Wednesday 4 October 2017

Barclodiad y Gawres, Herald Gymraeg 4 Hydref 2017







Rwyf wedi cyfeirio sawl gwaith dros yr wythnosau dwetha am gynllun Drysau Agored yn ystod Mis Medi dan ofal Cadw a fy mod yn tywys pobl o almgylch rhai o gestyll tywysogion Gwynedd, Castell y Bere a Dolforwyn yn benodol. Rwyf hefyd wedi cyfeirio at safle hynod Oes Haearn / cyfnod Rhufeinig, Din Lligwy ger Moelfre.

Ond, heb os nac onibai, y safle sydd yn denu y niferoedd bob blwyddyn yw siambr gladdu Barclodiad y Gawres ger Llanfaelog / Rhosneigr / Aberffraw. Rwyf wedi bod wrthi ym Marclodiad am ddeuddydd ym Medi bellach ers dros 5 mlynedd a does dim awgrym o gwbl fod y diddordeb yn y feddrod yn pallu na’r nifer o ymwelwyr yn distewi.

Yr hyn sydd yn ddiddorol gyda Barclodiad yw gofyn i bobl o ble mae nhw wedi teithio? Fel arfer, fel rheol, mae’r patrwm yn weddol gyson. Bydd treuan go dda yn bobl leol o Ynys Môn neu Wynedd. Ydi Gwynedd yn cyfri fel lleol dudwch? Os ’di pobl wedi dod o Sir Gonwy (yr hen Sir Ddinbych) neu drefi fel Bae Colwyn rwyf yn eu cyfri fel pobl sydd wedi teithio ychydig ymhellach.


Felly os ydi treuan o’r ymwelwyr yn lleol, mae treuan arall yn bobl sydd wedi gwneud ymdrech benodol i deithio o bell ac am wneud diwrnod neu benwythnos ohonni. Y treuan olaf rwyf yn eu gyfri yw’r rhai sydd yn cerdded Llwybr yr Arfordir a ddim callach ein bod yn cynnal Diwrnod Agored ond mae’r mwyafrif i weld yn hynod o faclch o ganfod y siambr ar agor Eu hymateb bron yn ddieithriad yw eu bod wedi gobeithio cael gweld tu mewn i’r siambr rhyw ben ond rioed wedi ei weld ar agor.



Wrth gyrraedd yn blygeiniol eleni (oleiaf awr cyn unrhyw ymwelwyr) dyma weld cwpl yn aros amdanaf. “Yma ar gyfer y Diwrnod Agored?” Oeddan wir a wedi teithio yr holl ffordd o Gaerdydd. Amlwg eu bod a ddiddordeb i fod yn sefyllian yna awr cyn y daith dywys gyntaf oedd wedi ei hysbysebu.

Wrth reswm, hyd yn oed os mai’r Diwrnod Agored oedd wedi eu denu mae’r rhan fwyaf yn gwneud diwrnod llawn neu benwythnos o’r profiad. Pawb yn meddwl am ginio, panad a lleoliadau arall gwerth eu gweld ar Ynys Môn. Nifer wrth reswm yn bwriadu ‘gwneud’ Bryn Celli Ddu yr un diwrnod. Un cwpl eleni yn ffraeo gan fod ‘hi’ isho gweld castell Biwmares a ‘fo’ isho gweld siambr gladdu arall. Dwedais fod Castell Biwmares werth ei weld – gan gadw mor niwtral a phosib.

Beddrod-gyntedd yn y traddodiad Gwyddelig yw Barclodiad gyda cyntedd hir a chul yn arwain at y siambr fewnol sydd ar ffurff croes gyda siambrau ochr. Union fel Newgrange, Knowth, Dowth. Rhyfeddol ond yr awgrym felly yw fod rhywun, teulu efallai neu criw ifanc wedi mudo o Ddyffryn Boyne i’r cyfeiriad yma gan weld Mynydd Twr ar y gorwel a glanio rhywle i’r gorllewin o Aberffraw tua 2500 cyn Crist. Doedd na ddim Caergybi na Aberffraw pryd hynny cofiwch.

Nid pobl Neolithig Môn ddyfeisiodd y feddrod-cyntedd, mae’r siambrau Gwyddelig yn gynharach, felly symud ffordd hyn wnaeth pethau. Unai mewnfudwyr neu pobl Môn yn mabwysiadu’r ffasiwn diweddara o godi cofadeiladau ar gyfer y meirw.

‘Anodd’ wrth drafod mudo, fod amaethyddiaeth wedi cyrraedd Ynysoedd Prydain oddeutu 4000 cyn Crist, fod metal wedi ein cyrraedd tua 2000 cyn Crist – bob tro ru’n fath – o Ewrop! Symud fu hanes pobl erioed. Wrth sefyll ger Barclodiad y Gawres ar lan-y-môr fel hyn rwyf yn edrych dros y môr i gyfeiriad Iwerddon. Dyma’r draffordd Neolithig. ‘Anodd’? Ddim go iawn. Dyma ein hanes.

Yr unig reswm dwi’n defnyddio’r gair ‘anodd’ yw fod popeth am Brexit, holl wallgofrwydd y peth o ran economeg, hiliaeth a’r ffaith fod y peth yn croes i’n holl hanes. Heblaw am y ffaith fod hanes ac archaeoleg yn ‘ddiddorol’ rhaid dadlau mai’r unig bwynt astudio pynciau fel hyn yw ein bod yn dysgu rhywbeth o’r broses. Ein bod mymryn callach ar y diwedd.

O ran Brexit mae rhywun yn digaloni fod y ddadl yn wrth-hanes ac yn wrth-archaeoleg.  Mae’r ddadl yn groes i addysg a goddefgarwch – yr holl bethau hynny rydym yn ei ddysgu drwy’r ysgol. Dwi byth yn siwr hefo’r archaeoleg pa mor bell i fynd o ran bod yn ‘wleidyddol’ ond anodd iawn iawn osgoi’r ffaith fod amaethyddiaeth a defnydd metal yn ddatblygiadau gafodd eu cyflwyno o Ewrop.

Beth mae Erwop wedi wneud i ni erioed? medd yr an-llythrennog wleidyddol. Bron mor dwp a gofyn be wnaeth y Rhufeiniaid? Concrit, y bwa – mae digon o ddiolch i’r Rhufeiniaid (Ewropeaidd) hefyd. Felly mae archaeoleg yn ‘wleidyddol’ hefyd – jest fod rhaid i rhywun ddewis ei eiriau yn ofalus. Nid mor hawdd a dydiau Punk Rock.

Joe Strummer a’r Clash ganodd y geiriau “If Adolf Hitler flew in today, they’d send a limousine anyway”. Am y tro cyntaf ers 1978 rwyf yn ofni fod y geiriau hynny yn broffwydiol yn llawer rhy broffwydiol. Mi fydda May a Trump siwr o yrru’r limousine. Mi fydda Farrage yn y sedd flaen.

Wrth syllu a rhyfeddu ar y cerrig cerfiedig ym Marclodiad y Gawres (mae chwech maen gerfiedig yno) rwyf yn cael fy atgoffa o rhywbeth gwell. Rhannu diwylliant a chelf. Teithio a mudo. Cael ymgartrefu ac amaethu. Caru a chyd-fyw. Popeth ddysgais yn yr ysgol. Parchu.
Cyn crefydd ffurfiol, cyn pleidliad gwleidyddol, cyn Crist, roedd yna wareiddiad a mae Barclodiad ar y llinell amser yna o ddatblygiad diwylliannol. Dyma safle rhyfeddol a phwysig.





No comments:

Post a Comment