Thursday, 11 January 2018

Peipiau Drewdod Fictoraidd (Victorian Stink Pipes) , Herald Gymraeg 10 Ionawr 2018


Lon Cwm, Y Fron


Rhyfedd sut mae llwybr neu drywydd newydd yn ymddangos. Wedi bod yn rhedeg yng nghoedwig Beddgelert oeddwn i, a digwydd bod fy mod wedi gadael y car yn y pentref yn Rhyd Ddu, wedi rhedeg heibio Tŷ’r Ysgol lle ganed T H Parry-Willams wedyn heibio Bron y Gadair ar y A4085 cyn troi am Lôn Gwyrfai y llwybr troed / beics am Feddgelert.

Rwan mae hwn yn lwybr cyfarwydd, byddaf yn rhedeg heibio Llyn y Gadair, lle arferai fy nhaid bysgota, er rhaid cyfaddef dwi rioed di gweld pysgodyn Torgoch yr Arctig a does dim syniad gennyf os bu fy nhaid, Morgan Thomas, ddigon ffodus i ddal un o rhain? Fel arfer byddaf yn dilyn gwahanol lwybrau i gyfeiriad Llyn Llywelyn a wedyn troi yn ôl am adre (neu oleiaf y car) drwy geisio defnyddio llwybr gwahanol. Nid y llwybrau yng Nghoedwig Beddgelert sydd wedi arwain at drywydd newydd.

Wrth ddychwelyd at y car, dyma sylwi ar bolyn haearn uchel yn cuddio tu cefn i gelynnen ar ochr ddeheuol Bron y Gadair ar ymyl y ffordd. Tynais lun gan feddwl mai hen bolyn lamp ydoedd. Hen bolyn lamp diddorol meddylias a werth cael llun a werth rhoi hwnnw fyny ar Facebook. Dim byd anarferol.


Rhyd Ddu


Felly dyma uwchlwytho fy llun i Facebook yn ‘falch’ fy mod wedi sylwi, a hynny am y tro cyntaf, ar beth dybiwn oedd hen bolyn lamp Fictoraidd. Feddyliais i fawr mwy am y peth, Cawod, bwyd, nôl i weithio. O fewn yr awr roedd rhywun o Lanrug yn fy nghywiro ar Facebook – onid polyn carffosiaeth Fictoraidd oedd hwn yn hytrach na pholyn lamp? Roedd y person oedd yn ymateb yn ymwybodol o ddau bolyn tebyg ym mhentref Llanrug. Un ger Rhes Rythallt a’r llall tu cefn i’r ysgol ar Lon Groes.

Rwan, rhaid oedd cyfaddef mai fi oedd yn anghywir neu yn anwybodus, felly dyma yrru gair o ddiolch at y gŵr yn Llanrug gan fynegi fy ngwerthfawrogiad am y wybodaeth. Deallais felly mai stink pipe neu stench pipe oedd y disgrifiad cywir ar bolion o’r fath ac eu bod yn uchel er mwyn cael yr arogl a’r nwyon i ffwrdd o drwyn eneidiau byw. Cynllun Fictoraidd oedd rhain, cyffredin iawn mewn dinasoedd fel Llundain – ond yn sicr rhywbeth na chlywais i rioed son amdanynt yng Nghymru.

Yn y Gymraeg mae’n debyg mai’r term cywir yw ‘peipen ddrewdod’ neu peipiau drewdod yn y lluosog.

Y cam nesa oedd rhoi stink pipe mewn i Google a dyma gael hyd i blog o’r enw stinkpipes.blogspot.co.uk  Ar y safle yma mae’r awdur yn casglu lleoliadau a’u gosod ar fap. (Does ganddo ru’n yng ngogledd Cymru). Deuthum ar draws blog arall yn canolbwyntio ar stink pipes Llundain stenchpipes.blogspot.co.uk Roedd blog arall o’r enw faded-London.

Dim syndod fod pethau Fictoriadd a phethau yn ymylu ar yr holl beth ‘steam-punk’ yn boblogaidd gyda blogwyr. Bu adfywiad dros y blynyddoedd diweddar yn y diddordeb Fictoriadd – wrth son am ‘steam-punk’ mae rhywun yn meddwl am ffasiwn a pheirianwaith a pheirianwaith / clocwaith yn arbenig – pethau hefo dannedd peiriannol.

Wrth ddychwelyd at y beipen-ddrewdod yn Rhyd Ddu mae rhywun yn sylwi ar y gwaelod addurnedig rhychog a’r ysgrif Hartleys Stoke sef y gwneuthurwyr a seren fach hefyd. Oddeutu 4 medr o uchder yw’r beipen – tebyg iawn i uchder polyn lamp.

Rhaid oedd mynd i weld y peipiau drewdod yn Llanrug felly a chefais ddim trafferth cael hyd iddynt. Adams Ltd York oedd y gweuthurwyr y tro yma, ond fel arall ddigon tebyg yr olwg yw’r polion. A dweud y gwir, hawdd iawn eu methu, hawdd iawn gyrru neu gerdded heibio heb eu gweld, heb feddwl, heb sylwi – OND – munud mae rhywun wedi gweld un beipen ddrewdod mae rhywun yn barod wedyn, yn wiliadwrus – mae’r radar ymlaen!


Llanrug

Er syndod mawr i mi, er rhaid cyfaddef fod hyn wedi codi fy nghalon yn fawr iawn, dyma ymateb gan eraill yn fy nghyrraedd drwy Facebook. Mae’n ymddangos nad y fi a’r gŵr o Lanrug yw’r unig rai a diddordeb mewn hen beipiau drewdod Fictoraidd.

Dyma glywed fod un ar Lon Cwm, Y Fron ger chwarel y Fron a gyferbyn a bynglo Llys Helyg. Eto peipen o wneuthuriad Hartleys Stoke gyda’r gwaelod rhychog a’r ser ar un o’r bandiau a ser hefyd o amgylch coron y polyn. Tebyg felly i beipen ddrewdod Rhyd Ddu.

Ond, dyma chi dda, mae mwy byth yn ymateb. Mae un ger Cae Coch, Lon Bridyn yn Morfa Nefyn, dau ger Gyffin, Conwy, dau tu cefn Min y Môr, Cricieth. Cofiodd un gŵr o Fethesda fod rhai yn arfer rhedeg rhwng Tregarth a Bethesda heibio Maes Ogwen – cwestiwn – ydi rhain dal i sefyll? Dwi heb gael y cyfle i fynd draw i Fethesda eto.

Soniodd rhywun o Gaernarfon fod un ger Tan Coed – dwi’n dal i drio cael mwy o wybodaeth lle yn union mae Tan Coed? Gyrrodd rhywun arall lun o un sydd yn sefyll ger Caeau Ashley ym Mangor Uchaf – a dyna un dwi di basio droeon heb sylwi ar fy ffordd adre o’r BBC. Gyrrodd y canwr Gai Toms lun o beipen yng Nghwm Bowydd.

Soniodd rhywun arall am un o flaen Rhes Tan y Ffynnon yng Nghwm y Glo – ger Lon Gwyrdd? ond methais yn llwyr gael hyd i’r beipen. Efallai fod y beipen wedi ei dymchwel yn y cyfamser? Cefais hanes dau arall yn Nhrawsfynydd. Anhygoel – a hyn ôll yn dilyn un llun ar Facebook.


Os oes unrhywun hefo gwybodaeth pellach am beipiau drewdod byddwn yn falch o glywed. Sgwennwch at yr Herald neu ebostiwch rhysmwyn@hotmail.co.uk