Thursday 4 May 2017

Castell Bach, Herald Gymraeg 3 Mai 2017




‘Castell Bach’ meddai’r Cofis am y ffug-gastell neu’r ffug-dŵr (i fod yn fanwl gywir) sydd yn pethyn i stad Coed Alun ar ochr orllewinol Afon Saint yng Nghaernarfon. ‘Seiont’ meddai pawb yn anghywir mae’n debyg, gan mai ‘Saint’ yw’r enw cywir ar yr arfon fel y mae ‘Coed Alun’ yn ffurf cywir a nid ‘Coed Helen’ ar y stad a’r neuadd gyfagos sydd yn dyddio yn rhannol i 1606.

‘Pont Saint’ medda’r Cofis wedyn am y bont sydd yn croesi’r afon – Seiont / Saint – sydd yn ei hyn yn od os mai ‘Pont Saint’ sydd yn croesi ‘Afon Seiont’? Ond wedyn onid oes cysylltiad a’r enw Seiont a Segontium, y gaer Rufeinig gyfagos yn Llanbeblig? Cyfeiriodd Caesar at lwyth o’r enw Segontiaci ond gan fod rhain yn ne Prydain, yn ardal Caint heddiw, tydi hyn ddim yn berthnasol i’r enw yng Nghaernarfon.

Mae’r busnas enwau llefydd yma yn gallu gyrru rhywun yn benwan, diddorol yn sicr ond nid mor hawdd cael sicrwydd. Yn Saesneg mae ffug-dŵr Coed Alun yn cael ei gyfeirio ato fel ‘Summerhouse’, ‘hafdy’ felly. Dylid osgoi ‘Tŷ haf’ gan fod hynny yn mynd a rhywun ar drywydd hollol wahanol. Does dim cysylltiad rhwng Meibion Glyndŵr a’r ffug-dŵr!

Cerddais draw yn ddiweddar, drwy’r maes carafannau, gan holi yn y dderbynfa yng Nghoed Helen (Alun wrthgwrs go iawn) lle yn union oedd y garreg hefo’r dyddiad 1606 sydd yn cael ei chrybwyll yn llyfr y Comisiwn Brenhinol Sir Gaernarfon(1960) ac i’w gweld ar ochr y neuadd yn rhywle.  Rwyf wedi edrych droeon heb hwyl.

Gofyn yw’r peth gorau fel arfer a dyma gael hyd i’r garreg ddyddiad ar ochr y neuadd, ddim mor amlwg, yn uchel ar y wal ogledd-ddwyreiniol. Felly os mai hon oedd y garreg a osodwyd wrth godi’r neuadd, neu oleiaf rhan o’r neuadd, mae gennym ddyddiad adeiladu. O hen luniau gallwn awgrymu fod y ffug-dŵr yn dyddio o’r 18fed ganrif. Dyma lle roedd y teulu yn cael eu te bach yn yr Haf felly!



Yn ystod Mis Mawrth bu criw ohonnom archaeolegwyr yn cloddio yng Nghae Mawr, Caernarfon ar lan orllewinol Afon Saint ac ar gyrion Coed Alun ac o dan gysgod y ffug-dŵr,  ar ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Chwilota am olion Rhufeinig oedd y bwriad ond aflwyddiannus fu’r cloddio mewn gwirionedd. Doedd dim olion pendant yma, fawr mwy na gweddillion hen glawdd terfyn o bosib. Yn sicr chafwyd ddim byd cadarn o ran olion neu adeiladwaith Rhufeinig er gwaetha’r ffaith i ni gael hyd i gryn ddipyn o lestri pridd Rhufeinig yno.

Digon o waith fod gweddillion y clawdd mor hen a hynny er ei fod yn gorfod dyddio cyn y caeau presennol sydd yn ymddangos ar y mapiau Degwm 1837/40. Oleiaf nawr rydym yn gwybod nad yma oedd y ‘villa Rhufeinig’. Dyna oleiaf oedd ein jôc wrth ddod a’r gwaith cloddio i ben. Weithiau mae rhaid gwneud gwaith fel hyn i gadarnhau nad oes unrhywbeth o bwys yma, siomedig efallai ond pwysig.

Drwy feddwl am waith archaeolegol fel hyn fel rhan o broses o ddarganfod a dysgu am ein tirwedd hanesyddol, mae hyd yn oed profi y negatif yn bwysig o ran ychwanegu at ein gwybodaeth a dealltwriaeth. Hefyd o weithio yng Nghae Mawr dros yr wythnos ym Mis Mawrth roedd rhywun hefyd yn dychmygu y byddai boncyn Castell Bach a Twthill yn fannau addas ar gyfer gwylfan dros Afon Menai yn y cyfnod Rhufeinig.

Petae rhywun yn dychmygu’r dirwedd Rufeinig, fyddai na ddim byd yn ardal y Maes, Caernarfon, fydda castell Edward I ddim yna ond pwy a wyr beth oedd ar lan Afon Saint o dan Hen Walia y gaeran Rufeinig ychydig i’r gorllewin o Segontium. Rhaid fod doc Rhufeinig yna yn rhywle.



No comments:

Post a Comment