightingale. Dyma’r cysylltiad Cymreig a Florence eto fyth. Hyn oll yn newydd i mi ond yn andros o ddiddorol. Dyma brofi unwaith eto fod seicoddaearyddiaeth yn gweithio yn hapus braf yn y Gymru wledig.

Soniodd Vaughan fod cryn lythyru wedi bod rhwng Florence a Nelly’r forwyn. Wedyn dyma ddeall fod Nelly yn chwaer i David William Owen awdur y nofel Madam Wen (1925). Rwan cael ei gyhoeddi fel llyfr yn 1925 oedd hanes Madam Wen – roedd y stori wedi ei hadrodd yn barod ers 1914 yn y Genedl Gymreig – papur newydd a thuedd i gefnogi radicaliaeth a’r Rhyddfrydwyr. Ddim rhy ddrwg felly yn ei gyfnod.





Trueni i David William Owen farw mor fuan, a hynny o fewn pythefnos, ar ôl i’r nofel gael ei chyhoeddi. Cyhoeddwyd fersiwm Saesneg o Madam Wen am y tro cyntaf yn 2009 gan T. T. M. Hale fel rhan o’r ‘The Rhosneigr Romanticist’.

Heb fwriadu o gwbl, dyma ddilyn trydwydd Florence yng ngogledd Cymru, gwneud cysylltiadau rhwng Madam Wen, morwynion a nyrs a darganfod dau dy diddorol tu hwnt. Dim ond drwy grwydro mae darganfod.



No comments:

Post a Comment