Friday 23 February 2018

Angen mwy o Gymraeg yn y Byd Archaeolegol, Llafar Gwlad 139





Dychmygaf nad oes fawr gwaeth i glustiau’r Cymry na chlywed rhywun gyda ‘tatan yn ei geg’ yn cam ynganu enwau llefydd, yr union lefydd hynny yn ein broydd sydd mor agos at ein calonau. Wel, dyna chi rhywbeth rwyf yn gorfod ei ddioddef bron yn ddyddiol yn maes archaeoleg yng Nghymru.

Cofiaf fy hyn yn fyfyriwr ifanc a diniwed 18oed yn astudio cwrs gradd archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd rhwng 1980 a 1983 ac yn gorfod dioddef gwrando ar ddarlithydd yn cyfeirio at Gastell Odo ger Aberdaron fel “Castle Ewdew” a hynny dro ar ôl tro ar ôl tro.

Castell Odo oedd un o’r safleoedd pwysig hynny oedd yn y gwerslyfrau oherwydd y ffaith  fod y cyfnod o ddefnydd o’r safle yn pontio’r Oes Efydd Hwyr a’r Oes Haeran cynnar. Cloddiwyd y safle gan yr Athro Leslie Alcock ac awgrymodd ei ganlyniadau fod yma ddefnydd hir o’r safle cylchfur dwbl (dau glawdd o amgylch y gaer).

Dim ond yn Llŷn mae’r safleoedd cylchfur dwbl yma i’w cael mewn gwirionedd yng ngogledd Cymru. Arddull o godi bryngaerau wedi ei neilltuo i ardal ddaearyddol gyfyngiedig iawn – pen orllewinol penrhyn Llŷn i bob pwrpas.
Yn amlwg, doedd y ‘Rhys 18 oed’ ddim am godi ar ei draed mewn darlithfa a chywirio Athro o Brifysgol Cymru, dim ond eistedd yna yn chwerthin yn ddistaw nes i mewn gwirionedd. Doedd neb arall yn fy mlwyddyn i yn siarad Cymraeg, doedd yna neb arall yn sylwi – i bawb arall roedd “Ewdew” yn enw Cymraeg cywir siwr o fod.

Ella y dyliwn i fod wedi dweud “look with all due respect, you need to get your facts and dates correct, but you also need to get your Welsh pronounciation correct as well”. Dyna sut roeddwn yn teimlo.

Bellach, rwyf wedi cyhoeddi dwy gyfrol am archaeoleg Cymru drwy Gwasg Carreg Gwalch a wedi cyffwrdd a’r ddadl gyfarwydd hon sawl gwaith wrth sgwennu’r cyfrolau. Os yw’r archaeolegwyr a chymaint o ddiddordeb yng Ngymru sut nad ydynt yn dysgu’r iaith? Cwestiwn da a phwysig.

Parhau mae’r tatenau mewn ceg, rhai yn waeth na’i gilydd. Bellach mae Odo yn “Odow” sydd fymryn (ond dim ond mymryn) llai poenus i’r glust. Yn anffodus i’r archaeolegwyr mae safle arall cylchfur dwbl cyfagos i Gastell Odo o’r enw Meillionydd yn cael ei gloddio ar hyn o bryd gan Brifysgol Bangor. A’r pa bwynt mae cam-ynganu yn dangos diffyg parch at y lle, at yr iaith? Cwestiwn.

Does dim dwy waith fy mod yn teimlo fel llais unig Cymraeg yn y byd archaeolegol. Nid fi yw’r unig archaeolegydd Cymraeg ei iaith o bell ffordd, ond does dim hanner digon ohonnom. Does dim digon ohonnom i sicrhau fod cyfarfodydd a darlithoedd cyhoeddus angen bod yn ddwy-ieithog.

Wrth gyfeirio at ‘ddiddordeb y di-Gymraeg’ yn ein archaeoleg, hanes, gwlad, tirwedd cyfeiriaf yn aml mai teledu du a gwyn sydd ganddynt yn hytrach na theledu lliw HD. Dim ond rhan o’r darlun mae nhw yn gallu ei weld heb yr iaith. Felly pam ddim dysgu Cymraeg? Cwestiwn.

Ond, wrth awgrymu hyn yn ‘garedig’ rhaid hefyd atgoffa’r Cymry Cymraeg sydd yn cael pwl o chwerthin hunnan gyfiawn wrth i mi ddweud pethau fel hyn yn gyhoeddus – mae’n rhaid I ni fod yno, yn ymwneud a’r maes – nid cwyno am “Saeson” ac “Edward Iaf “eto ac eto.

Bydd unrhywun sydd wedi darllen fy ngholofnau yn Llafar Gwlad, yr Herald Gymnraeg neu’r ddwy gyfrol Carreg Gwalch yn gyfarwydd a’r bregeth. Ond tydi’r bregeth ddim yn agos at ddiweddglo.

Yn ddiweddar mynychais daith gerdded wedi ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd â Chastell Dolbadarn gyda’r archaeolegydd Spencer Smith yn ein tywys. Spencer yw’r archaeolegydd sydd wedi gwneud cymaint o waith yn ddiweddar yn astudio parciau hela a gerddi canol oesoedd. Spencer sydd hefyd wedi gwneud gawith diweddar ar Sycharth, cartref Glyndŵr ger Llangedwyn. Ail edrych ar waith cloddio Hague (1966) yn Sycharth yn y 60au wnaeth Spencer gan daflu llawer mwy o oleuni ar gynllun a’r arferion dydd i ddydd yn Sycharth. Gwaith pwysig.

Wrth ein tywys o amgylch Castell Dolbadarn mae’n amlwg fod Spencer yn edrych ar ddefnydd a statws y castell Cymreig yma yn hytrach na’r nodweddion archaeolegol arefrol. Hynny yw, yn amlwg, mae Spencer yn dangos sut mae’r muriau yn cysylltu, pa dwll sydd yn ddrws, yn ffenestr, yn le tân neu yn doiled garderobe.

Yr hyn gafodd ei amlygu go iawn gan Spencer oedd fod Dolbadarn yn gastell ar gyfer brenin. Y ‘brenin’ oedd Llywelyn ab Iorwerth i ddechrau a wedyn Llywelyn ap Gruffudd yn ddiweddarach. Tywysogion Gwynedd mewn geiriau arall, a Llywelyn Fawr rhywbryd rhwng 1220-1230 oedd yn gyfrifol am godi’r castell hynod hwn wedi ei fodelu ar dwr crwn (gorthwr) Wakefield yn Nhwr Llundain yn ôl Spencer.

Yn ‘draddodiadol’ rydym wedi cyfeirio at y twr crwn yn Nolbadarn fel un tebyg i’r tyrrau crwn ar hyd y Mers, cestyll fel Bronllys neu gastell Tretŵr. Rwyf wedi awgrymu fod twr hynod William Marshall yng Nghastell Penfro wedi gosod y ‘blueprint’ os mynnwch ond mae Spencer yn argyhoeddedig mai Twr Wakefield yw’r tebygaf o ran arddull pensaerniol i Gastell Dolbadarn.



Os felly byddai Llywelyn Fawr wedi ymateb yn gynnar iawn i’r datblygiadau gan Harri III yn Nhwr Llundain. Fel arfer mae haneswyr yn cyfeirio at gyfnodau o ail-adeiladu ac addasu yn Nhwr Llundain o 1217-1227 a wedyn o 1238 ymlaen. Byddai angen sicrwydd pryd cychwynwyd y gwaith o godi twr Wakefield os yw damcaniaethau Spencer yn gywir.

Os yw Wakefield yn dyddio o’r cyfnod 1238 ymlaen, byddai’r gwaith adeiladu wedi hen ddechrau yn Nolbadarn. Os felly mae sawl cwestiwn – a yw’r gorthwr crwn yn Nolbadarn yn hwyrach na chyfnod cychwynol y castell a’r cysylltfur allannol? Oes dau cyfnod o adeiladu yn Nolbadarn?

Ydi Spencer yn anghywir, os yw Wakefield yn adeilad o 1238 ymlaen?
Beth bynnag yw’r gwirionedd yma mae Spencer wedi codi cwestiynau a wedi dangos fod angen i ni edrych ar Gastell Dobadarn hefo llygaid llawer mwy agored na sydd wedi bod mewn defnydd hyd hyn.

Dangosoidd Spencer fod gan Siwan ystafell a gardd ei hyn, arwahan i ystafelloedd y brenin yn y twr crwn. Siwan wrthgwrs oedd merch Brenin John a gwraig Llywelyn Fawr, ffaith sydd yn amlygu beth oedd union statws tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif.



Felly mae Castell Dolbadarn yn llawer llawer pwysicach na rydyn wedi sylweddoli. Dim ond 20 oedd yn cael mynychu’r daith gerdded. Roedd Cymry Cymraeg yn eu plith ond doedd hon ddim yn sgwrs ddwy-ieithog. Nid beirniadaeth ar Spoenbcer yw hyn ond adlewyrchiad o sefyllfa gyffredinol o ran archaeoleg yng Nghymru sydd angen ei newid.

Llyfryddiaeth:
Hague, D, B, Warhurst, C., 1966, ‘Excavations at Sycharth Castle, Denbighshire, 1962-63’ Archaeologia Cambrensis Vol CXV  tt 108-127
Smith, G, S., 2014, ‘Excavations at Sycharth Castle 50 Years On’ medievalparksgardensanddesignedlandscapes.wordpress.com
Smith, G,S., 2003,  ‘Report on the Geophysical and Historical Survey at Sycharth Motte and Bailey’, Transactions of the Denbighshire Historical Society, Vol 52.
Smith, G,S., Recent research on Parks, gardens and Designed Landscapes of Medieval North Wales and the Shropshire Marches, PDF ar lein


No comments:

Post a Comment