Monday 19 June 2017

Etholiad Cyffredinol 2017, Herald Gymraeg 14 Mehefin 2017




Arhosais tan fore Gwener, y bore ar ôl yr Etholiad Cyffredinol cyn sgwennu’r golofn. Pwy fyddai wedi dychmygu? 19eg Ebrill eleni a Theresa May yn cyhoeddi y bydd Etholiad Cyffredinol ar yr 8fed o Fehefin, gyda’r bwriad, yr unig fwriad, o sicrhau mwyafrif llethol i’r Blaid Ceidwadol. Mwyafrif llethol er mwyn sicrhau Brexit caled. Methiant. Bydd rhaid ail-feddwl.

Methiant go iawn i’r strategydd ymgyrchu o Awstralia, Lynton Crosby. Os mai ei eiriau ef oedd “strong and stable”, (O.N Theresa, cofia ail adrodd hyn pob tro rwyt yn rhoi brawddeg at ei gilydd), fe ddaeth y geiriau yn ôl fel bwmerang milain i frathu Crosby ar ei ben ôl hunnan sanctaidd.

O fewn dim roedd May yn ‘weak and wobbly’, yn bennaf oherwydd ffolineb y ‘dreth gorffwylledd’ a munud mae’r wasg a’r cyfryngau yn bachu ar y gwrth-safbwynt, strong/ stable / weak / wobbly – mae doethineb Crosby yn ymddangos yn llawer llai doeth. A’i dyna’r cangymeriad mawr – y dreth gorffwylledd - ymosod ar ei chefnogwyr ei hyn?

Heblaw’r ail-adrodd di-dor am strong and stable pan roedd May mor amlwg yn ymddangos yn fwy-fwy sigledig ei gwedd roedd ei phenderfyniad (Crosby eto ta pwy?) i beidio cymeryd rhan mewn cyfweliadau a’r drafodaeth arweinwyr ar y teledu wedi adlewyrchu’n ddrwg. A dweud y gwir, dwi ddim yn credu i May ateb fawr o gwestiynau dros yr holl gyfnod ymgyrchu. Ydi oes y ‘soundbite’ trosodd felly?

Llwyddodd Corbyn mewn sawl ffordd. Siaradodd yn naturiol, atebodd y cwestiynau. Denodd yr ifanc. Llai amlwg, a dyma’r broblem fawr hefo Corbyn, yw beth yn union yw llwybr y Blaid Lafur gyda trafodaethau Brexit? Y farchnad sengl fydd y cwestiwn mawr nawr.

Ar lefel Prydeinig diolch byth fod Caroline Lucas wedi ei hail-ethol. Dyma chi un llais rhesymol mewn môr o wallgofrwydd a soundbites. Syndod efallai fod Nick Clegg wedi colli ei sedd. Tydi Clegg ddim yn ddrwg i gyd. Eto ran amla roedd Clegg yn cynnig llais rhesymol cytbwys ond mae wedi colli ei etholaeth, ei etholwyr – y gosb eithaf. Dim maddeuant am y glymbliad yna nagoes Nick na’r ffioedd myfyrwyr?

Os mai Cenedlaetholdeb Seisnig, llawer gormod o hiliaeth, y bleidlais brotest oedd UKIP mae hynny trosodd. Mabwysiadwyd y cenedlaetholdeb Seisnig yn ddigon hawdd gan adain dde y Toriaid ac ymddengys nawr fod pantomein Nutall trosodd. Fe fu’m yn dadlau ers blynyddoedd fod y cyfryngau wedi rhoi llawer gormod o sylw i UKIP o gymharu a’r Blaid Werdd. Heb os fe gynyddwyd cefnoagaeth UKIP oherwydd yr holl sylw cyfryngol. Farrage y meistr PR a soundbites eto.

Fydd hi ddim mor hawdd ar Farrage alw ar ei werin fyddin bellach. Ond os bydd Brexit yn meddalu – sgwn’i lle aiff Farrage. A fydd y werin-fyddin allan ar y stryd gyda ey picwerchi?
Ar lefel Prydeinig, diolch byth fod gan Plaid Cymru bedwar aelod seneddol – eto er mwyn cyd-bwysedd yn erbyn cenedlaetholdeb Seisnig a Brexit caled. Ond, yng nghyd-destun Cymru – dim ond jest. Os llwyddodd Ben Lake drwy fod yn ifanc a chall method Ieaun Wyn Jones drwy fod yn ail-dwym. Agos oedd hi ym mhob man a’r bleidlais yn rhannedig.

Trosodd hefyd mae cenedlaetholdeb caled yn yr Alban. Does dim awydd am annibyniaeth mae’n ymddangos. Collodd Angus Robertson ei sedd. Un da oedd Robertson yn San Steffan heb os. Tawelodd Sturgeon ar Indy Ref 2 yndo, collwyd gwynt o’i hwyl rhywsut.

Mewn gwirionedd mae arweinyddiaeth May, Wood, Sturgeon, Farron ôll wedi cael cic yn y pen ôl. Tydi hi ddim yn dda arnynt. Mae angen ail-feddwl. The British people have spoken ond nid yn y ffordd roedd pobl yn ei ddisgwyl. Oleiaf ar ôl gwallgofrwydd pleidlais Brexit mae llygedyn o obaith nawr. Cawn weld.


No comments:

Post a Comment