Wednesday 24 May 2017

Castell Holt, Herald Gymraeg 24 Mai 2017




I’r de o Gaer, i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam, ydi pentref Holt hyd yn oed yng Nghymru? Ydi mae o, mae’n rhan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam, ond faint o honnom sydd yn wirioneddol gyfarwydd a hanes Holt? Wrth i rhywun agaosau at y ffin rhwng Cymru a Lloegr mae yna dirwedd anweledig, bron fel tir neb, neb yn siwr lle mae’r ffin, perthyn i nunlle. Cofiwch mae’r trigolion lleol yn gwybod.

Wrth son am ardal y ffin, atgoffir rhywun o’r grwp electronig Cymraeg, Brodyr (y Ffin) – ar un adeg yn byw yn Saltney, dyna chi le sydd ar y ffin go iawn ac yn ochri a Afon Dyfrdwy unionsyth.  Anodd credu fod unrhyw faner yn gallu chwifio mewn lle mor ffiniol. Mor dir neb. Lle unig rhywsut.

Ond yn perthyn i Holt mae’r bont hyfryd ganol oesol gyda’i wyth bwa dros Afon Dyfrdwy. Y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Farndon ar yr ochr Seisnig a dau fwa sych ar yr ochr Gymreig. Gallwch gerdded drwy y bwa sych yn Holt ac yn y caeau o’ch blaen wedyn roedd y safle gwenud teils yn y cyfnod Rhufeinig. Lle pwysig.

Tywodfaen goch nodweddiadol o’r ardal yw adeiladwaith y bont ond gan fod tywodfaen yn gwisgo mor hawdd, mae’n amlwg o wahanol gyflwr y cerrig fod yma ganrifoedd o gynnal a chadw. Efallai fod y bont wreiddiol mor gynnar a’r 15fed ganrif neu hyd yn oedd ddiwedd y14eg ganrif.

Castrum Leonis neu Chastellion yw’r enw a roddir ar Gastell Holt a adeiladwyd dan orchymyn Edward I rhwybryd yn fuan ar ôl diwedd y rhyfel gyda Llywelyn ap Gruffudd. Os felly rydym yn son am John de Warenne yn adeiladu o 1283 ymlaen tan tua 1311 wedi iddo ddrbyn y tir gan Edward I. Roedd de Warenne hefyd bellach yn gyfrifol am Gastell Dinas Bran, Llangollen, ond iddo ddewis adeiladu yn Holt yn agosach i’r mor ar lan orllewinol Afon Dyfrdwy.

Erbyn heddiw dim ond muriau mewnol y castell sydd wedi goroesi a hynny ar ffurf pump ochr (pentagon). Wedi hen ddiflannu drwy broses o ail-gylchu dros y canrifoedd, ar gyfer adeiladu tai Holt fe dybiaf, mae’r mur allannol a’i bump tŵr.

Drwy waith cloddio a chynal a chadw archaeolegol Stephen Grenter o Gyngor Wrecsam mae Castell Holt yn llawer mwy deniadol i ymwelwyr erbyn heddiw. Cyn y gwaith adfer roedd yr adfeilion yn dynfa i ieuenctyd yr ardal oedd yn chwilio am fangre gysgodol i gael yfed dan oed ac i wneud y pethau mae pobl ifanc yn eu harddegau yn hoffi eu gwneud heb i oedolion a rhieni gael gweld.

Bellach mae llwybr a grisiau yn tywys rhywun at du mewn y castell. Mae concrit coch ru’n lliw a’r dywodfaen yn rhwystro y muriau rhag disgyn, mae byrddau dehongli yn cyfleu yr hanes. Ern ad yw hwn yn un o gestyll amlwg Edward I, mae’n rhannu rhan o’r un hanes – sef y concwest o Gymru ar ôl cwymp Llywelyn 1282.

Nid yw’n gastell mor drawiadol a’r rhan fwyaf. Does dim tŵr amlwg. Er hyn byddwn yn dadlau yn gryf fod yn werth ymweld a Holt. Mae’r cyfuniad o’r castell, y bont, y groes hynafol yng nghanol y pentref, y pyllau pysgod i’r gorllewin ôll yn gwneud pnawn bach diddorol ac hamddenol yn y gornel fach yma o Gymru.





Bu’m yma yn ddiweddar yng nghwmni Cyngor Archaeoleg Prydain / Cymru a dwi bron yn sicr mai y fi oedd yr unig siradwr Cymraeg ymhlith y sawl dwsin ddaeth draw i Holt. Rwyf yn poeni am hyn, pam fod y Cymry mor gyndyn o ymwneud a Hanes Cymru os yw’r hanes yna yn digwydd y tu allan i’r ffyrdd neu leoliadau arferol.

No comments:

Post a Comment