Thursday 13 July 2017

Glud Rhyfedd, Herald Gymraeg 12 Gorffennaf


Dosbarth Cymraeg i Oedolion Yr Wyddgrug yng Nghastell Ewlo


‘It was strange glue that held us together while we both came apart at the seams’

Efallai ddim cweit mor ddramatig a geiriau’r gân gan Catatonia, ond rhyw glud od iawn sydd yn ein huno fel Cymry. Yr Iaith, efallai hanes, efallai y lle, y tir, chwaraeon – ond heb os glud rhyfedd yw hwn. Nid oes glud gwleidyddol (ddim ar hyn o bryd yn sicr).

Wrth drafod archaeoleg byddaf yn datgan bob amser mai’r lle yma sydd yn bwysig i mi. Felly Cymru yw’r ddolen gyswllt, y peth pwysig, nid y cyfnod; does gennyf ddim ffafriaeth dros y gwahanol gyfnodau archaeolegol. Yr un mor ddiddorol yw olion Chwarel Dinorwig a chaer Rhufeinig Segontiwm. Cymru sydd yn bwysig.

Wythnos dwetha ym Machynlleth cynhaliwyd cyfarfod wedi ei drefnu gan Nia Llywelyn ar ran Cymdeithas yr Iaith er mwyn datblygu strategaethau ar gyfer cymhathu yn well y rhai sydd yn dysgu’r Iaith ac archwilio ffyrdd ehnagach o gadw’r diddordeb yn yr Iaith, i gadw at y dysgu a hynny o fewn fframwaith cymunedol.

Cefais wahoddiad i annerch y cyfarfod fel ‘gŵr gwadd’. Rhaid cyfaddef fy mod yn llawer mwy cyfforddus yn ystyried fy hyn fel un o’r tiwtoriaid. Ers blynyddoedd bellach rwyf wedi cynnal dosbarthiadau archaeoleg ar gyfer cyrsiau Cymraeg i Oedolion (Prifysgol Bangor) mewn llefydd fel Llanfairpwll, Cyffordd Llandudno, Yr Wyddgrug, Y Bala a Chricieth.

Gan fod cymaint o dwitoriaid arall yn cymeryd rhan ym Machynlleth, digon hawdd oedd gwisgo’r het honno. Rydym yn cael hwyl yn y dosbarthiadau yn gwella’n Cymraeg. Cawn ddysgu mai ‘corffdelw’ yw effigy wrth drafod cerrig beddau canol oesol. Cawn ddysgu mai radiocarbon ydi radiocarbon a mai ‘t’ fach sydd i dysysogion Gwynedd. Cawn drafod os mai ab Iorwerth oedd Llywelyn Fawr (er fod rhai yn dal i ddefnyddio ap Iorwerth).

Yr hyn a gafwyd gan yr holl diwtoriaid oedd profiad o’r dosbarth, profiad llawr gwlad, dim damcaniaethu, dim disgwylaidau gor-uchel – dim ond y byd go iawn. Dyma’r bobl ddylid wrando arnynt wrthgwrs. Y tiwtoriad a’r dysgwyr. Dyma’r bobl sydd yn gwneud y peth go iawn, Y nhw sydd yn gwybod.

Wrth anerch y cyfarfod, llithrais o bryd i’w gilydd i’r cymeriad arall, y Rhys Mwyn heriol. Dyna rhan o fy ngwaith mae’n debyg – bod yn heriol. Am ddim rheswm o gwbl cyhoeddais wrth y mynywchwyr nad oeddwn yn Genedlaetholwr nac yn credu mewn Duw. Sut yn union mae hynny o gymorth wrth ddysgu’r Iaith dwi ddim yn siwr – ond y pwynt oedd gennyf oedd fod Cymreigtod a’r Gymraeg yn ddi-hawlfraint.

Rwyf yn sicr o fy Nghymreictod ac yn treulio pob diwrnod yn gweithredu mewn rhyw ffordd dros yr Iaith ond dwi ddim yn cael fy holl-ddiffinio gan y peth. Rwyf hefyd yn anarchydd gwael, yn cael fy ysbrydoli gan Punk, yn archaeolegydd, yn awdur. Eto mae’r glud od yna, sef y Gymraeg, heb os, ond fy mwhynt oedd fod mwy na jest yr Iaith. Efallai?

Mynegodd Heled Gwyndaf o’r Gymdeithas y pwysigrwydd o ddeddfu dros y Gymraeg. Cytunaf. Ond, rhaid hefyd sicrhau fod galw am y ffurflen binc Gymraeg rydym newydd ei hawlio. Soniais am fy nghyfnod proffesiynol yn y Byd Pop – pawb yn gweiddi dros weld CD’s Cymraeg ar werth yn yr archfarchnadoedd ond diawl o neb yn prynu CDs Cymraeg (heblaw rhai artistiaid Canol y Ffordd). Ffaith – dwi’n gwybod achos mae’r selar acw yn llond dop o CD’s grwpiau fel Chwarter i Un sydd erioed wedi gwerth. Nid am eu bod yn rhai gwael – ond am fod y Cymry yn ara deg pan mae hi’n dod i rock’n roll.

Efallai mae methodistiaeth o fath yw hyn. Peidiodd yr anghydffurfwyr anghydffurfio. Planced gynnes binc o gysur yw’r pethau Cymraeg, y Pethe Cymraeg hynny mae David R Edwards bob amser yn eu herio. O’r Gymdeithas i’r Steddfod a’r Volvos gyda Tafod y Ddraig.
Dim ond drwy anghyddffurfio mae symud pethau ymlaen. Y Sex Pistols gannod am y ‘stupid fools that stand in line’ yn Holidays in the Sun. Mae’r llinell; honno wedi aros hefo fi ers y 6ed Dosbarth. Y ffyliad gwirion bleidleisiodd ar sail slogan ar ochr bws.

Felly efaiiai fod cyfrifoldeb ar rhywun i anghydffurfio. ‘Rantio’ fyddai’n galw hyn – prygowtha. arthio, bwrw drwyddi, baldorddi, tantro - efallai petawn yn trafod hyn gyda Dosbarth Cymraeg. Peidier cyfieithu hyn fel ‘Sefyll ar dy focs Sebon’ da chi. Dyma lle mae’r hwyl – yn dysgu, cyd-ddysgu, geiriau newydd. Rydym oll yn ddysgwwyr parhaol

Diwrnod hynod positif a mae Nia Llywelyn i’w chanmol am drefnu. O ddarllen colofnau Bethan Gwanas rwyf yn ymwybodol fod Bethan wedi crybwyll yr angen am gefnogi’r rhai sydd yn dysgu’r Gymraeg. Rhoi amser iddynt. Mynd am glonc neu sgwrs. Cerdded a siarad. Siarad yn araf.

Byddai Gwanas wedi bod yn gyfranwr da i’r diwrnod. Yr hyn oedd yn anodd gennyf oedd osgoi’r gwleidyddol. Gan mai Cymdeithas yr Iaith oedd yn trefnu roedd rhywun yn teimlo fod angen tanio ychydig mwy. Fe feirniadwyd S4C am eu diffyg rhaglenni i bobl ifanc / arddegau cynnar. Cynulleidfa anodd i’w phlesio ond un sydd yn cael cam gan y Byd Cymraeg nid jest S4C.

Soniais dros ginio wrth Heledd Gwyndaf fod angen arnom ni gyd wrando ar y rhai sydd yn dweud yr hyn nad ydym am ei glywed. Beirniad mwyaf yr Iaith Gymraeg yw’r union rhai sydd angen eu deall, eu troi os bosib. Weithiau does dim troi ar bobl – a rhaid derbyn fod rhai dal am bleidleisio dros slogan ar ochr bws faint bynnag mae rhywun yn dadlau i’r gwrthwyneb.


Rhoddwyd chwip din i’r Guardian hefyd am fod mor nawddoglyd tuag at addysg dwy-ieithog.

No comments:

Post a Comment