Friday 16 February 2018

Glofa Berw, Cors Ddyga, Herald Gymraeg 7 Chwefror 2018‘

Lluniau drwy garedigrwydd Dan Amor
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd


Cors Ddyga’ medda nhw, Malltraeth Marsh yn Saesneg OND mae dau le gwahanol neu dwy gors – Cors Ddyga i’r dwyrain o Afon Fawr (Aber Cefni) a Chors Malltraeth i’r gorllewin o Malltraeth ac yn ymestyn bron hyd at Llangefni. Llygredd o’r enw Tygai sef y sant 6ed ganrif yw ‘Ddyga’ – Cors Tygai yw hwn go iawn felly?

Ar y cyd a’r RSPB roedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi trefnu diwrnod i glirio o amgylch ffermdy a beudy Glofa Berw yng Nghors Ddyga. Anodd dweud beth yn union oedd perthynas y ffermdy a’r gwaith glo drws nesa ond mae’r adeiladau o’r un cyfnod (hanner cyntaf y 19eg ganrif ar gyfer yr adeiladu glofaol).

Ein gwaith ni fel criw o archaeolegwyr ar y diwrnod oedd clirio dipyn o’r llysdyfiant a mieri tu allan i’r bwthyn a’r beudy a wedyn dechrau taclo’r tyfiant tu mewn i’r adeiladau. Wrth gyrraedd yn y bore dychmygais bod mwy na diwrnod o waith o’n blaenau ond erbyn amser cinio roedd rhywun yn dechrau gweld effaith ein hymdrechion.

Gan fod cymaint o’r tyfiant yn fieri mwyar duon, roedd talpiau yn llusgo gyda’u gilydd wrth i rhywun dorri eu gwaelodion a’r cribyn oedd ein ffrind gorau gan fod cribinio yn caniatau rhywun lusgo darnau sylweddol o’r mieri o’r neulltu yn weddol hawdd.



Y bwriad o ran yr RSPB (sydd yn rheoli’r safle) yw gwneud y safle yn fwy atyniadol ar gyfer ymwelwyr. Ymwelwyr yn y cyd-destun yma yw, unai pobl a diddordeb mewn archaeoleg diwydiannol neu yn fwy tebygol pobl yn reidio beics ar hyd y llwybr beicio am Langefni ac efallai am aros yma i gael seibiant neu bicnic neu wrthgwrs, ac efallai yn fwy amlwg, gwylwyr adar yn ymweld a Chors Ddyga.

Peth da yw gweld yr RSPB yn cydweithio a Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Dyma ni yr amgylchedd natur a’r hanesyddol yn cerdded llaw yn llaw. Felly ddylia hi fod – does na ddim un yn well na’r llall, ddim un ar draul y llall – dyma’r darlun llawn. Does dim i rwystro’r unigolyn rhag ymddiddori mewn natur ac archaeoleg, adar a hen simdde glofaol.

Bu gweithio glo yn ardal Pentre Berw a Llanfihangel Ysceifiog ar ddechrau’r 19eg ganrif a Glofa Berw yw’r unig un ac adeiladau sydd yn dal i sefyll – y simdde a’r adeilad gefail. Fel soniais uchod – dim ond rhyw 50 medr os hynny sydd rhwng y simdde a’r efail a’r ffermdy – a mae rhywun yn amlwg angen deall yn well beth oedd y berthynas rhyngddynt.

Dyma waith i rhywun yn Archifdy Môn onibai fod rhywun wedi gwneud y gwaith yn barod? Deallais fod rhywun wedi byw yn y bwthyn hyd at y 1980au. Erbyn heddiw mae’n adfail go iawn ac yn edrych fel petae wedi bod yn adfail ers canrif yn hytrach na 30-40 mlynedd ond dyna fo, munud mae’r to wedi disgyn buan iawn mae tŷ yn mynd iddi.

Gwaith ymchwill gwerthfawr felly fyddai recordio sgwrs hefo unrhywun sydd yn cofio’r bwthyn mewn defnydd neu yn well byth os oes unrhyw aelod o’r teulu dal yn fyw. Oes hen luniau ar gael tybed?

Syndod arall (o fath) yw pa mor sydun mae coed yn tyfu tu mewn i adfail, neu drwy’r to neu drwy’r waliau, felly joban arall oedd llifio rhai o’r man goediach o du fewn yr adeiladau. Eto, canlyniad y gwaith fydd caniatau i ymwelwyr grwydro o amgylch y safle yn haws a chael cyfle i werthfawrogi’r adeiladau.

Un o’r nodweddion adeiladol oedd yn drawiadol oedd y bwa uwch ddrws y sied drol neu sied y drol wair. Bwa sylweddol fel petae yn nofio ar awyr iach – er fod rhywun yn gwybod go iawn fod bwa yn cloi wrth ei gilydd ac o ganlyniad yn sefyll yn gadarn. Diolch i’r Rhufeiniaid – y nhw gyflwynodd y bwa i ni yma yng Nghymru mae’n debyg.

Os am wybodaeth pellach (mwy manwl) mae adroddiad 2001 Dr Dafydd Gwyn ‘Anglesey Coal Mines Archaeological Assesment’ Report No 408 ar gael ar safle we Archwilio.



Anodd ar hyn o bryd yw gweld gweddillion adeilad yr efail gan fod tyfiant a mieri drosto. Cytunwyd y byddai hwn yn brosiect bach da ar gyfer diwrnod arall a byddai clirio darn o’r efail eto yn caniatau i’r ymwelydd gael gwell dealltwriaeth o’r safle yn ei gyfanrwydd.

Dŵr mae’n debyg oedd y broblem fawr yn y pyllau glo gan fod y tir yma mor isel. Cyn adeiladu Cob Malltraeth roedd y ‘gors’ o dan y llanw wrth i’r mor lifo cyn belled a Llangefni wrth i’r llanw ddod i fewn. Caniataodd y Cob gyfle ar gyfer arall-gyfeirio o ran defnydd o’r tir a dyma ddechrau chwilio am lo. Doedd y glo ddim cystal ansawdd a glo y de a’r dwyrain ac efallai mai dyma pam nad oes neb bellach yn cysylltu Ynys Môn a gweithio glo?

Darn bach o hanes sydd wedi ei anghofio sydd yma ym Mhentre Berw. Hanes bach diddorol a mae’r simdde sydd yn dal i sefyll, ac yn werth ei weld, yn dyst i’r ffaith fod injan stem wedi cael ei leoli yma ar un adeg gyda’r bwrid o bwmpio’r dwr o’r dyfnderoedd. Rhaid bod y dwr yn rhywstr anferthol o ran datblygu’r gwaith.

Un stori drist ar adroddiad Glofa Berw ar safle Archwilio yw fod  iawndal wedi ei dalu i weddwon gweithwyr glo a gollwyd yma yn 1844. Dyna chi stori arall angof ond pwysig. Ewch am dro i Gors Ddyga – ddigon hawdd parcio a llwybrau cyfagos er fod angen sgidiau cerdded.




No comments:

Post a Comment