Friday 1 December 2017

Teithiau Cerdded Archaeolegol, Herald Gymraeg 29 Tachwedd 2017





Rwyf wedi llwyddo i fynychu dau o deithiau cerdded Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ystod mis Hydref eleni. Fy ‘swydd’ oedd fel ‘tail end Charlie’ sef fi oedd y person oedd i gerdded yn y cefn i wneud yn siwr fod pawb yn iawn a fod neb yn cael eu gadael ar ôl. Dwi yn un o’r bobl hynny sydd yn mwynhau fy hyn yn llawer gwell os oes gennyf joban.

Y daith gerdded cyntaf oedd ar hyd Mynydd Conwy gan gychwyn ym mryngaer fechan Allt Wen (SH 747774) yn uchel uwchben Dwygyfylchi. Er mai ond un clawdd a ffos oedd yn amddiffyn y gaer ar y cyfan roedd awgrym o ail glawdd ar ffurf isglawdd sgarp neu counterscarp ar yr ochr ogleddol llai serth. Beth fyddai yn digwydd mewn achosion fel hyn yw fod rhan o bridd y ffos yn cael ei daflu allan i greu yr isglawdd sgarp tra roedd y rhan helaeth o bridd y ffos yn cael ei ddefnyddio i greu y clawdd mewnol wrth adeiladu’r gaer.

Gan fod y mynydd newydd losgi (Mehefin llynedd) roedd y nodweddion Oes Haearn (sef y canrifoedd olaf cyn Crist) yn fwy amlwg a roedd Jane Kenney o’r Ymddiriediolaeth wedi gwneud archwiliad fwy manwl o’r gaer ar gyfer Cadw. Mewn amser bydd y llysdyfiant yn ail afael ar y mynydd a bydd waliau cerrig a’r cloddiau yn diflanu eto dan wyrddni.

Peth braf yw cael ein tywys gan Jane gan mai hi sydd wedi gwneud y gwaith ar Allt Wen, felly mae gennym dywysydd sydd yn siarad o brofiad – a hynny yn brofiad diweddar iawn iawn. Jane yw un o’r archaeolegwyr gorau sydd gennym yng Nghymru. Rwyf yn ei pharchu am sawl rheswm, ond un rheswm arbenig yw fod Jane bob amser yn fodlon cyfaddef pan mae rhywbeth yn ddirgelwch neu ein bod heb ddatrus pethau eto – nad oes modd cynnig ateb pendant. Mae hi’n fodlon dweud “Dwi ddim yn gwybod …..”

Credwch neu beidio, yn y maes archaeolegol, mae hynny yn beth pwysig – gwell awgrymu posibiliadau na chynnig atebion pendant os nad yw’r dystiolaeth archaeolegol yn caniatau sicrwydd i ni.




Wrth groesi at Castell Caer Lleion (SH 760778) ar ochr ddwyreiniol y mynydd dyma groesi caeau lle roedd olion aredig Canol Oesol ar ffurff cefnen a rhych. Hawdd i’w weld, hollol amlwg, olion aredig heb os, Prin fod rhaid Jane ddweud dim – roedd unrhywun oedd ar y daith oedd a chefndir archaeolegol yn eu gweld yn syth. Ymhen dim roedd cwt hir Canol Oesol yn awgrymu ei bresenoldeb drwy’r rhedyn. Eto – mi ddylia ni fod ddigon craff i adnabod y nodweddion.

Bryngaer gyda mur o gerrig sylweddol yw Castell Caer Lleion, nid anhebyg i’r bryngaerau amlwg ar Llŷn, Boduan, Fadryn a Thre’r Ceiri ac yn cynnwys dros 50 cwt crwn. A dweud y gwir mae yna debygrwydd gan fod yna hefyd citadel neu is-gaer / caer ddinesig ar Gastell Caer Lleion fel sydd ar Carn Fadryn a Garn Boduan.

Er fod yna ddiffyg tystiolaeth pendant i ddyddio’r gaer ddinesig ar Fynydd Conwy  mae’n hollol amlwg ei fod wedi cael ei osod oddifewn fewn i’r gaer Oes Haeran a nad oes mynedfa i’r gaer ddinesig o’r gaer fawr. Gwelir hefyd fod cloddiau’r gaer ddinesig yn cuddio darnau o’r prif gaer felly mae’n rhaid ei fod yn adeiladwaith diweddarach. O ystyried y cysylltiad traddodiadol gyda Maelgwn Gwynedd a’r safle ar Fynydd Conwy – oes unrhyw siawns mai castell ôl-Rufeinig neu Ganol Oesol yw’r gaer ddinesig? A fu Maelgwn yma? Dyma chi gwestiwn nad oes modd ei ateb ar hyn o bryd




Yr ail daith gerdded i mi fod yn ‘tail end Charlie’ oedd dan arweinyddiaeth Spencer Smith, unwaith o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ond bellach yn rheolwr ar Ironbridge. Doedd na ddim cweit cymaint o angen ‘tail end Charlie’ yn yr achos yma gan nad oedd gwaith cerdded mawr.

Treuliwyd bron i ddwy awr ar safle Castell Dolbadarn gyda Spencer yn dangos nodweddion na fyddai’n amlwg i’r mwyafrif. Ar ddiwed dy bore gofynnodd Spencer i mi oes oeddwn wedi dysgu unrhybeth newydd? Fy ateb oedd, “Do wrthgwrs – dwi o hyd yn dysgu rhywbeth newydd hefo ti Spencer!” A mae gwirionedd yn hynny. Rydm yn dysgu rhywbeth newydd o hyd.
Arbenigedd Spencer yw gerddi a thiroedd hela Canol Oesol. Spencer sydd wedi gwneud y gwaith diweddaraf ar Sycharth a mae ei wybodaeth a’i barodrwydd i rannu gwynodaeth wedi bod yn werthfawr iawn i mi wrth sgwennu am Sycharth, cartref Owain Glyndŵr, yn fy nghyfrol Archaeoleg ddiweddaraf (2016, Gwasg Carreg Gwalch).

Merch y Brenin John oedd Siwan gwraig Llywelyn ab Iorwerth a chawsom ddehongliad gan Spencer o lle byddai gardd Siwan wedi ei osod yng Nghastell Dobadarn. Roedd tŷ bach priefat iddi a neuadd gyfarfod breifat ar gyfer ei gwesteion – a hyn ôll i ffwrdd o’r gorthwr crwn lle byddai Llywelyn yn cynnal ei lys.

Llys brenhinol oedd yma yn Nolbadarn gyda’r holl ‘drappings’ Ewropeaidd, Uchelaidd. Daeth pethau yn fyw wrth i Spencer ein harwain o amgylch y castell. Do fe ddysgais sawl ffaith newydd wrth wrnado ar Spencer ond efallai mai’r peth pwysicaf oedd atgoffa pawb fod Llywelyn yn dywysog Gwynedd, yn Frenin i bob pwrpas a rhaid cofio hynny os am ddehongli Castell Dolbadarn.

Bydd sgwrs gan Jane Kenney ar y gwaith cloddio archaeolegol yn Hedd yr Ynys, Llangefni ar Nos Fawrth 12fed Rhagfyr am 7:30pm yng Nghanolfan Ebeneser,
Stryd y Bont, Llangefni LL77 7NP.


No comments:

Post a Comment