Wednesday 28 June 2017

Jah Punk, Herald Gymraeg 28 Mehefin 2017




Er gwaetha’r holl ansicrwydd ac ansefydlogrwydd sydd yn naturiol gysylltiedig a’r arddegau dwi’n credu i fy nghenhedlaeth i fod yn un weddol lwcus. Wedi fy ngeni yn 1962 ac yn cyrraedd fy arddegau yn y 1970au hwyr. Roedd Thatcher a 1979 yn linell glir iawn – Thatcheriaeth oedd popeth roeddem yn ei gasau ac yn ei wrthwynebu. Syml.

Cofiaf y DJ John Peel yn son am effaith positif Thatcher ar gerddoriaeth pop wrth iddo esbonio fod Thatcher wedi gwneud nifer fawr iawn o bobl yn flin iawn – a phan mae pobl yn flin mae hynny yn creu cerddoriaeth dda gyda angerdd. BBC Radio 1 oedd Peel. Hanfodol.
Magwraeth gefn-glwlad gymharol ddiniwed a chymarol braf gefais i, a hynny yn Llanfair Caereinion. Mwynder Maldwyn. Ond, roeddwn yn gwrando ar John Peel pob nos rhwng 10 a hanner nos ar BBC Radio1. Dyna mewn ffordd oedd yn fy nghadw i fynd. Yn fwy na hynny, Peel a’r recordiau roedd yn ei chwarae oedd fy addysg gwleidyddol.Roedd sioe Stuart Henry o’r enw ‘Street Heat’ ar Radio Luxembourg ar nosweithiau Sul yn hanfodol hefyd.

O’r diniweidrwydd cefn gwlad fe esblygodd meddylfryd oedd wedi ei ffurffio, ei lywio a’i gyfoethogi gan recordiau. Meddyliaf yn syth am gân gan y Tom Robinson Band, “Glad To Be Gay”. Rwan, digon o waith fy mod yn gwybod rhyw lawer am rywioldeb hoyw yn ystod fy arddegau, mwy na wyddwn am unrhyw rhywioldeb arall go iawn,  ond o edrych yn ôl mae’n weddol amlwg fod nifer o fy nghyfoedion ysgol yn hoyw. Dwi ddim yn credu i ni drafod y peth ac yn sicr na’th hyn rioed boeni neb. Pam ddylia fo?

Y cwestiwn heddiw, oedd y record yna gan y TRB wedi tawleu meddwl rhywun wrth i rywun drio gwneud synnwyr o bethau wrth dyfu fyny yng nghefn gwlad.? Roedd hi’n iawn bod yn hoyw. Roedd record TRB yn un da yndoedd.Hyd heddiw rwyf yn canmol effaith bositif y record yna.



Record arall oedd yn gyson ar sioe Stuart Henry oedd ‘Ku Klux Klan’ gan Steel Pulse o Handsworth, Birmingham. Rwan. pwy a beth oedd y Klu Klux Klan? Doedd dim son am bethau fel hyn yn Llanfair Caereinion. Eto dyma sylweddoli fod y Rastas yn Steel Pulse neu Aswad neu Black Slate neu’r Cimarons a’r yr un ochr a ni. Doedd na ddim Rastas yn Llanfair chwaith ond fe oedd cyfle i weld bands fel hyn yn y Music Hall yn yr Amwythig.

Efallai mai’r erthygl gan Vivien Goldman yn y cylchgrawn cerddorol Sounds, 3dd Medi 1977, wnaeth yr argraff fwyaf arnaf. Dyma Tony James o Generation X ar y llwyfan hefo’r Cimarons, dyma Viv Albertine (y ferch ddelia yn y Byd) tn cael tynnu llun hefo Steel Pulse, dyma Patti Smith a Burning Spear yn gwenu gefn llwyfan. Y pennwad ar yr erthygl oedd ‘Jah Punk, New Wave Digs Reggae OK’.

O fewn blwyddyn roedd Carnifal Rock Against Racism wedi ei gynnal yn Victoria Park. Mae’r clipiau o’r Clash yn canu White Riot a Jimmy Pursey o Sham 69 yn ymuno a nhw bellach yn un o’r clips fideo mwyaf eiconaidd o’r cyfnod Punk. Ond, Misty in Roots arweiniodd yr orymdaith. Fu bywyd rioed ru’n fath wedyn i genhedlaeth gyfan. Hyd yn oed os nad oeddem yn Victoria Park roedd Rock Against Racism yn bennod yn ein gwerslyfr.

Yn sicr fe gefais gysur mawr a sicrwydd am fywyd o’r recordiau yma. Mae Thatcher wedi mynd (efallai) ond y meddylfryd yna yw’r gelyn hyd heddiw. Dyna pam mae Brexit mor wrthyn. Dyna pam mae May, Gove, Leadsom a’r boi gwallt-felen mor wrthyn. Os yw cerddoriaeth yn gwneud rhywun yn hapus mae neges Jah Punk yn rhoi’r ffocws.






No comments:

Post a Comment