Wednesday 17 May 2017

Stamp 2 Caernarfon @ y Castell, Herald Gymraeg 17 Mai 2017




Am yr ail flynedd mae digwyddiad celfyddydol Stamp yn digwydd yng Nghastell Caernarfon. Yr hyn sydd yn digwydd go iawn yw nifer o osodiadau celfyddydol gan y ACI’s (artistiaid Cymreig ifanc) – a chyn i neb brotestio, does neb wedi eu galw yn hunna, jest fi sydd yn chwarae gyda geiriau. Prosiect i adfywio Caernarfon yn ddiwylliannol yw Stamp sydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd.

A da o beth. Mae gweld gosodiadau celf gan artistisd cyffrous Cymreig fel Natasha Brooks, Llŷr Erddyn Davies, Catrin Menai a llawer llawer mwy yn beth da. Hefyd yn beth da yw fod castell Edward I, 1283, yn cael ei ail-feddiannu gan ni Gymry!  Ond na, jôc fach, dwi ddim yn rhannu’r feddylfryd hynny go iawn - o ran ‘ail-feddiannu’, dwi jest yn hapus gweld celf yn y castell, mewn adeilad o’r 13eg ganrif.

Chydig bach o nonsens yw cwyno am Edward I yn 2017. Mae’r castell wedi dychwelyd i ddwylo’r Cymry ers llawer dydd, fel y gwnaeth castell mwnt a beili Robert Rhuddlan yng nghyfnod Gruffydd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Rhaid delio a hanes ond rhaid peidio cael ein gorthrymu a’n diffinio ganddo. Fe esboniodd Bob Marley hyn yn llawer gwell na fedra’i byth yn ei gân ‘Redemption Song’ pan awgrymodd “only you can free your mind”.

Wrth wisgo fy het ‘archaeolegydd’ mae’r gosodiadau celfyddydol yn hyd yn oed mwy cyffrous. Gall y byd archaeolegol fod yn un digon sych (a rhy Seisnig) yng Nghymru a mae chwalu’r ffiniau rhwng celf / Hanes Cymru / archaeoleg yn beth hynod bwysig. Y gair allweddol bob amser yw ‘diwylliant’ a hynny o fewn cyd-destun y dirwedd ddiwylliannol. Tydi hanes ac arcaheoleg Cymru ddim yn bodoli mewn gwagle a mae hanes ac archaeoleg Cymru yn parhau i gael ei greu a digwydd yn ddyddiol.




Yn Nhŵr Du y castell roedd gosodiad Jŵls Williams. Jŵls wrthgwrs gyd-weithiodd gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd rai blynyddoedd yn ôl ar brosiect Meini Hirion Môn gyda disgyblion ysgol yn peintio rhai o feini hirion amlycaf yr ynys. Felly mae Jŵls wedi hen arfer gyda pontio (a pheintio) rhwng celf ac archaeoleg. Ei gosodiad tro yma yw strip o olau coch-binc.

Drwy gyd-weithio ar artist Mattt Moate (sydd yn gyfenw addas rhywsut ar gyfer digwyddiad mewn castell) mae Jŵls wedi creu darn o’r enw Balistaria II, 2017. Dwi’n cymeryd mai Baistaria I oedd y gosodiad llynedd 2016. Chwarae hefo’r syniad o’r golau sydd yn dod drwy’r tyllau saethau i mewn i’r castell mae Jŵls a Matt hefo’r gosodiad. Awgrymir hefyd ganddynt fod tu fewn y castell bellach yn ddi-amser.

Wrth fwynhau y gosodiad siaradais a rhywun arall yn y tŵr a ddefnyddiodd y gair ‘effeithiol’ i gyfleu ei theimladau am yr hyn a welodd. Roedd blodau angladdol Llŷr Erddyn Davies yn ddigon effeithiol ond roedd ganddo ddarn mawr o bibell neu diwb metal oedd yn cael ei guro yn rythmig gam lwyth o blant ifanc  yn y capel yn y Tŵr Du. Fy ymateb oedd gwenu.




Heb os mae Natasha Brooks yn un da. Unwaith eto mae dŵr yn amlwg iawn yn ei gwaith. Cofiaf ei sioe graddio gyda’r fideo ohonni yn y bath yn cael ei ddangos mewn bath go iawn. Y tro yma taflu llun o ddŵr ar do un o loriau y Tŵr Siamberlin wnaiff Natasha. Dwi’n credu fod rhywun angen gorwedd ar ei gefn ac edrych am i fyny i werthfawrogi’r  tawelwch ysbrydol sydd yn gysylltiedig a’r gosodiad.




Felly da o beth. Da iawn. os am gael mwy o wybodaeth mae angen dilyn @stampcaernarfon ar Trydar. Siaradais a nifer oedd heb glywed am y digwyddiad. Mae’n gweithio dwy ffordd. Rhaid i bawb gysylltu.

No comments:

Post a Comment