Monday 28 May 2018

Herald Gymraeg 16 Mai 2018 Digwyddiadau Mai 68



Chwech oed oeddwn’i yn 1968, felly dwi ddim yn cofio digwyddiadau Mai 1968 o gwbl. Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd effaith y digwyddiadau ym Mharis a rhannau eraill o Ffrainc ar gymedithas cefn gwlad Sir Drefaldwyn lle cefais fy magu. Efallai y dyliwn holi? Efallai dyliwn edrych ar rifynnau o’r Daily Post yn ystod Mai 1968?

Deng mlynedd yn ddiweddarach roeddwn yn dechrau clywed am y ‘Situationists Internationale’ a fu’n rhan o’r chwyldro yn ystod Mai ’68. Ond nid mewn llyfrau hanes y dysgais amdanynt ond drwy recordiau pop y Sex Pistols. Rwan. rwyf yn ymwybodol iawn fy mod wedi cyfeirio at y Sex Pistols a Punk Rock dros y blynyddoedd yn y golofn hon – efallai hyd at syrffed – ond dyma lle cefais rhan bwysig o fy addysg.

Dwi ddim yn cofio (nac yn gwybod) am unrhwyw grwp pop Cymraeg a ganodd am ddigwyddiadau Paris. Tueddu i ganu am y frwydr iaith ac am Gymru oedd grwpiau Cymraeg y 1960au hwyr a’r 1970au cynnar. Ddigon teg ac ofnadwy o bwysig ond roedd rhaid aros tan Geraint Jarman er mwyn cael edrych tu hwnt i ffiniau Cymru. Canodd Jarman am Amsterdam a Berlin. Diolchaf iddo.

Efallai mai record Steel Pulse ‘Ku Kluk Klan’ (1978) oedd un o’r gwerslyfrau pwysicaf. Dyma ni yn Sir Drefaldwyn ac yn dallt hi – roedd hiliaeth yn anghywir, yn wrthyn. Y wers nesa oedd ‘Glad To Be Gay’ (1987) gan y Tom Robinson Band neu TRB fel oedd pawb y neu galw. Dyma ni yn Sir Drefaldwyn yn dallt fod bod yn hoyw yn OK.

Digon o waith fod grwp Cymraeg o’r cyfnod wedi canu unrhywbeth mor agored a chân TRB. Dwi dal i fyw mewn gobaith fod na rhywbeth Cymraeg yn bodoli a mai fi sydd heb ddod ar ei draws eto. Ond, fedra’i ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd y ddwy record yma o ran fy ‘addysg gwleidyddol’. Roedd The Clash yn rhannu llwyfan gyda grwpiau reggae, roedd John Lydon bob amser yn sôn am ei hoffter o gerddoriaeth ‘dub’. Dyma ni yn 1978, Sir Drefaldwyn yn dallt hi.

Rheolwr y Sex Pistols oedd Malcolm McLaren, ei bartner oedd y cynllunydd dillad Vivienne Westwood. Adran gelf y Pistols oedd y cynlluynydd graffeg Jamie Reid. Bu cryn ‘fenthyg’ ar syniadaeth a delweddau’r Situationist Internationale gan Malcolm a Jamie. Yn ei ffordd roedd Vivienne hefyd, ac yn parhau i fod felly hyd heddiw, yn ‘Situationist’.

Beth bynnag oedd cryfderau’r gerddoriaeth yn eiriol neu o ran sŵn guitar Steve Jones rwyf yn dal i ddadlau fod syniadau Malcolm, dillad Vivienne a chelf Jamie wedi bod yr un mor bwysig i mi a chaneuon y Pistols. Cyflwyno rhywun i gelf a syniadaeth celf oedd y triawd yma. Ysbrydoli rhywun i greu. Ysbrydoli rhywun i ddysgu a gwthio pethau y neu blaen. Nawr roedd angen trawsblanu’r syniadau i’r ardd Gymreig.

Sawl gwaith cefais y cyfle i ganu ym Mahris gyda’r Anhrefn. Digwyddiadau Mai 68 a dylanwad Jamie Reid yn benodol arweiniodd at eiriau ‘Rhedeg i Paris’. Sion fy mrawd sgwennodd yr alaw, fi sgwennodd y geiriau. Galwad oedd yma i ni ddefnyddio dylanwadau Paris ’68 er mwyn gweithredu yng Nghymru. Ymdrech oedd yma i greu maniffesto a ffordd newydd o edrych ar weithredu yng Nghymru.

Hanner canrif yn ddiweddarach, a yw digwyddiadau Mai ’68 yn berthnasol? Ydynt os oes modd dysgu ohonynt a’u defnyddio fel ysbrydoliaeth i weithredu heddiw.Fel gwers hanes yn unig – dyna’r ôll fydd y digwyddiadau. Rhaid iddynt ysbrydoli os am fod yn berthnasol.
Bu gŵyl ‘Ffilm Mai 68’ yng nghanolfan Pontio dros benwythnos Gŵyl y Banc Mai. Wedi ei guradu gan Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst) cafwyd gwledd o ffilmiau radical / chwyldroadol o’r 1960au. Llwyddais i weld ‘Weekend’ gan Jean Luc Godard (1967) a ‘Daises’ gan Vera Chytliova (1966).

Ffilmiau heriol ar adegau, doniol ar adegau eraill. Ffilmiau o’r 1960au heb os, lliwiau’r 60au, seicadelia’r 1960au, rhyw y 1960au. Nid gwylio cyfforddus mo hyn. Profiad yn fwy na phleser er fod cryn bleser i’w gael o wylio’r ffilmiau. Ond roedd rhywun yn anesmwytho (ar adegau) ac yn chwerthin (ar adegau eraill).

Braf yw cael hyn ym Mangor. Braf fod Pontio yn cyflwyno’r ‘radical’. Yn ein cyfnod o ‘wrthryfela’ yn erbyn y gyfyndrefn Gymraeg (a Chymreig) drwy’r 1980au a’r 199au hyd at Cŵl Cymru dyma oedd y nod mewn fordd. Cael ffilmiau chwyldroadol yn cael eu dangos mewn canolfan gelfyddydau yng ngogledd Cymru yn hytrach na Manceionion neu Partis / Berlin / Amsterdam. Neu un rhan o’r nod.

Y ‘default’ Cymraeg yw tueddu tuag at y saff, y canol ffordd, y cyfarwydd, y hwiangerddol. Dim rhyw a dim rhegi Kate! Heblaw am “cadw dy blydi chips”, T Rowland. Heb os mae yna ‘default’. Dwi ddim yn gweld ‘default button’ yn Ngeriadur yr Academi ond dwi’n gwybnod ei fod yn bodoli.

Heddiw, boed digwyddiadau Mai 68 yn ddylanwad neu ddim, mae cenhedlaeth newydd o gerddorion, artistiaid, beirdd a llenorion sydd yn ymwrthod a’r ‘default button’. Does ond rhaid meddwl am awduron fel Manon Steffan Ross, Catrin Dafydd neu Llwyd Owen. Chwalwyd y ‘default button’ gan gerddorion fel Adwaith, Chroma, Oblong, Yucatan – does dim troi yn nôl go iawn faint bynnag o hwiangerddi pop gaiff eu rhyddhau.

Fy nadl yma mae’n debyg yw fod yr elfen o herio, o chwalu ffiniau, o wthio’r ffiniau yn parhau i fod yn ofnadwy o bwysig o ran diwylliant Cymraeg. Yn wir mae gwthio a chwalu yn hanfodol achos does dim hawlfraint ar Gymreigtod !

Wednesday 2 May 2018

Pensaerniaeth Garw, Herald Gymraeg 2 Mai 2018


Eglwys Sant Marc, Brithdir

Methiant llwyr fu fy ymdrechion i ddenu unrhyw gefnogaeth, diddordeb, cyd-ymdeilmad, gwerthfawrogiad ar gyfer gwaith pensaerniol ‘Garw’ (Brutalist) Basil Spence yn Atomfa Trawsfynydd. Tyrau’r adweithyddion niwclear sydd fwyaf amlwg. Fel rhyw ffug gastell ond nid mor ‘Neo-Normanaidd’ a gwaith Thomas Hopper (1776-1856) yng Nghastell Penrhyn.

Tybiaf, heb fawr o ‘os nac onibai’, mai’r ffaith mai adweithyddion niwclear sydd yma sydd yn bennaf gyfrifol am y diffyg gwerthfawrogiad. Os felly, petae gwaith Spence yn rhywbeth arall, yn rhywle arall, yng ngogledd Cymru ydw’i yn iawn i feddwl byddai pawb yn llawer mwy cefnogol?

Rhag ofn fod rhai yn ansicr pwy yw Basil Spence. Fo oedd pensaer y gadeirlan newydd yng Nghofentri. Ei lyfr 1962, Phoenix at Coventry, The Building of a Cathedral – by its Architect BASIL SPENCE, yw un o’r llyfrau mwyaf ysbrydoledig dwi erioed wedi ddarllen. Dysgais yn ddiweddar fod Johnny Marr gitarydd The Smiths yn gefnogwr brwd o’r Manchester Modernist Society. Da chi’n gweld – mae yna bobl allan yna wrth eu bodd hefo’r ‘garw’ a’r concrit.

Efallai yr hyn sydd yn corddi rhywun yw’r ffaith yma – dyma chi bensaer arloesol a dylanwadol ond mae ei waith yng ngogledd Cymru yn cael ei ddi-ystyru yn llwyr oherwydd y cysylltiad niwclear. Er hyn, rwyf yn derbyn y dadleuon gwrth-niwclear ac yn ochri yn foesol. Efallai na ddylia’r hen Basil fod wedi derbyn y comisiwn yn y lle cyntaf? Dwi rioed di meddwl am Spence / Traws fel hyn o’r blaen.

Wrth gyfeirio at waith Thomas Hopper uchod yng Nghastell Penrhyn, cawn engraifft arall o adeilad rhyfeddol lle nad oes modd osgoi’r gwleidyddol. I’r rhan fwyaf ohonnom mae Castell Penrhyn yn rhy agos ei gysylltiad a Streic Fawr y Penrhyn 1900-1903 a’r hen ‘Sholto’. Cywir – does dim modd osgoi y gwleidyddol, a dwi ddim yn dadlau y dylid nac fod angen gwneud hynny.

Ond, byddwn hefyd yn dadalau fod y gwely o lechan a adeiladwyd ar gyfer ymweliad y Frenhines Fictoria yn 1859 yn wrthrych rhyfeddol. Wedi ei greu gan grefftwr lleol. Dan orfodaeth? Chawn byth wybod hynny mae’n debyg? Sut mae cysoni hyn ôll? Gwerthfawrogiad o’r bensaerniaeth tra yn gwrthwynebu’r ideoleg a’r gwleidyddiaeth – dyna’r her mewn ffordd.



Eglwys Sant Marc ym Mrithdir ychydig i’r de o Ddolgellau yw un o ryfeddodau pensaerniol gogledd Cymru. Arddull Celfyddyd a Chreft drwyddi draw a gweledigaeth y pensaer Henry Wilson (1864-1934). Adeilad arall sydd o’r dechrau un wedi hollti barn.

Syniad a gweledigaeth Wilson oedd adeiladu’r eglwys o gerrig amrwd, heb eu trin yn ormodol fel fod yr adeilad yn ymddangos fel petae yn codi yn ‘naturiol’ o’r graig. Rhan o feddylfryd Wilson o fewn y symudiad Celfyddyd a Chrefft oedd hyn. Agos at natur. Agosach at natur.

Heddiw mae Eglwys Sant Marc yn ddigon anodd i’w gweld oherwydd y coed o amgylch y fynwent ond mae’r elfen yna o’r adeiladwaith o gerrig naturiol hefyd yn caniatau i’r eglwys fodoli yn, a thoddi i’r dirwedd naturiol, i eistedd yn dawel heb weiddi. Agorwyd yr eglwys yn 1898.

Er fod Wilson wedi pwysleisio mai ei weledigaeth oedd adeilad oedd yn amrwd, cerrig heb eu trin yn ormodol, naturioldeb Celfyddyd a Chrefft, mae’n debyg iddo gael trafferth gyda’r seiri maen. Wrth reswm mae crefftwyr a seiri maen yn benodol yn falch iawn o’u gwaith a’r stori yw fod yr adeiladwyr wedi gwrthod gwrando ar Wilson a mynnu fod eu gwaith yn fwy cywrain.

Pensaer ifanc o’r enw Herbert Luck North oedd yn gyfrifolo am y gwaith dydd i ddydd ym Mhrithdir ar ran Henry Wislon. Os yw’r srori yn gywir, rhaid fod cryn bwysdau ar y pensaer ifanc wrth iddo fethu darbwyllo’r crefftwyr fod angen cadw pethau’n fwy amrwd.

Does dim son fod Wilson yn bresennol yn ystod y gwaith felly roedd yr holl gyfrifoldeb ar ysgwyddau ifanc North. Awgrymai Adam Voelcker yn ei lyfr (2011) Herbert Luck North, Arts and Crafts Architecture for Wales fod hyn wedi bod yn ormod i North druan.



Yn fy ngholofn bythefnos yn ôl wrth gyfeirio at yr hen eglwys (bosib) ger Hafod y Gelyn, Cwm Anafon yn y Carneddau soniais am Herbert Luck North fel un o awduron The Old Churches of Snowdonia (1924).

Mewn amser daeth North i amlygrwydd am ei dai gwynion gyda thoeau hir ac uchel. The Close yn Llanfairfechan yw un o’r engreifftiau gorau o waith Herbert Luck North mewn un safle neu Ffordd Seiriol yn ardal Hirael Bangor lle gwelir dwy res o dai.

Adeilad yn yr un arddull yw Ysbyty’r Bwthyn (1929) yn Nolgellau a’r neuadd yng Nghaerhun (Neuadd yr Eglwys). Os yw’r tai gwynion gyda thoeau uchel yn nodweddiadol o bensaerniaeth North mae’r gwaith haearn dros fedd ‘We Aer Seven’ ym mynwent yr eglwys yng Nghonwy yn dilyn yr un patrwm a ffurff o ran yr onglau. Yr un siap sydd i dalcen tai North a sydd mewn trawsdoriad i’r gofeb ‘We Are Seven’.

Efallai nad oes modd osgoi’r gwleidyddol ac yn sircr rwyf o blaid dadlau a thrafod y gwleidyddol ond rhaid hefyd (ar adegau)  rhoi y gwleidyddol o’r neulltu er mwyn gwerthfawrogi’r pensaerniaeth. Rhaid gweld y bensaerniaeth am y bensaerniaeth nid am y cyd-destun gwleidyddol. Rwyf ar dir peryglus yma. Dwi’n gwybod hynny ond mae Spence, Hopper a North ôll yn deilwng o werthfawrogiad.

Rwyf yn gweld prydferthwch yn y ‘garw’ ac yn naturioldeb Celfyddyd a Chrefft. Am hynny rwyf yn gwrthod ymddiheuro.