Wednesday 26 July 2017

Pwer Genod, Herald Gymraeg 26 Gorffennaf 2017

Adwaith.


‘Anfodlonrwydd’. Dyna fan cychwyn da. Yn ystod Gŵyl Arall yn ddiweddar wrth i Lisa Gwilym, BBC Radio Cymru, gyfweld a’r gantores Ani Glass, fe awgrymodd Ani ei haniddygrwydd (er yn gwenu) am y ffaith na chafodd wahoddiad i berfformio ar lwyfan Maes B eleni yn Steddfod Genedlaethol Môn. Neu, i fod yn fanwl gywir, dwi’n credu mai ei hawydd i berfformio yn Maes B yn ninas ei chartref, Caerdydd, yn 2018 oedd pwynt Ani go iawn.

Wedyn ar safle trydar @thejauntyspiv ar 18 Gorffenaf ymddangosodd y cwestiwn  ‘Ife actually DIM OND dwy ferched sy'n chwarae Maes B blwyddyn ma?’.  Jaunty Spiv yw hunan arall y ffotograffydd ifanc Manon Williams. Oes rhaid galw Manon yn ifanc? Oes, achos mae hyn yn bwysig. Fe ddaw y chwyldro nesa o gyfeiriad y genehdlaeth ifanc, a fe ymddengys mai y genhedlaeth ifanc fenywaidd Gymraeg sydd ar flaen y gad.

Er mwyn cadw mymryn o gyd-bwysedd, dwi’n siwr mai blaenoriaeth Maes B, eleni, fel yn ystod pob Eisteddfod yw rhoi llwyfan i’r artistiaid mwyaf ‘poblogaidd’. Oes mae artistiad ifanc yn cael cyfle i gefnogi’r artistiaid ‘poblogaidd’ ond dim ond hyn a hyn o le sydd yna ar lwyfan dros yr wythnos.

Wrth edrych ar wefan Maes B, mae’n ymddangos fod cwestiwn Manon (Jaunty Spiv) ddigon teg, dwy ferch amlwg sydd yna – Heledd o’r grwp HMS Morris a Katie o’r grwp Chroma.Felly beth am anghofio am yr iawn a’r anghyfiawn, y poblogaidd a’r llai poblogaidd. Dyma yn union sydd yn digwydd yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi ar Nos Fawrth yr Eisteddfod, 8fed Awst. Gig Pwer Genod.

Cyfieithiad gwael o slogan ‘Girl Power’ y Spice Girls efallai, ond mae ysbryd y peth yn 100% iawn. Fe soniais ar fy sioe radio, nid yn benodol am sylwadau Ani Glass, ond fy nheimlad i oedd, peidiwch cwyno am Maes B, trefnwch gig gyda merched yn canu. Nid fy mod yn awgrymu am eiliad fod unrhywun ifanc wedi gwrando ar sylwadau hen punk 55 oed ond dwi 100 y 100 tu cefn iddynt! Dwi’n cael fy atgoffa o Punk Rock.

Codi dau fys ond wedyn gweithredu. Rhaid wynebu’r ffaith fod y Byd Canol y Ffordd Cymraeg o hyd am fynd am y ‘poblogaidd’, y hwyangerddi yn smalio bod yn ganeuon pop. Ond os am gyfansoddi cân mor berffaith a ‘Lipstick Coch’ fel mae Adwaith newydd neud – dwi ddim yn credu fod ‘poblogiadd’ yma nac acw. Celf yw’r peth yma – mi fydd ‘Lipstick Coch’ yn aros fel darn o gelf pan fydd yr hwyangerddi ym min sbwriel ffefrynnau carioci.

Snobyddlyd heb os. Gyda ‘Pop’ a chefl does dim dewis ond bod yn snobyddlyd. Gwell cael 50 o bobl sydd yn uniaethu, yn credu, yn rhan o’r chwyldro na 500 neu fwy, sydd rhy feddw i gofio pwy oedd ar y llwyfan. Fy mwriad yw mynychu’r gig yn Ucheldre, jest i gael gweld. Bydd nifer yn gwneud yr un peth dybiwn i. Nid y ni yw’r chwyldroadwragedd – ni yw’r voyuers diwylliannol – rhy hen i fod yn y parti ond heb anghofio ein gwreiddiau chwyldroadol chwaith.

Awgrymaf fod yn werth i chi wrando ar Adwaith. Grwp sydd yn naturiol ‘cŵl’ heb ymdrechu. Bu Pat Datblygu yn ymgynghori ar eu sengl ddwethaf ‘Pwysau’, oedd yn sengl ardderchog ond mae ‘Lipstick Coch’ yn symud yr agenda yn ei flaen cam ymhellach. Awgrymaf hefyd eich bod yn gwrando ar sioe radio Jaunty Spiv ar safle Mixcloud Manon Williams.

Yn rhyfedd fe awgrymodd Manon /Jaunty Spiv yn ddiweddar ar trydar nad oes fawr o symud yn y Sîn Gymraeg. Efallai fod Manon rhy agos. Hi, Adwaith y gig Pwer Genod, Ani Glass – y nhw sydd yn symud. Y cwestiwn nawr - yw pawb arall am symud hefo nhw?

https://www.mixcloud.com/manon-williams/uploads/



No comments:

Post a Comment