Sunday 3 December 2017

Gwaith Cloddio Cae Mawr, Llafar Gwlad 137






Ym mis Tachwedd 2015 cafodd Alun Jones, Felinheli, hyd i ddarnau o lestri pridd Rhufeinig mewn cae ar ochr orllewinol Afon Saint (Seiont) yng Nghaernarfon. Hyd yma doedd dim tystiolaeth archaeolegol o unrhyw weithgaredd o’r cyfnod Rhufeinig yn y rhan yma o ardal Caernarfon er fod yn weddol amlwg y bydda rhywbeth wedi digwydd pryd hynny yn yr ardal i’r gorllewin o’r afon.

Y gaer Rhufeinig, Segontium, oedd prif gaer y Rhufeiniad drwy gydol y cyfnod Rhufeinig, o 77 oed Crist hyd at 393 oed Crist yng ngogledd Cymru, yr unig gaer i barhau mewn defnydd dros yr holl gyfnod. Cawn hefyd yr olion a elwir yn ‘Hen Walia’ uwchben yr afon ger yr A487 sef y ffordd am Bwllheli allan o Gaernarfon (South Road).

Does neb yn hollol siwr o union bwrpas Hen Walia y gaeran sydd yn dyddio o’r ail ganrif oed Crist ond fel arfer yr awgrym yw fod y gaeran yn gysylltiedig a’r porthladd Rhufeinig. Cawn adroddiadau hanesyddol yn cyfeirio at ‘bont Rufeinig’ yn croesi’r afon Saint rhywle yng nghyffuniau Hen Walia. Honir yn y Morning Chronicle 14 Tachwedd 1817 fod gweithwyr wedi dod ar draws pyst pren sylweddol ar lan Afon Saint.

Gan fod y cae lle cafodd Alun hyd i’r llestri pridd mwy neu lai gyferbyn a Hen Walia ac yn agos i lle byddai pont bosib wedi croesi’r afon penderfynnodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gynnal arolwg cerdded o’r cae ‘Cae Mawr’ yn ystod Chwefror 2017 er mwyn chwilota am fwy o lestri pridd.



Treuliwyd deuddydd yn cerdded ar hyd rhychau aredig Cae Mawr yn oflaus gan godi pob darn o grochenwaith a chofnodi eu lleoliad yn y cae gyda offer GPS. Canlyniad y deuddydd o archwilio oedd cael hyd i dros hanner cant o ddarnau o lestri Rhufeinig ac un darn bach iawn o froetsh bylchgron sydd yn nodweddiadol o’r Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig.

Cafwyd hyd i sawl darn o offer callestr wrth gerdded y caeau. Dyddio o’r cyfnodau Neolithig / Oes Efydd fyddai rhain a chafwyd ddarnau o grafwyr a llafnau cyllill calletr. Doedd dim yn annisgwyl yn hyn a dewud y gwir gan fod dyn wedi amaethu a hela dros y wlad dros yr holl ganrifoedd a mae cael hyd I offer callestr yn beth weddol gyffredin os yw rhywun yn gwybod am beth i chwilio.

Profwyd felly nad darnau siawns oedd crochenwaith Alun ond fod defnydd o’r ardal yma wedi digwydd yn y cyfnod Rhufeinig. Y cam nesa oedd trio deall mwy am hanes yr ardal a phenderfynwyd cynnal arolwg geoffisegol o dri cae, Cae Mawr, Cae Isaf a Stack Yard Field er mwyn gweld os byddai unrhyw nodweddion archaeolegol yn ymddangos o dan y pridd.

Ar y cyfan siomedig iawn oedd canlyniadau’r arolowg geoffisegol. Doedd dim byd amlwg fydda’n awgrymu adeilad o unrhyw fath wedi ymddangos ar y canlyniadau felly doedd dim golwg o’r ‘fila Rhufeinig’ fydda wedi bod mor fendigedig i’w ddarganfod. Cael hyd i’r ‘fila Rhufeinig’ oedd ein jôc / ‘chydig o hwyl i gadw’r hwylia pan roedd y tywydd yn wlyb.

Yr unig nodded a ymddangosodd ar ganlyniadau’r arolwg geoffisegol oedd llinell hir weddol syth yn croesi Cae Mawr a Cae Isaf ac yn dod i ben rhywle ger y clawdd presennol yn Stack Yard Field. Cam nesa ein archwyliad felly oedd rhoi ffos archaeolegol 6medr x 2 medr ar draws darn o’r linell er mwyn cael cipolwg a cheisio dehongli beth yn union oedd y nodwedd hon.

O ran daearyddiaeth roedd y nodwedd hir yma yn gorwedd ar ‘linell’ o gyfeiriad Afon Saint tuag at gopa bryncyn Coed Alun (Coed Helen) lle gwelwn y Castell Bach sef yr hafdŷ 18fed ganrif oedd yn ffug-dŵr gan deulu Coed Alun. Beth petae’r nodwedd hon yn hen ffordd neu lwybr Rhufeinig o’r  ‘bont’ at rhyw fath o wylfan ar ben y bryn? Yn sicr dyma cvhi un cwestiwn roeddem yn awyddus i’w ateb.

Fe gymerodd tan Mis Mawrth eleni (2017) i ni drefnu i gloddio yma gyda chaniatad caredig teulu Hendy a gyda chriw bychain a phrofiadol o archaeolegwyr dyma fynd i’r afael a’r cwestiwn o beth yn union oedd wedi ymddangos fel llinell ar yr arolwg geoffisegol.
Lleolwyd y ffos gloddio archaeolegol i’r fodfedd drwy beiriant GPS gan David Hopewell ac ar ôl clirio tua 10modfedd o bridd wedi aredig dyma ddecharu ddod ar draws rhes o gerrig oedd yn cyd-fynd yn union a  chanlyniadau yr arolwg. Digon hawdd efallai oedd cael hyd i’r cerrig ond rhaid cyfaddef mai siomedig iawn oedd y canlyniadau.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig mai gweddillion hen glawdd sydd wedi ymddnagos ar yr arolwg geoffisegol. Wrth gloddio chafwyd dim awgrym o gwbl fod unrhyw adeilad yma, doedd dim awgrym o gwbl o ffos wedi ei pharatoi ar gyfer wal o unrhyw fath a doedd dim awgrym o gwbl fod y cerrig yma yn ffurfio wyneb hen ffordd na llwybr.

Doedd dim byd cadarn yma o gwbl felly roedd rhywun yn amau yn gryf fod hon yn hen glawdd pridd efallai hefo wyneb o gerrig oedd mwy neu lai wedi ei chwalu un llwyr dros y canrifoedd drwy’r broses amaetrhyddol o aredig y cae. Deallais gan deulu hendy fod cerrig wedi eu clirio o’r cae dros y blynyddoedd felly a dweud y gwir doedd rhywun ddim yn synnu fod yr olion yma yn rhai bregus.

Hyd yma does neb wedi llwyddo i gael hyd i unrhyw fapiau  o’r caeau cyn Map y Degwm 1840 (sydd yn danos ffiniau y caeau sydd i’w gweld heddiw) felly does dim modd bod yn 100% sicr mai hen gawdd yw’r nodwedd rydym wedi ei gloddio ond dyna yw’r farn gyffredinol gennym fel archaeolegwyr.

Os felly, sut mae esbonio’r llestri pridd Rhufeinig? Bellach rydym yn gallu bod yn weddol sicr nad oes olion adeiladau yn y tri cae sydd wedi cael eu harchwilio ond efallai fod y ‘fila’ colledig o dan maes carafannau Coed Helen – pwy a wyr? Bydd angen mwy o dystiolaeth arnom cyn gwybod os oes yna unrhyw werth cloddio ymhellach yn y caeau yma.

Fe all fod y Rhufeiniaid wedi defnyddio copa bryncyn Coed Alun fel gwylfan dros orllewin Afon Menai. Fe all fod goleudy Rhufeinig yma hyd yn oed ond gan fod y ffug-dŵr wedi mwy neu lai chwalu a lefelu copa’r bryn, digon o waith fod unrhyw olion Rhufeinig (os oedd rhai) wedi goroesi’r broses adeiladu yn y 18fed ganrif.

Rydym yn gaeth i brosesau fyddai wrth fodd Sherlock Holmes, rhaid dilyn y dystiolaeth a’r dystiolaeth sydd yn arwain. Canlyniadau’r gwaith hyd yma yw gallu cadarnhau fod nifer o  ddarnau Rhyfeinig wedi eu darganfod ar lan orllewinol Afon Saint. Rhaid fod rhywbeth wedi bod yn digwydd yma yn y cyfnod felly ond hyd yma does din tystiolaeth oendant o unrhyw adeiladau, o unrhyw ffyrdd neu lwybrau neu hyd yn oed unrhyw gaeau o’r cyfnod.

Bydd yr adroddiad am waith cloddio Cae Mawr a’r gwrthrychau yn cael eu cofnodi a’u cadw gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.  www,heneb.co.uk









No comments:

Post a Comment