Wednesday 2 August 2017

Donal Lunny a Felin Uchaf, Herald Gymraeg 2 Awst 2017




Donal Lunny yw un o hoelion wyth y byd cerddoriaeth werin / traddodiadol. Un o hoelion wyth y Byd cerddorol. Ond fel sylfaenydd y grwpiau Gwyddelig, Planxty, Bothy Band a Moving Hearts mae Lunny mwyaf enwog efallai, er heddiw, mae’r galw am wasanaethau cynhyrchu neu waith sesiwn gan Lunny yr un mor amlwg. Gyda ei gyfaill Christy Moore fel lusgodd cerddoriaeth Wyddelig allan o’i gilfan traddodiadol ac ar hyd draffyrdd cyfoes y byd gyda’r grwp Moving Hearts.

Yma yng Nghymru, mae enw Lunny hefyd yn gyfarwydd gan iddo ymddangos ar record ‘Branwen’ gan Tudur Morgan (Sain SCD 4074) gan chwarae’r offerynnau bodhrán a bouzouki ar rhai o’r caneuon. Fe gyfrannodd hefyd i record Jim O’Rourke ‘Y Bont’ oedd yn trin a thrafod yn cerddorol cysylltiadau teuluol Jim O’Rourke a’r Iwerddon. Ar y record honno roedd Terry Williams (Dire Straits) ar y drymiau a Davy Spillane (Moving Hearts) yn chwrae’r pibau uilleann. Gallwch glywed yr uchafbwyntiau ar Sain SCD 2585.

Doedd Mwyn a Lunny rioed di cyfarfod. Tan wythnos dwetha. Daeth gwahoddiad gan fy hen gyfaill o Cork, David Bickley o’r grwp Hyperborea, i mi fod yn rhan o ffilm mae Lunny yn ei gyflwyno ar y cysylltiadau ar hyd yr arfordir gorllewinol – rhai cerddorol, diwylliannol ac archaeolegol.

Roedd Bickley yn gyfarwydd a fy nghefndir cerddorol ond hefyd yn gwybod mai archaeoleg yw fy mhrif beth dyddiau yma. A Bickley bellach yn gyfarwyddwr ffilm ar gyfer sianeli fel RTE ddigon naturiol iddo godi’r ffôn. Yn sicr roedd Bickley am i mi drafod y cysylltiadau archaeolegol cyn-hanesyddol rhwng yr Iwerddon a Chymru ond roedd yna is-reswm hefyd – roedd yn gwybod mod i mewn cysylltiad hefo Cerys Matthews. Dyna’r Byd Pop i chi ! Fel mae’r wraig yn ddweud, mae nhw “isho rhywbeth” pan mae’r ffôn yn canu!

Gan anghofio am fy mymryn sinigiaeth, dyma edrych ymlaen yn arw gan ein bod yn ffilmio yng Nghanolfan Felin Uchaf ger Rhoshirwaun, Llŷn. Rwan ta, os da chi heb ymweld a Felin Uchaf, mae’n rhaid i chi fynd daw am dro. Dyma lle cawn weld cwt crwn (un o’r ‘Cytiau Gwyddelod’, Oes Haearn) wedi ei ail greu, neuadd ffrâm nenfforch (ganol oesol) wedi ei godi yn ddiweddar ac oll oherwydd gweledigaeth Dafydd Hughes.

Dros y blynyddoedd o gwrydro hyd a lled Cymru, rwyf wedi cael y fraint o gyfarfod a chymeriadau sydd a’i llygaid ychydig mwy agored na’r mwyafrif. ‘Gweledydd’, rhywun gwledigaethol, visionary fydda’r gair Saesneg am un o rhain. Yn y Byd Pop, byddai Cerys a Mark Cyrff, Dave Datblygu, Gruff Rhys yn cael eu hystyried yn gymeriadau gweledigaethol, felly hefyd Rhys Ifans yn y byd actio, Mike Parker a Jon Gower fel awduron, Ed Thomas fel cyfarwyddwr ffilm. Yn y byd archaeolegol, Dave Chapman (Ancient Arts) fel archaeolegydd arbrofol.

Peidiwch a gofyn pwy, ond fe ddigrifwyd Bob Marley gan rhywun fel gŵr a oedd a’i lygaid fymrym mwy agored na’r dorf. Disgrifiad da. A dyna sut dwi’n gweld Dafydd Hughes, Felin Uchaf, yn adfer ac yn cadw’n fyw yr hen draddodiadau adeiladu. Traddodiadau Llŷn yn ogystal a thraddodiadau hynafol. Y grefft o godi fframiau nenffyrch. Y grefft o weithio coed a chodi walia cob. Hanfodol. Pwysig.

Ond mae Dafydd hefyd yn storiwr, yn cynnal nosweithiau yn y tŷ crwn mawr yn Felin Uchaf. Wrth i Lunny eistedd i lawr o amgylch y tân yn y cwt crwn dyma’r bib allan gan Dafydd ac o fewn chwinciad dwi’n gwrando ar y ddau yn cyd chwarae – fe recordiwyd y ‘sesiwn’ yn y cwt crwn ar gyfer ein rhaglen radio BBC Radio Cymru – gallwch wrando ar iPlayer.

Gan mai dyma’r tro cyntaf i Mwyn a Lunny gyfarfod roedd yn bwysig cael y gyfeillgarwch yn iawn o’r eiliad cyntaf. Os am gael y ‘cemeg’ ar y ffilm – roedd angen i ni fod yn gyforddus gyda’n gilydd. Doedd dim angen poeni. Roedd Bickley yn mynd yn fwy fwy blin hefo ni am sgwrsio yn lle canolbwyntio ar y ffilmio.

Dechreuodd y sgwrs, wrthgwrs, hefo’r cysylltiad rhwng beddrod cyntedd Barclodiad y Gawres ger Rhosneigr a’r beddau cyntedd yn Nyffryn Boyne, Iwerddon. Does dim dwy waith fod Barclodiad wedi ei ddylanwadu gan siambrau gladdu Dyffryn Boyne yn y 3edd mileniwm cyn Crist. Does dim dwy waith fod y chwech carreg gerfiedig ym Marclodiad o’r un traddodiad a Newgrange, Dowth a Knowth,

Yr un yw ‘traddodiad’y cerfiadau troellog, cylchog, zig-zags. Mudodd rhywun bron yn sicr o’r Iwerddon i Ynys Mon oddeutu 2500 cyn Crist. Rydym yn dychmygu’r stori yn lle canolbwyntio ar y ffilmio. Blin yw Bickley. Cytunais i a Donal fod ni am beidio siarad ac am ganolbwyntio ond erbyn hynny mae’n sgwrs am ‘gytiau’r Gwyddelod’ sydd ddim yn rhai Gwyddelig o gwbl. Rydym yn chwerthin wrth drafod recordiau hir Tudur Morgan a Jim O’Rourke. Atgofion. Blinach byth yw Bickley.




Do fe gafodd Bickley beth oedd ei angen ar gyfer y ffilm. Lunny yn ceisio ynganu ‘Anhrefn’ yn gywir yn ei acen Wyddelig hyfryd gan wahodd esboniad sut fod punk rock yn y Gymraeg yn rhan o’r un traddodiad – caneuon gwerin oedd ‘Rhywle yn Moscow’, Rhedeg i Paris a ‘Be Nesa ‘89’. Ail beth oedd y ffilmio i mi. Pwysicach o lawer oedd bod mewn ystafell hefo Dafydd Hughes a Donal Lunny.

Cwt crwn nid ystafell os am fod yn fanwl gywir ond da chi’n dallt beth sydd gennyf. Cael cyd-gerdded a’r gwŷr hynod yma, gwŷr gweledigaethol – dyna oedd yn bwysig. Fel gyda cael y cyfle i wneud gwaith archaeolegol ym Meillonydd neu Gastell Carndochan dwi byth yn anghofio pa mor freintiedig ydwyf i gael y cyfle.

No comments:

Post a Comment