Wednesday 13 December 2017

Popeth yn Gymraeg, Herald Gymraeg 13 Rhagfyr 2017




Wrth sgwennu’r erthygl yma rwyf yn gwrando ar CD ‘Everybody Digs Bill Evans’ y cerddor jazz o dras Gymreig. Ei dad, Harry, mewn ffordd oedd o dras Cymreig uniongyrchol, felly roedd Bill yn Gymro o bell. Yn ôl y son roedd Harry yn ddyn cas a threisgar oherwydd y ddiod feddwol.

Cyfrannau at y record ‘Kind of Blue’ yr albym jazz sydd wedi gwerthu mwyaf erioed ddaeth a Bill i enwogrwydd fel pianydd. Pedair miliwn copi sydd wedi gwerthu o LP Miles Davies (a ryddhawyd yn 1959) hyd yma. Ond y ‘poen’ sydd am ddwyn fy sylw yr wythnos hon. Anghofiwch y cyffuriau, er mae’n debyg fod heroin wedi chwarae rhan amlwg yn natblygiad y sîn jazz yn y cyfnod yna hefyd.

Bill Evans

Y ‘poen’ yw’r peth yna mae cymaint ohonnom yn ei gario – weithiau mae modd cyfeirio at hyn fel ‘angerdd’ ond mae’n ddyfnach peth na hynny. O ran pethau Cymraeg a’r iaith Gymraeg mae’n weddol amlwg fod cymaint o bobl yn gweithredu yn angerddol achos eu bod yn credu yn nyfodol y Gymraeg. Gall angerdd a brwdfrydedd fodoli yn hawdd iawn yn y cyd-destun Cymraeg – cyfrannu at y Papur Bro, eisteddfota, gwylio S4C yn nosweithiol, pleidleisio i’r Blaid – protestio yn achlysurol hyd yn oed. Chafodd heroin rioed effaith ar y Gymraeg.

Fyddwn i ddim am eiliad yn amau didwylledd cefnogwyr yr Iaith Gymraeg, ond faint ohonnynt sydd yn cario’r ‘boen’ barhaol? Yn achlysurol iawn fe fyddaf yn cyfarfod Cymro / Cymraes arall lle rydym yn sgwrsio ac yn esbonio nad ‘dewis’ yw hyn ond ‘rheidrwydd’. Rhaid creu, rhaid mynegi, rhaid rhannu’r boen ac arllwys pethau allan, mewn print, ar record, mewn llyfr, mewn darlith neu a’r raglen radio ….. lle bynnag.

Dwi ddim yn credu mai cyfrinach yw’r ffaith ein bod ni fel colofnwyr yr Herald yn sgwennu achos ein bod awydd cyfathrebu gyda’r darllenwyr, rhannu’r pethau sydd yn ‘bwysig’ neu o ‘ddiddordeb’ i ni fel colofnwyr. ‘We ain’t doing it for the money kids’, mae hynny yn sicr. Y gobaith bob pythefnos yw eich bod chi ddarllenwyr yn cael rhyw bleser a mwynhad o ddarllen y golofn.

Y ‘sgwrs’ arall felly yw’r un gyda’r bobl hynny sydd yn ‘gorfod’ creu yn hytrach na chreu er mwyn gwneud bywoliaeth. Bywoliaeth yw un nod (yn y Byd go iawn hefo biliau i’w talu) yn sicr, ond yn y Gymraeg does byth ddigon ohonnom (yn prynu) rhywsut nagoes? Crafu byw am dros 10 mlynedd wnaeth y grwp roc Anhrefn. Byw ar ‘ffa pob ar dost’ os mynnwch. Heb Ewrop, heb gynulleidfa’r Almaen, Ffrainc, Sbaen, yr Iseldiroedd, Belg, y Weriniaeth Tsiec, Iwerddon mi fydda hi wedi bod yn weddol bîg arnom. A dyma ni heddiw yn wynebu Brexit – popeth sydd yn groes i’r hyn ddysgom wrth deithio’r cyfandir yn y 1980-90au.




Dave Datblygu sgwennodd y llinell fod “byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu”, a mae yna wir yn hynny. Gwir poenus. Cefais sgwrs hefo’r cerddor Gai Toms yn ddiweddar wrth iddo lansio ei CD newydd ‘Gwalia’. Ar y CD yna mae cân hollol berthnasol a hollol hanfodol o’r enw ‘Ewrop’. Heblaw am y neges hanfodol, mae’r gerddoriaeth yn eich hudo a chludo i arall fyd. Llwyddiant o ran cyfansoddi ddywedwn i.

Ond yr hyn a fynegais wrth Gai, (doedd ganddo ddim dewis ond gwrando), oedd y byddwn wrth fy modd yn gallu diflanu am flwyddyn neu ddwy i gyfansoddi albym neu i gael sgwennu fy llyfrau. Ond dwi’n gaeth i wneud bywoliaeth. Doedd unrhyw freindal o ‘Rhedeg i Paris’ ddim yn caniatau ymddeoliad cynnar. Croeso i Gymru.

Felly mae’r ‘creadigrwydd’ yn gorfod digwydd o fewn fframwaith gwneud bywoliaeth. Rheoli amser yw’r gyfrinach. Dwi’n credu mewn gweithio. Dwi ddim yn ddiog. A bod yn onest prin iawn yw’r amser rhydd rwyf yn ddewis ei gymeryd. Hyd yn oed wrth gerdded mynyddoedd – dwi’n meddwl am rhywbeth, yn tynnu lluniau yn llunio colofn Herad Gymraeg yn fy mhen.

Efallai fod fy mod yn ‘gryfach’ na’r cerddorion jazz - mewn rhai ffyrdd, yn fwy ‘normal’, mae gennyf wraig a dau o hogia (wedi eu mabwysiadu) a rwyf hefo swydd go iawn gyda’r sioe radio wythnosol ar Radio Cymru. Efallai mai mwy ffodus neu lwcus ydwyf. Mae’r ‘boen’ parhaol yn dal yna, pob eiliad o bod diwrnod – fe ddyliwn fod yn hapus neu hapusach. Dwi rioed di bod yn berson ‘cyffuriau’.

Rhyfedd pam fod y Gymareg mor allweddol yn hyn ôll. Berwaf yn barhaol am y byd Archaeolegol Cymreig lle mae’r Gymraeg mor brin ymhlith y rhai sydd yn honni eu bod a diddordeb yng Nghymru. Rwyf newydd sgwennu colofn am hyn i Llafar Gwlad. Os am gloddio ar safle fel Meillionydd onid oes angen ynganu’r enw yn gywir? Engraifft cyffredinol yw hyn yn hytrach na engraifft penodol.

Onid set deledu du a gwyn sydd gan yr holl archaeolegwyr di-Gymraeg felly yn hytrach na theledu lliw HD? Pam fod y di-Gymraeg hyd yn oed yn bodoli o gwbl yng Nghymru? Anghofiwch cefndir teuluol, y chwyldro-diwydiannol, daearyddiaeth a’r drefn addysg am eiliad. Cwestiwn (moesol), lle mae’r awydd? Rhaid wrth y Gymraeg os am ddallt y dalltings – ar ei fwyaf syml, i gael gwerthfawrogi T H Parry Williams os am ymweld a Rhyd Ddu. Teledu lliw.

I rai mae ‘salwch meddwl’ yn gallu oleiaf esbonio’r ‘boen’, nid ei leddfu ond oleiaf cynnig rhyw fath o ateb. Rhywle ar y spectrwm mae gan gerddorion, beirdd ac awduron y cysur yna, mae’r alcohol neu’r cyffuriau neu’r salwch yn cyfrannu at y creadigrwydd a mae pawb yn ‘dallt’ hynny. Dwi bell rhy ‘normal’ i hynny. Jest gormod o angerdd sydd gennyf.
Popeth yn Gymraeg.



1 comment:

  1. Annwyl Rhys,

    Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help.

    Mae prosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn brosiect uchelgeisiol a ddechreuodd yn swyddogol ar Fawrth 1af 2016 (gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma: sites.cardiff.ac.uk/corcencc/).

    Oes posib i chi gysylltu â mi ar WilliamsL10@cardiff.ac.uk er mwyn i mi yrru mwy o wybodaeth i chi?

    Cofion cynnes,

    Lowri Williams
    CorCenCC Research Assistant | Cynorthwwydd Ymchwil CorCenCC
    Cardiff University | Prifysgol Caerdydd



    ReplyDelete