Wednesday 12 April 2017

Y Lle Hanes, Herald Gymraeg 12 Ebrill 2017





Fe all rhywun awgrymu, os nad dadlau, fod Ynys Môn yn gorlifo o hanes ac archaeoleg. O ystyried y cyfoeth o henebion cynhanesyddol - os yw rhywun yn crybwyll siambrau gladdu Neolithig Bryn Celli Ddu, Trefignath a Barclodiad y Gawres neu safleoedd fel Din Lligwy neu Caer Leb o’r cyfnod Rhufeinig, mae’r ynys yn yn amlwg yn gartref i safleoedd hynafol pwysig iawn. Yn wir mae rhai o’r safleoedd yma yn unigryw.

Ar begwn arall y llinell amser, cawn olion o’r Chwyldro Diwydiannol sydd yr un mor bwysig ar yr ynys wrth feddwl am gwaith copr Mynydd Parys a phontydd Telford (1826) a Stephenson (1850) dros Afon Menai. Dim ond crafu’r wyneb yw hyn a dyma mewn ffordd fydd her fawr Y Lle Hanes ar faes yr Eisteddfod Gendlaethol eleni – sut mae gwneud cyfiawnder a hanes lle mor gyfoethog ei hanes a’i henebion ag Ynys Môn?

Er mwyn cadw ffocws, neu rhyw fath o ffocws oleiaf, penderfynwyd eleni y byddai’r Lle Hanes yn gwneud gwell cyfiawnder o ran ceisio dehongli neu gyflwyno Hanes Môn drwy ddewis thema penodol. Nid hawdd oedd dewis pedwar thema allan o’r dwsinau o bosibiliadau amlwg.

‘Gwers’ anodd yw gorfod derbyn nad oes amser, lle, modd., posib son am bob dim. Rwyf yn gyfarwydd iawn a’r ‘penderfyniadau anodd’ yma wrth fy ngwaith tywys. Yn aml wrth dywys Americanwyr o amgylch Eryri mae’n rhaid dewis beth i’w ddangos a beth sydd yn mynd i gael ei golli. Engraifft da o hyn yw cyffordd Pen y Gwryd rhwng Llanberis a Chapel Curig.

Wrth dywys ar fws neu goets symudol dwi’n gwybod yn iawn na fyddaf yn gallu dangos y pedwar blwch amddiffyn Ail Ryfel Byd, y gaeran Rufeinig a Gwesty Pen y Gwryd a son am aduniadau Everest wrth i ni groesi heibio y gyffordd fechan yma. Felly rhaid dewis – efallai mai stori Everest a’r aduniadau yn y PyG fydd yn ennill y dydd.

Penderfynwyd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ganolbwyntio ar bedwar thema penodol a’r pedwar gafodd eu dewis oedd Llys Rhosyr, Llyn Cerrig Bach, Y Mabinogi a’r cysylltiad a Bedd Branwen a’r Archdderwydd Hwfa Môn.




Rydym yn gwybod o ysgrifau Tacitus mai ar Ynys Môn oedd ‘pencadlys’ neu gadarnle’r Derwyddon, ac er mai propaganda Rhufeinig fyddai sylwadau Tacitus does dim amheuaeth fod yr ynys yn ganolfan bwysig o ran crefydd ac addoli yn y cyfnod Celtaidd – cyn Cristnogaeth. Fe all rhywun awgrymu fod safle Llyn Cerrig Bach ger RAF Valley yn safle ‘llyn sanctaidd’ a ddefnyddir gan y Derwyddon / Celtiaid i offrymu gwrthrychau milwrol fel cleddyfau, darnau o darian a darnau o gerbydau rhyfel i mewn i’r dŵr neu’r tir gwlyb.

Llys Rhosyr yw’r unig lys sydd yn perthyn i dywysogion Gwynedd sydd ar agor ac yn weladwy. Mae’r llys yn Aber (Abergwyngregyn) o dan gae, y llys yn Aberffraw yn aros i’w ddarganfod o dan y stad tai. Anodd osgoi dylanwad y ddau Lywelyn a thywysogion Gwynedd ar Hanes Cymru yn y 13eg ganrif a gan fod Llys Rhosyr yn cael ei ‘ail-greu’ yn Sain Ffagan – roedd hwn yn ddewis hawdd.




Gan ei bod yn Flwyddyn Chwedlau gan Croeso Cymru, gweddol hawdd oedd penderfynu cynnwys yr elfen honno yn ein dewisiadau.  Felly dyma Pedwerydd Cainc y Mabinogi, sef stori Branwen a’r cysylltiad a Bedd Branwen. Rhaid pori drwy damcaniaethau Bedwyr Lewis Jones am y ‘cysylltiad’. Fel archaeoloegydd rwyf yn gwybod mai tomen gladdu o’r Oes Efydd yw Bedd Branwen a nid man claddu Branwen go iawn.


Ac yn olaf, heb os wedi ein hysbrydoli gan bortread Christopher Williams o Hwfa Môn, dyma fynd am yr Archddewrydd a oedd yng ngeiriau R Williams Parry “Hwfa Môn oedd y creadur tebycaf i fardd a fagwyd erioed yng Nghymru. Ac yn fardd ar ben hynny na ellir byth ei gael yn euog o ysgrifennu yr un llinell o farddoniaeth" 



No comments:

Post a Comment