Thursday 28 December 2017

Addunedau 2018, Herald Gymraeg 27 Rhagfyr 2017




Amser yma’r flwyddyn da ni gyd wrthi’n llunio’n rhestr addunedau ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Mae’n beth ddigon rhesymol. Rydym am symud ymlaen gyda charlam yn y flwyddyn newydd a chael gwared a’r holl ‘ddrwg a hyll’ o’r hen flwyddyn. O ran seicoleg personol mae’r broses yn caniatau i’r unigolyn gael golwg newydd ar bethau ac yn fodd o gael gwared a’r pethau hynny sydd wedi bod yn ein dal yn ôl. Digon rhesymol.

Dyma fi felly yn rhestru. Mae dau lyfr gennyf i’w sgwennu, felly efallai nad adduned yw hyn ond bydd rhaid canolbwyntio ar y sgwennu yn ystod 2018. Rwyf yn greadur rhy brysur a mae angen llonydd i sgwennu. Felly rhaid i mi roi chwarae teg i mi fy hyn yn ystod 2018 medda fi. Adduned neu ddim, os dwi ddim yn cymeryd gofal bydd y flwyddyn drosodd a’r llyfrau heb eu sgwennu.

Yn feddyliol rwyf yn agosau at y penderfyniad. Ymwrthod fydd y gair mawr – bod yn fodlon dweud Na!, gwrthod y cynigion gwan ffwrdd a hi a chanolbwyntio ar yr hanfodol.Yr hanfodol yn unig efallai?

Rhywbeth tebyg yw’r teimlad tuag at y bobl yna sydd ond yn creu awyrgylch negyddol o’ch cwmpas. Ar-lein mae hyn mwyaf cyffredin, ac i raddau gan ein bod yn byw y bywyd cyhoeddus Cymareg yma rhaid derbyn fod sylwadau llai caredig yn ymddangos o bryd i’w gilydd ar ein llinell amser Facebook a Twitter. Dim problem a hynny OND, a mae yna o hyd OND yndoes.

OND, mae rhai o’r ‘trolls’ (bratiaith y rhyngrwyd) yn ddiflas. Y diffiniad Saeneg am ‘trolls’ yw “ugly cave-dwelling creatures” sydd wedi cael ei fabwysiadu gan eirfa bratiaith y rhyngrwyd i gyfleu pobl sydd yn aflonyddu, achosi pryder a bod yn gas drwy bostio negeseuon ar y rhyngrwyd. Weithiau cofiwch mae’r ‘trolls’ yn gallu bod yn ffraeth ac yn ddoniol. OND.

OND, ar y cyfan cymeriadau dan-dîn ydi’r ‘trolls’. Yn hapus i fod yn gas neu ffiaidd ar-lein ond digon o waith y byddan yn fodlon dweud yr un peth i wyneb rhywun. Eu hanwybuddu sydd orau, wrthgwrs, wrthgwrs! Amlwg. OND, weithiau mae’n ormod o demtasiwn i beidio dweud rhyw air bach yn ôl. Er mai eu hanwybyddu sydd orau – prin iawn ydi’r ‘trolls’ sydd yn cadw eu sylwadau ar-lein munud mae rhywun yn eu herio.

Felly, wrth lusgo fy hyn yn ôl at fy rhestr addunedau ar gyfer 2018 rwyf yn sgwennu ANWYBYDDU NHW ar frig y rhestr. Rhif 2 os ydynt yn ddiflas iawn neu yn hollol anghywir RHOI GAIR I GALL. Rhif 3, yr opsiwn niwclear. BLOCIO.

Byddaf yn dilyn yr arlunydd Banksy a’r cerddor Brian Eno ar Twitter a wyddo’chi be’ – mae’r ddau yn datgan perlau o ddoethineb sawl gwaith y dydd ar eu llinell amser. Does dim posib i ni gael yr atebion i gyd wrth law a weithiau mae angen mymryn o gymorth, mymryn o gyngor – jest fel y Beibl yn yr hen ddyddiau. Sawl gwaith yn ddiweddar mae Banksy ac Eno wedi darparu’r geiriau angenrheidiol er mwyn cyfeirio rhywun yn nôl at y llwybr sicr.

Felly, wrth lusgo fy hyn yn ôl at y gwaith sgwennu, dwi ddim yn credu fod unrhyw addunedau perthnasol rhywsut. Dwi jest angen sicrhau fod yr amser a’r llonydd gennyf i sgwennu a chrwydro. Gwaith caled yw’r gweddill.

Y gwaith darlledu ar Radio Cymru pob nos Lun yw’r peth mawr arall. ‘Paratoi’ yw’r gair mawr yma – ond does dim angen adduned i wneud hynny chwaith achos mae’r gwaith ‘paratoi’ yn rhywbeth parhaus, gwrando ar gerddoraieth yn y car, meddwl am syniadau …. drwy’r amser. Fedra’i ddim gweld bod yna adduned berthnasol onibai am, ymdrechu i wella’r sioe.

Does gennyf fawr o restr felly nagoes, gwneud llai er mwyn gwneud yr hyn dwi yn ei wneud yn well. Canolbwyntio ar y pethau pwysig. Anwybyddu’r pethau negyddol.

O ran y sgwennu mae gennyf ddigonedd o gwestiynau sydd angen rhyw fath o ‘ateb’ neu ‘ddadansoddiad’. Heddiw rydym yn gaeth i’r cysyniad o Gymru fel gwlad,lle, cenedl ond cyn y Rhufeiniaid, yn y cyfnodau cyn-hanesyddol roedd rhannau helaeth o’r arfordir gorllewinol yn rhannu arferion a diwylliant tebyg.

Yn hytrach na son am Gymru, yn y cyfnodau cyn-hanesyddol yn aml mae rhywun yn son am yr holl ardaloedd hynny ar hyd yr arfordir gorllewinol, ac eto cawn amrywiaeth rhwng gogledd a de. Roedd amrywaieth lleol i arferion ac amrywiaeth rhanbarthol ychydig mwy eang.




Rwyf newydd fod yn edrych ar, a sgwennu am, siambr gladdu o’r enw Bedd yr Afanc ger Brynberain yn Sir Benfro. Beddrod ar ffurf oriel yw hon gyda siambr ar yr ochr orllewinol. Yn yr Iwerddon mae’r beddrodau oriel mwyaf cyffredin. 
Beth yw’r stori yma felly? Cysylltiad diwylliannol neu deuluol rhwng Iwerddon a Sir Benfro yn y cyfnod Neolithig (4dd/3dd mileniwm cyn Crist)

Cymhariaeth arall rwyf yn ei drafod ar hyn o bryd yw y ddau faen hir Oes Efydd (ail mileniwm cyn Crist) ger Penrhosfeilw ar Ynys Môn. Un o’r ychydig barau o feini hirion ar yr Ynys ac eto mae parau o feinihirion yn bymtheg a dwsin yn Sir Benfro yn yr un cyfnod? Pam y gwahanaieth neu’r amrywiaeth?


Eto nid addunedau sydd ei angen arnof, jest parhau i ymchwilio, parhau i ofyn cwestiynau, parhau i dreulio amser yng nghwmni’r henebion yma. Does dim sicrwydd o gael atebion. Gofyn a chodi mwy o gwestiynau sydd mwyaf tebygol. Gallaf roi hynny ar y rhestr Adduneda efallai: GOFYN MWY O GWESTIYNAU.

No comments:

Post a Comment